Y peth gorau am astudio ym Mangor yw medru astudio fy nghwrs gradd trwy gyfrwng fy mamiaith a datblygu perthnasoedd da gyda fy nghyd-fyfyrwyr ar y cwrs a'r darlithwyr.
Pa gefnogaeth sydd ar gael i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg?听
Yn ystod eich cyfnod ym Mangor, byddwch chi鈥檔 cael cyfle i ennill Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae鈥檙 Dystysgrif yn cael ei derbyn gan lawer o gyflogwyr fel prawf o鈥檆h gallu i weithio鈥檔 gywir ac effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd tiwtor yn eich helpu chi i baratoi ar gyfer arholiad llafar ac ysgrifenedig y Dystysgrif a datblygu eich sgiliau iaith ar yr un pryd, a hynny drwy gyfuniad o ddarpariaeth ar-lein a sesiynau wyneb yn wyneb. 听
Os ydych chi am ymgeisio am y Dystysgrif eleni, bydd angen i chi gofrestru erbyn 8 Tachwedd 2023. 听
Cysylltwch 芒 ni am fwy o wybodaeth.听 听
Mae Canolfan Bedwyr yma i鈥檆h cefnogi chi i ddatblygu eich sgiliau iaith Gymraeg yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol. Ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn gyntaf, rydyn ni鈥檔 cynnig y modiwl yn Semestr 1: CCB-1101 Sgiliau Defnyddio鈥檙 Gymraeg 1 (20 credyd).
Nod y modiwl yw codi hyder llafar ac ysgrifenedig myfyrwyr yn y Gymraeg. Bydd yn eich helpu chi i wneud aseiniadau yn y Gymraeg yn eich prif bynciau ac yn eich paratoi at fyd gwaith dwyieithog. Mae鈥檙 modiwl yn addas hefyd ar gyfer rhai sy鈥檔 astudio鈥檙 Gymraeg fel ail iaith. 听听
Cysylltwch 芒 ni am fwy o wybodaeth.听听
Mae'r t卯m Cefnogi Dysgu ac Addysgu yn darparu ystod o wasanaethau rhad ac am ddim wedi'u cynllunio i hwyluso symud i Brifysgol ac i'ch helpu i elwa o'ch astudiaethau.
Rydym yn gweithio o fewn adrannau academaidd ac yn cynnig rhaglen o weithdai. Ewch i'n tudalennau gwe am fwy o wybodaeth neu i wneud apwyntiad. Mae croeso i chi hefyd gyslltu 芒 ni drwy ebost.
Rydym wedi ein lleoli yn y Brif Lyfrgell. Mae pob gwasanaeth ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.听
Modiwlau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog Blwyddyn 1 2024/25
Mae'r modiwlau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog wedi eu rhestru fesul Coleg ac Ysgol isod.
Noder os gwelwch yn dda bod y rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid.
Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas
Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau
Ysgrifennu Creadigol, Llenyddiaeth Saesneg, Ffilm, Y Cyfryngau a Newyddiaduraeth
听
Bydd y modiwl hwn yn cynnig arweiniad yngl欧n 芒 sut i ddadansoddi'r ddelwedd symudol yn ogystal 芒 chyflwyno鈥檙 eirfa dechnegol i'ch galluogi i ddadansoddi a thrafod sut mae ffilmiau'n cyfleu ystyr. Bydd hefyd yn llywio eich dewisiadau creadigol eich hun fel gwneuthurwr ffilmiau. Mae鈥檙 darlithoedd yn ymdrin 芒 phynciau fel: Mise-en-Sc猫ne, Golygu, Gwaith Camera, Sain, Goleuo, Actio, Perfformio ac Arddull. Mae dangosiadau wythnosol yn dangos agweddau perthnasol ar ffurf ffilm. Mae ffilmiau i'w dangos yn newid yn rheolaidd i ddarparu amrywiaeth o gynnwys yn ogystal ag adlewyrchu amrywiaeth y rhai y tu 么l ac o flaen y camera ond gallant gynnwys: Get Out, American Psycho, Run Lola Run, Black Swan ac eraill.
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i amryw o elfennau creadigol a fydd yn rhan o鈥檜 cynlluniau gradd, gyda phwyslais arbennig ar sgiliau generaidd y gellir ei defnyddio mewn gwahanol feysydd cynhyrchu o fewn y cyfryngau. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys datblygu ac ymchwilio syniadau, technegau a dulliau cynhyrchu sylfaenol, ac adfyfyrio a gwerthuso beirniadol. Bydd yn cyflwyno sylfaen buddiol ar gyfer elfennau ymarferol y ddarpariaeth Ffilm, Cyfryngau a Newyddiaduraeth a gyflwynir yn yr ysgol yn ddiweddarach, ac yn cynorthwyo鈥檙 myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau beirniadol.
Dyma fodiwl sydd yn cyflwyno鈥檙 myfyrwyr i鈥檙 sgiliau a鈥檙 technegau sylfaenol a fydd yn eu galluogi i greu cynyrchiadau fideo a sain. Cyflwynir y myfyrwyr i鈥檙 offer a鈥檙 dulliau cynhyrchu perthnasol, a chyflawnir cyfres o dasgau sydd yn ymwneud ag agweddau penodol o waith cynhyrchu, er enghraifft ffilmio, recordio sain a golygu. Rhoddir sylw i鈥檙 prosesau cyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac 么l-gynhyrchu, gan drafod enghreifftiau defnyddiol. Bydd y myfyrwyr hefyd yn adfyfyrio ar y gwaith drwy ddadansoddi鈥檙 hyn a gyflawnir.
Mae鈥檙 modiwl hwn yn rhoi'r sgiliau sylfaenol a'r wybodaeth angenrheidiol i fyfyrwyr ar gyfer gyrfa mewn newyddiaduraeth. Mae'n ymdrin 芒 phynciau fel ysgrifennu newyddion, technegau cyfweld, ysgrifennu ar gyfer gwahanol gyfryngau a sut i strwythuro stori. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i helpu myfyrwyr ddatblygu sylfaen gref mewn newyddiaduraeth, tra hefyd yn darparu profiad ymarferol trwy ymarferion ac aseiniadau ymarferol.
Mae cymdeithas yn dylanwadu'n barhaus ar iaith - gan y bobl sy'n siarad iaith benodol a'r ffyrdd maen nhw鈥檔 ei defnyddio. Mae'r modiwl hwn yn eich cyflwyno i faes sosioieithyddiaeth, sef astudio effaith ffactorau cymdeithasol ar iaith. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth tafodieithol, amrywiaeth arddull, gwahaniaethau siarad rhwng siaradwyr o wahanol oedrannau, rhyweddau, a ffyrdd eraill y mae iaith lafar yn amrywio. Mae ystyriaeth hefyd o gyd-destunau amlieithog a ffyrdd y gall iaith ei heffeithio鈥檔 bwrpasol gan e.e. ymdrechion i safoni. Mae'r modiwl yn canolbwyntio ar Saesneg, ond ystyrir ieithoedd eraill hefyd lle bo hynny'n berthnasol. Yn ogystal 芒 dysgu sylfeini astudiaeth gymdeithasol-ieithyddol, byddwch hefyd yn dysgu sgiliau trosglwyddadwy fel gwaith t卯m, disgrifio data iaith a gwerthfawrogi gwahanol ddiwylliannau ieithyddol. Mae dau aseiniad yn y modiwl: adroddiad canol tymor sy'n gofyn i chi ateb cwestiynau ar amrywiad iaith, a phrawf terfynol o gynnwys y modiwl. Nid oes angen cefndir blaenorol mewn ieithyddiaeth nac astudiaeth iaith i ddilyn y modiwl hwn. (Nodyn: mae'r modiwl QXL-1113 Language and Society yn rhannu darlithoedd gyda'r modiwl hwn.)听
Nod y maes ieithyddiaeth (*linguistics*) yw disgrifio a chategoreiddio ieithoedd o ran eu systemau gramadegol - e.e. y synau sy鈥檔 cael eu defnyddio, neu sut i ffurfio brawddeg. Bwriad y modiwl cyfrwng Cymraeg hwn yw cyflwyno myfyrwyr i wahanol agweddau o strwythur gramadegol iaith, gyda ffocws ar y Gymraeg ond gan gyfeirio at ieithoedd eraill hefyd. Byddwch chi鈥檔 dysgu am sut i gategoreiddio iaith o ran ei gwahanol fathau o eiriau, sut i drawsgrifio sain iaith mewn ffordd fanwl gywir, disgrifio鈥檙 modd adeiladu geiriau ac adeiladu brawddegau. Byddwch chi鈥檔 datblygu sgiliau mewn adnabod a chymharu gwahanol nodweddion iaith fel y Gymraeg mewn ffordd academaidd, a hefyd byddwch yn dysgu mwy am gyd-destun y Gymraeg o ran lle mae鈥檔 dod o yn wreiddiol a sut mae pobl yn ei defnyddio hi heddiw. Mae dau aseiniad i鈥檙 modiwl, sef adroddiad sy鈥檔 gofyn i chi ddisgrifio a labelu esiamplau o ramadeg Cymraeg, ac ysgrifennu sawl traethawd byr am strwythur iaith. Mae鈥檙 modiwl hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sydd 芒 diddordeb yn yr iaith Gymraeg, gan gynnwys myfyrwyr ieithyddiaeth, ieithoedd modern, cymdeithaseg a/neu lenyddiaeth, ac nid oes angen unrhyw gefndir penodol arnoch i gymryd y modiwl hwn.
Modiwl sy鈥檔 galluogi i fyfyrwyr sydd wedi gwneud Lefel A Ffrangeg ddatblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar drwy ehangu ar y gallu ieithyddol a gafwyd yn ystod Lefel A. Mae cyfle i ddatblygu sgiliau cyfieithu ac ysgrifennu, yn ogystal 芒 sgiliau llafar/ gwrando. Bydd myfyrwyr hefyd yn adolygu a datblygu meysydd allweddol o ramadeg. Daw鈥檙 testunau a鈥檙 deunyddiau a ddefnyddir yn y modiwl hwn o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys y cyfryngau a darnau llenyddol er mwyn dod i arfer 芒 gwahanol gyweiriau. Bydd myfyrwyr yn cael cipolwg ar them芒u Ffrengig penodol a materion sy鈥檔 ymwneud 芒 bywyd a chymdeithas gyfoes yn y gwledydd Ffrangeg eu hiaith. Cefnogir dysgu y tu allan i鈥檙 ystafell ddosbarth trwy Bortffolio Hunanastudiaeth gyd-gwricwlaidd.
Mae鈥檙 modiwl hwn yn barhad o LCF-1001, a鈥檌 nod yw gwella sgiliau llafar, gwrando ac ysgrifenedig Ffrangeg myfyrwyr lefel uwch.
Modiwl sy鈥檔 addas i ddechreuwyr ynghyd 芒 myfyrwyr sydd wedi astudio Ffrangeg hyd at TGAU. Mae鈥檔 canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau llafar, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Bydd myfyrwyr yn dysgu ac ehangu geirfa ac yn dod i ddeall a medru defnyddio gramadeg Ffrangeg. Byddant hefyd yn datblygu eu sgiliau llafar a鈥檜 hyder i siarad Ffrangeg mewn dosbarthiadau sgwrsio gyda siaradwr brodorol.
Modiwl sydd wedi ei anelu at fyfyrwyr sydd wedi cwblhau鈥檙 modiwl LCF-1003. Nod y modiwl yw adeiladu ar y sgiliau sylfaenol a ddysgwyd yn semester 1 er mwyn cyrraedd safon sy鈥檔 cyfateb i Lefel A. Bydd myfyrwyr yn defnyddio a datblygu鈥檙 eirfa a鈥檙 gramadeg a ddysgwyd yn semester 1, a bydd sgiliau llafar a鈥檙 hyder i siarad Ffrangeg yn cael eu datblygu ymhellach mewn dosbarthiadau sgwrsio gyda siaradwr brodorol.
Modiwl sy鈥檔 galluogi i fyfyrwyr sydd wedi gwneud Lefel A ddatblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar drwy ehangu ar y gallu ieithyddol a gafwyd yn ystod Lefel A. Mae cyfle i ddatblygu sgiliau cyfieithu ac ysgrifennu, yn ogystal 芒 sgiliau llafar/ gwrando. Bydd myfyrwyr hefyd yn adolygu a datblygu meysydd allweddol o ramadeg. Daw鈥檙 testunau a鈥檙 deunyddiau a ddefnyddir yn y modiwl hwn o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys y cyfryngau a darnau llenyddol er mwyn dod i arfer 芒 gwahanol gyweiriau. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cipolwg ar them芒u Sbaenaidd penodol a materion sy鈥檔 ymwneud 芒 bywyd a chymdeithas gyfoes yn y gwledydd Sbaeneg eu hiaith. Cefnogir dysgu y tu allan i鈥檙 ystafell ddosbarth trwy Bortffolio Hunan-astudiaeth gyd-gwricwlaidd.
Mae鈥檙 modiwl hwn yn barhad o LCS-1001, a鈥檌 nod yw gwella sgiliau llafar, gwrando ac ysgrifenedig Sbaeneg myfyrwyr lefel uwch.
Modiwl sydd wedi ei anelu at ddechreuwyr a myfyrwyr sydd wedi astudio TGAU Sbaeneg. Mae鈥檔 canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyfathrebu llafar, clywedol ac ysgrifenedig sylfaenol. Mae鈥檔 cynnwys cyflwyniad ac adolygiad o elfennau gramadegol allweddol a geirfa ac ymadroddion cyffredin sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 hunan, y teulu, bywyd pob dydd, hob茂au, hoff bethau a chas bethau a chwarae r么l. Trwy gymhorthion clywedol/ gweledol, bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ddiwylliant a chymdeithas Sbaen.
Modiwl sydd wedi ei anelu at fyfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf sydd wedi astudio Sbaeneg i Ddechreuwyr a Myfyrwyr Canolradd 1. Nod y modiwl yw datblygu鈥檙 sgiliau llafar, clywedol ac ysgrifenedig sylfaenol a ddysgwyd yn semester 1 er mwyn i fyfyrwyr ddatblygu鈥檙 hyfedredd sy鈥檔 cyfateb i safon Lefel A. Bydd myfyrwyr yn defnyddio鈥檙 egwyddorion gramadegol a ddysgwyd yn semester 1 i ysgrifennu darnau estynedig. Byddant hefyd yn canolbwyntio ar strwythurau gramadegol mwy cymhleth. Datblygir sgiliau gwrando trwy ymarferion gwrando a deall gyda thapiau sain a fideo a bydd gofyn i fyfyrwyr roi cyflwyniadau unigol ar bynciau mwy cymhleth.
Datblygu dealltwriaeth o elfennau iaith cerddoriaeth (melodi, harmoni, gwrthbwynt, rhythm) drwy astudio ymarfer cyfansoddi yng nghyfnodau鈥檙 Dadeni hwyr a鈥檙 Baroc yn ogystal ag elfennau o gerddoriaeth boblogaidd fodern.
Cyflwyno astudiaethau cerddoregol trwy arolwg o hanes cerddoriaeth rhwng 1850 a heddiw, ynghyd 芒 chyfres o weithdai ar sgiliau astudio. Mae鈥檙 modiwl yn cynnig arolwg o weithiau mewn amrywiaeth o genres 鈥榗lasurol鈥 a phoblogaidd. Gosodir newidiadau a datblygiadau mewn arddull gerddorol yn eu cyd-destunau hanesyddol, diwylliannol, cymdeithasol, daearyddol ac esthetaidd.
Nod y modiwl hwn yw arfogi myfyrwyr 芒鈥檙 wybodaeth a鈥檙 ddealltwriaeth sylfaenol o gyfansoddi gan ddefnyddio offerynnau, lleisiau a thechnoleg. Mi fydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyfansoddi cerddoriaeth a chreu celf sonig gan ddefnyddio enghreifftiau o weithiau arwyddocaol ac ymagweddau creadigol o鈥檙 20fed a鈥檙 21ain ganrif.
Mae鈥檙 modiwl hwn yn gymar i Gyfansoddi a Chelf Sonig A. Bydd y modiwl yn darparu鈥檙 sylfaen sy鈥檔 ofynnol i symud ymlaen i fodiwlau ail flwyddyn sy鈥檔 archwilio cyfansoddi a chreadigrwydd sonig ymhellach.
Cyfuno rhaglen o hyfforddiant ar offeryn neu lais ynghyd 芒 chyflwyniad i amrywiaeth o faterion sydd o bwys i berfformwyr, gan gynnwys paratoi a chyflwyno datganiad, technegau ymarfer effeithiol, gweithio gyda cherddorion eraill, gwahanol ddulliau o ddehongli. Er mai yn Semester 2 mae鈥檙 modiwl hwn yn rhedeg, mae gwersi offerynnol/lleisiol a gweithdai ymarferol yn dechrau yn Semester 1. Mae鈥檙 modiwl hwn ar gael yn unig i fyfyrwyr sydd yn dilyn gradd mewn Cerddoriaeth neu radd cydanrhydedd mewn Cerddoriaeth gyda phwnc arall (e.e. Cymraeg).
Estyn astudiaethau cerddoregol trwy arolwg o hanes cerddoriaeth Ewropeaidd rhwng 1550 a 1850, ynghyd 芒 chyfres o weithdai ar sgiliau astudio uwch. Gosodir y newidiadau a鈥檙 datblygiadau mewn arddull gerddorol yn eu cyd-destunau hanesyddol, diwylliannol, cymdeithasol, daearyddol ac esthetaidd.
Mae Cyflwyniad i Ysgrifennu Drama yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio鈥檙 broses ysgrifennu ar gyfer perfformio. Gan ganolbwyntio鈥檔 bennaf ar ysgrifennu gwaith newydd i鈥檙 llwyfan, sut mae rhywun yn datblygu鈥檙 ymarfer o lunio naratif, datblygu cymeriad, dadansoddi strwythur a drafftio syniadau i fod yn gynhyrchiad? Edrychir ar y berthynas a鈥檙 cydweithio rhwng yr awdur 芒鈥檙 cyfarwyddwr a鈥檙 actorion ynghyd 芒 gwerthuso鈥檙 tebygrwydd a鈥檙 gwahaniaethau allweddol i ysgrifennu ar gyfer y sgrin.
Mae Dyfeisio Theatr yn gyfle i gael eich cyflwyno i faes pwnc theatr a pherfformio. Archwilio o fewn gweithdai ymarferol, sut i greu eich gwaith perfformio eich hun gyda gr诺p o bobl eraill, sut y gall rhywun lunio drama wreiddiol, a datblygu fel actor, cyfarwyddwr, awdur, dylunydd鈥 wrth wneud gwaith byw. Cewch eich cyflwyno i ddram芒u clasurol, cyfoes, abs岷價d ac ysgrifennu rhai newydd ynghyd 芒 sawl ymarferydd theatr sydd wedi ffurfio鈥檙 ffordd yr ydym yn gwneud ac yn gwylio gwaith perfformio byw heddiw. Archwilir prosesau cynhyrchu, cewch eich annog i fynd i weld perfformiadau byw a gwaith perfformio digidol gyda chyfle cyffrous i greu eich darn perfformio eich hun erbyn diwedd y tymor. Mae croeso i chi berfformio, ysgrifennu, cyfarwyddo鈥檙 gwaith perfformio a chael cyfle i archwilio ac arbrofi.
Edrychir ar waith dramodwyr fel Ibsen, Strindberg, Chekhov, Brecht, Beckett ac eraill, a byddwn yn trafod dylanwad gwleidyddiaeth, chwyldro a rhyfel ar ddatblygiad y ddrama yn Ewrop. Trwy astudio cyfieithiadau Cymraeg o rai o ddram芒u mawr y byd, dyma fodiwl rhyngwladol sy'n rhoi cefndir gwerthfawr i hanes y ddrama yng Nghymru.听
Yn y modiwl hwn dysgir myfyrwyr sut i lunio sgript tua 24 munud o hyd ar gyfer pennod o gyfres deledu. Trafodir gofynion cyfres deledu fel cyfrwng dramatig, a gofynnir i鈥檙 myfyrwyr gyflwyno dadansoddiad manwl o natur y cymeriadau a llunio cast ar gyfer y gyfres; llunnir braslun o blotiau鈥檙 gyfres ac yna grynodeb o gynnwys y bennod; eir ymlaen i lunio bwrdd storio. Ceir cyfarwyddyd manwl ar sut i lunio deialog, a dysgir sut i gyflwyno sgript orffenedig sy鈥檔 dilyn y confensiynau arferol.鈥
听
Dyma fodiwl sydd yn cyflwyno鈥檙 myfyrwyr i鈥檙 sgiliau a鈥檙 technegau sylfaenol a fydd yn eu galluogi i greu cynyrchiadau fideo a sain. Cyflwynir y myfyrwyr i鈥檙 offer a鈥檙 dulliau cynhyrchu perthnasol, a chyflawnir cyfres o dasgau perthnasol. Rhoddir sylw i鈥檙 prosesau cyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac 么l-gynhyrchu, gan drafod enghreifftiau defnyddiol. Bydd y myfyrwyr hefyd yn adfyfyrio ar y gwaith drwy ddadansoddi鈥檙 hyn a gyflawnir.
Mae鈥檙 modiwl hwn yn fodd o alluogi myfyrwyr i ddysgu hanfodion dadansoddi鈥檙 ddelwedd symudol. Bydd myfyrwyr ar y modiwl yn dysgu terminoleg dechnegol a fydd yn eu cynorthwyo i ddadansoddi鈥檙 ffordd y mae ffilm yn cyfathrebu ystyr. Bydd darlithoedd unigol yn trafod pynciau megis Mise-en-Sc猫ne, Montage, Gwaith Camera, Sain, Goleuo ac Arddull Weledol. Bydd dangosiadau o ffilmiau perthnasol yn cael eu cynnal yn wythnosol, er mwyn cyflwyno enghreifftiau o鈥檙 pynciau dan sylw.
Ysgol y Gymraeg
Mae pwyslais y modiwl hwn ar ddatblygu sgiliau ysgrifennu traethodau a thrafod ar lafar drwy ganolbwyntio ar ddetholiad o weithiau gan awduron o鈥檙 unfed ganrif ar hugain. Rhoddir sylw i faterion pwysig fel ll锚n-ladrad yn ogystal ag agweddau technegol, e.e. trefnu troednodiadau a dulliau cyfeirio safonol.听听
Edrychir ar waith dramodwyr fel Ibsen, Strindberg, Chekhov, Brecht, Beckett ac eraill, a byddwn yn trafod dylanwad gwleidyddiaeth, chwyldro a rhyfel ar ddatblygiad y ddrama yn Ewrop. Trwy astudio cyfieithiadau Cymraeg o rai o ddram芒u mawr y byd, dyma fodiwl rhyngwladol sy'n rhoi cefndir gwerthfawr i hanes y ddrama yng Nghymru.
听
Modiwl ymarferol ei bwyslais sy鈥檔 anelu at godi hyder myfyrwyr wrth arfer y Gymraeg yn ysgrifenedig. Mewn cyfres o ddosbarthiadau eglurhaol, trafodir y modd y mae gramadeg yn gweithio yn yr iaith fyw. Ceir trafodaeth ar gategor茂au a ffurfiau safonol a cheisir gweld sut y defnyddir hwy mewn detholiad o destunau, mewn sawl cywair.听听
Mae pwyslais y modiwl hwn ar ddatblygu sgiliau beirniadol myfyrwyr. Ceir cyflwyniad i ddetholiad o ddamcaniaethau beirniadol ac i egwyddorion beirniadaeth lenyddol. Bydd y prif bwyslais ar agweddau ymarferol beirniadaeth lenyddol.听听
Cyflwyniad cryno i lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, gan ganolbwyntio ar ddetholion o weithiau chwedlonol ynghyd 芒 gweithiau hanesyddol eu natur.听听
Yn y modiwl hwn dysgir myfyrwyr sut i lunio sgript tua 24 munud o hyd ar gyfer pennod o gyfres deledu. Trafodir gofynion cyfres deledu fel cyfrwng dramatig, a gofynnir i鈥檙 myfyrwyr gyflwyno dadansoddiad manwl o natur y cymeriadau a llunio cast ar gyfer y gyfres; llunnir braslun o blotiau鈥檙 gyfres ac yna grynodeb o gynnwys y bennod; eir ymlaen i lunio bwrdd storio. Ceir cyfarwyddyd manwl ar sut i lunio deialog, a dysgir sut i gyflwyno sgript orffenedig sy鈥檔 dilyn y confensiynau arferol.听
Un o fodiwlau craidd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yw hwn, ond nid yw鈥檔 gyfyngedig i鈥檙 rhai sy鈥檔 dilyn y cynllun gradd hwnnw. Yn wir, nid oes raid wrth brofiad blaenorol o ysgrifennu creadigol er mwyn dilyn y modiwl: ond yn hytrach ddiddordeb gwirioneddol yn y maes a pharodrwydd i roi cynnig ar wahanol fathau o ysgrifennu creadigol.听听
Dyma gyflwyniad i gyffro llenyddiaeth Gymraeg rhwng tua 1700-1900, cyfnod o drawsnewidiadau gwleidyddol, technolegol a chrefyddol. Sut aeth beirdd ac awduron Cymraeg ati i wynebu her yr oes hon o chwyldro? Yn ogystal 芒 thrafod nifer o 鈥榙robwyntiau鈥 llenyddol sy鈥檔 enghreifftio newydd-deb y cyfnod, ystyriwn barhad gwahanol agweddau traddodiadol. Dan sylw fydd llenorion pwysig megis yr emynwyr Williams Pantycelyn ac Ann Griffiths, Radicaliaid megis Jac Glan-y-Gors ac Iolo Morganwg, ac ymgyrchwyr pwysig megis Sarah Jane Rees (Cranogwen).听
Amcan y modiwl hwn yw arfogi myfyrwyr gyda鈥檙 wybodaeth, y ddealltwriaeth a鈥檙 sgiliau a fydd yn eu galluogi maes o law i gyfrannu at y broses o gynllunio a chynnal y Gymraeg o fewn byd gwaith. Y mae鈥檙 modiwl yn tywys myfyrwyr drwy鈥檙 broses o gynllunio a gweithredu strategaethau iaith mewn gweithleoedd gan roi blas iddynt hefyd o realiti鈥檙 broses drwy ddeuddydd o leoliad gwaith yn un o adrannau鈥檙 Brifysgol. Wedi dilyn y modiwl bydd myfyrwyr yn deall gwerth eu sgiliau Cymraeg eu hunain mewn cyd-destun proffesiynol ac yn deall hefyd sut i fynd ati i sicrhau lle amlwg i鈥檙 Gymraeg mewn gweithle lle y mae鈥檙 Gymraeg a鈥檙 Saesneg yn cael eu defnyddio.
听
Modiwlau Cymraeg Ail Iaith
This module will develop your spoken Welsh skills, giving attention to various registers of the language, formal and informal. We鈥檒l use TV, radio, films and music to get the discussions started.听
Mae鈥檙 modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu medrau llafar. Rhoddir sylw i wahanol gyweiriau鈥檙 iaith, o鈥檙 tafodieithol i鈥檙 ffurfiol. Bydd hyfedredd yn cael ei feithrin drwy drafod materion cyfoes, gyda chyflwyniadau gan y myfyrwyr ar amrywiol bynciau. Defnyddir deunydd cyfredol o鈥檙 teledu, radio a byd ffilm i gyflwyno pynciau a sbarduno trafodaeth.听
A module designed to hone your written Welsh skills, paying attention to different styles and registers, from formal to informal.听You will write regular short pieces, factual and fictional, and receive detailed feedback.
Gofynnir i fyfyrwyr ysgrifennu darn byr o Gymraeg yn rheolaidd. Gosodir tasgau o natur ffeithiol (e.e. crynodeb neu fwletin newyddion) a hefyd greadigol (e.e. stori fer neu bortread). Bydd pwyslais y modiwl ar ymarfer ysgrifennu鈥檔 raenus ac yn gywir
A series of seminars giving you the chance to study different literary genres, e.g., poetry, a novel, a TV drama.听
Bydd cyfle i astudio pedwar gwahanol genre drwy gyfrwng enghreifftiau diweddar, e.e. casgliad o gerddi, nofel a drama deledu. Dysgir drwy gyfres o seminarau.
Gweler y modiwl isod.
A series of seminars in which we take a look at some of the highlights of Welsh literature, from the earliest poetry and the medieval legends of the Mabinogi, to the most recent works.听Yn ystod y ddau fodiwl hyn bydd y myfyrwyr yn bwrw golwg ar rai o uchafbwyntiau llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, e.e. barddoniaeth Taliesin, Aneirin a Dafydd ap Gwilym a rhyddiaith Pedair Cainc y Mabinogi. Dysgir drwy gyfres o seminarau.听
Ysgol Addysg
听
I DRAFOD YMHELLACH CYSYLLTWCH 脗 Mrs gwawr maelor Williams听
听
Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid
Mae'r modiwl hwn yn datblygu sgiliau academaidd y myfyrwyr ac yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer elfennau fel cyfeirnodi, golygu a phrawf ddarllen, cynllunio gwaith, creu a rhoi cyflwyniadau, hynny yw y sgiliau angenrheidiol trwy gydol eu cwrs is-raddedig ond hefyd sgiliau a fydd yn ddefnyddiol wedi iddynt adael y Brifysgol.听
听
Mae鈥檙 modiwl yn canolbwyntio ar bwysigrwydd amrywiaeth diwylliannol, gwerthoedd a hawliau a鈥檜 pwysigrwydd wrth ddatblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol a moesol plant. Gyda phwyslais ar hawliau, bydd y modiwl yn edrych ar ffyrdd y gellir meithrin ymwybyddiaeth ddiwylliannol mewn plentyndod ac ieuenctid. Drwodd a thro, nod y modiwl yw rhoi dealltwriaeth eang o faterion diwylliannol mewn plentyndod ac ieuenctid o fewn cyd-destunau safbwyntiau cenedlaethol a rhyngwladol.听
Mae鈥檙 modiwl hwn yn craffu ar ddatblygiad seicolegol cynnar plant o鈥檜 geni hyd at y blynyddoedd cynnar. Mae鈥檔 nodi鈥檙 cerrig milltir yn natblygiad cynnar plant ac yn tanlinellu鈥檙 ffactorau sy鈥檔 hyrwyddo datblygiad. Mae鈥檔 cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr arsylwi datblygiad plant ifanc mewn lleoliadau Blynyddoedd Cynnar priodol, yn enwedig mewn perthynas 芒 chymdeithasu a rhyngweithio ag eraill, a dadansoddi eu tystiolaeth yn erbyn y prif gerrig milltir datblygu.听
Mae鈥檙 modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i astudiaeth gymdeithasegol plentyndod, ac yn trafod sut y mae cysyniadau a dealltwriaethau plentyndod yn cael eu pennu鈥檔 gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn hanesyddol. Archwilir y syniadau hyn gan drafod agenda hawliau plant a鈥檙 dadleuon cymdeithasol a chyfreithiol sy鈥檔 deillio ohoni.
Mae'r modiwl hwn yn ystyried agweddau cymdeithasol a seicolegol ar ddatblygiad cyfathrebu, iaith a llythrennedd plant. Nod y modiwl yw rhoi cyflwyniad defnyddiol i'r maes hynod ddiddorol hwn i'r rhai sydd eisiau gweithio gyda phlant. Mae'n cynnwys syniadau ymarferol yn ogystal 芒 syniadau damcaniaethol. Bydd y rhai sy'n astudio'r modiwl hwn yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth hanfodol o sut y gellir cyfuno bywyd cartref, profiadau amrywiol ac eang a defnyddio llwyfannau digidol i ddatblygu sgiliau cyfathrebu creadigol a llythrennedd sy'n paratoi plant at ddysgu gydol oes.
听
Mi fydd y modiwl yn cyflwyno dulliau ymchwil gwahanol i fyfyrwyr, ac yn trafod y prif bethau y dylid eu hystyried wrth ddylunio ymchwil (e.e. moeseg, dibynadwyedd a dilysrwydd). Yn ogystal, mi fydd y modiwl yn cyflwyno ystadegau disgrifiadol a chasgliadol i fyfyrwyr, ac yn trafod y gwahaniaeth rhwng dulliau ansoddol a meintiol.听
听
Addysgu
听
Mae鈥檙 cwrs gradd yma yn eich hyfforddi fel athro/athrawes gynradd. Bydd y cwrs yn eich paratoi i addysgu yng Nghymru ar gyfer yr holl ystod o 3-11 oed. Mae鈥檙 cwrs yr un mor ddilys i'r rhai sydd eisiau dysgu tu hwnt i Gymru. Byddwch fel athrawon dan hyfforddiant yn cael eich gosod mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg gyda chefnogaeth mentor a thiwtor a rhoddir anogaeth a chymorth i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg personol ar lefel broffesiynol ar hyd cyfnod y cwrs.
Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas
Y Gyfraith
听
Mae鈥檙 modiwl yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o gyfraith gyfansoddiadol yn y Deyrnas Unedig a鈥檙 Undeb Ewropeaidd, yn cynnwys elfennau cyfraith datganoli. Bydd yn edrych ar y rheolau sy鈥檔 rheoleiddio prif gyrff llywodraeth, a鈥檙 berthynas rhwng yr unigolyn a鈥檙 wladwriaeth.
Mae鈥檙 modiwl yn rhoi sylfaen i鈥檙 myfyriwr ar yr hyn sy鈥檔 rheoli ffurfio a gorfodi contractau (addewid, derbyn a chytundeb) meysydd gallu, bwriad, cyfreithlondeb a sicrwydd telerau.
Mae鈥檙 modiwl hwn yn rhoi fframwaith i astudio鈥檙 gyfraith wrth edrych ar y llysoedd, y farnwriaeth, cyfreithwyr a hawliau dynol ymysg testunau eraill.
Mae鈥檙 modiwl yn cyflwyno sgiliau astudio cyfreithiol ymarferol, megis ysgrifennu traethodau cyfreithiol, a datrys problemau cyfreithiol. Bydd cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn achosion ffug lys yn ystod Semester 2.
Mae鈥檙 modiwl yn cynnwys elfen o ddatblygu sgiliau ymchwil gyfreithiol er mwyn cyflawni tasgau megis drafftio llythyrau cyfreithiol, llunio nodiadau achos, drafftio deddfwriaethau ac yn y blaen. Bydd y modiwl yn cynnig cyflwyniad i amryw o bynciau cyfreithiol, er enghraifft cyfraith trosedd, cyfraith ryngwladol a chyfraith datganoli.
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ddatgan a chymhwyso rheolau cyfraith droseddol yng Nghymru a Lloegr yr ymdrinnir 芒 hi yn y cwrs yn gywir ac yn berthnasol, ac i egluro'n gywir y newidiadau gwirioneddol ac arfaethedig diweddar i'r maes hwn o'r gyfraith.
Ceir cyflwyniad i鈥檙 prif theor茂au cymdeithasegol, gan ganolbwyntio ar bersbectifau ffwythiannaeth a theori gwrthdaro. Edrychir ar waith Emile Durkheim a Karl Marx a鈥檜 gwaith arloesol mewn ffurfio theor茂au cymdeithasegol cynnar. Yna edrychir ar sefydliadau cymdeithasol yn y gymdeithas gyfoes, gan gymhwyso鈥檙 theor茂au a鈥檙 persbectifau at ddadansoddi sefydliadau fel y teulu, addysg, gwaith a dosbarth cymdeithasol.
Dyma fodiwl rhyngddisgyblaethol yn cyfuno elfennau o hanes modern 芒 pholisi cymdeithasol yng Nghymru a Prydain. Mae鈥檙 modiwl yn edrych ar ddatblygiad polis茂au cymdeithasol o ddechrau鈥檙 bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at y presennol, a gwneir hynny o fewn cyd-destun gwleidyddol, economaidd, a chymdeithasol. Ystyrir pwy yw鈥檙 prif ddarparwyr lles, ynghyd a sut y telir am les cymdeithasol. Edrychir yn arbennig ar y dimensiwn Cymreig wrth ystyried anghenion, polis茂au cymdeithasol a darpariaeth lles yng Nghymru yn sgil datganoli.
Er bod gan ein cymdeithas ystod eang o adnoddau fel cyfoeth, statws a ph诺er, rydym yn byw mewn cymdeithas anghyfartal iawn, wedi鈥檌 nodweddu gan anghydraddoldeb a rhaniad cymdeithasol. Bydd y modiwl yn cychwyn drwy ystyried categor茂au haeniad cymdeithasol, gan gynnwys dosbarth cymdeithasol, rhyw ac ethnigrwydd, cyn canolbwyntio ar feysydd cyfoes cymdeithasegol fel oedran, rhywioldeb, mynegiant rhyw, anabledd, crefydd, cenedl ac ardal ddaearyddol. Anogir myfyrwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth o sut mae rhaniadau cymdeithasol yn treiddio trwy鈥檙 drefn gymdeithasol yn gyhoeddus ac yn breifat, gan arwain at wahaniaethu ac anfantais.
Troseddeg yw un o鈥檙 meysydd astudio mwyaf diddorol. Mae trosedd yn fater pwysig i gymdeithas ac yn bwnc gwleidyddol llosg mewn llawer o wledydd, gan ei fod yn gysylltiedig 芒 phryderon am gyflwr cymdeithas. Mae 鈥淐yflwyniad i Droseddeg鈥 yn ymgyfarwyddo myfyrwyr blwyddyn gyntaf 芒 ffyrdd o feddwl am drosedd ac yn cyflwyno rhai o鈥檙 prif safbwyntiau damcaniaethol o fewn troseddeg.
Bwriad y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth gadarn o鈥檙 ffyrdd y mae trosedd, yng Nghymru a Lloegr, yn dod i sylw鈥檙 awdurdodau, sut mae troseddau鈥檔 cael eu mesur, sut mae troseddu yn cael ei blismona, sut mae personau a gyhuddir yn cael eu dwyn i dreial ac mae鈥檙 rhai sy鈥檔 euog yn cael eu dedfrydu a鈥檜 cosbi. Mae鈥檙 modiwl yn cymryd trosolwg hanesyddol o darddiad cyfraith droseddol, yr heddlu, y llysoedd troseddol a鈥檙 carchar, gan archwilio鈥檙 newidiadau cymdeithasol, economaidd ac athronyddol sylweddol sydd wedi helpu i siapio鈥檙 system cyfiawnder troseddol a chosbi modern.
O ddyfodiad y Normaniaid i ddiwygiadau鈥檙 cyfnod Tuduraidd: dyna grynhoi cwmpas cronolegol y modiwl hwn. Mae鈥檙 modiwl yn trafod rhai o ddatblygiadau pellgyrhaeddol hanes Cymru yn ystod y cyfnod c.1060-1603. Bydd cyfle i edrych ar gymeriadau blaenllaw fel Llywelyn ein Llyw Olaf, Owain Glynd诺r a Harri VII, yn ogystal 芒听 chyfle i wyntyllu newidiadau gwleidyddol, diwylliannol a chrefyddol y cyfnod.
Amcan y modiwl hwn yw cynnig arolwg cynhwysfawr o hanes Cymru yn y cyfnod modern, gan ddangos sut yr adlewyrchodd Cymru鈥檙 cyfnewidiadau enfawr a gafwyd yn Ewrop a rhannau eraill o Brydain ynghlwm 芒 chwyldroadau a diwydiannu.. Mae鈥檙 modiwl yn olrhain trawsnewidiad Cymru o ddiwedd y 18fed ganrif hyd at yr 21ain ganrif mewn modd bywgraffyddol, gan edrych ar bynciau megis 鈥榊 Ferch Gymreig鈥 a鈥檙 鈥楥hwarelwr鈥 ynghyd 芒 them芒u gafaelgar fel cenedlaetholdeb, protest a chwaraeon.听
Modiwlau gyda grwpiau seminar ac arweinydd modiwl Cymraeg
Bydd darlithoedd y modiwlau isod yn Saesneg, gyda鈥檙 opsiwn (os ydy鈥檙 niferoedd yn caniat谩u) i ymuno 芒 gr诺p seminar Cymraeg. Cewch gyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg neu Saesneg yn 么l eich dewis.
Gyda 亚洲色吧 yng nghyffiniau dau o safleoedd treftadaeth y byd UNESCO - cestyll a waliau Edward I a鈥檙 tirlun llechi - bydd y modiwl yma鈥檔 eich arfogi i drafod gwahanol ddiffiniadau o 鈥榙reftadaeth鈥.听 Ymysg rhai o鈥檙 pynciau a archwilir bydd r么l amgueddfeydd ac asiantaethau treftadaeth; cadwraeth; cypyrddau o chwilfrydedd; hunaniaeth.听 Edrychir ar astudiaethau achos o Gymru ac o bersbectif byd-eang.
Mae'r modiwl yma鈥檔 rhoi cyflwyniad i archaeoleg o gyfnod y Rhufeiniaid ymlaen, gan ddirwyn at y cyfnod modern a chyfoes.听 Ymysg y pynciau dan sylw fydd archaeoleg filwrol y Rhufeiniaid a鈥檜 filas; crefydd a chladdu; yr Eingl-Sacsonaidd a mynwentydd paganaidd; yr effaith Lychlynnaidd; y Normaniaid a chestyll.听 Bydd enghreifftiau o Gymru a thu hwnt yn rhan o鈥檙 modiwl.
Modiwl gyda gr诺p seminar Cymraeg
Bydd y modiwl hwn yn rhoi arweiniad i hanes y 19eg ganrif yn arbennig, gan bontio o frwydr Waterloo 1815 hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf.听 Ymhlith y them芒u amrywiol a ystyrir bydd y chwyldro amaethyddol a鈥檙 chwyldro diwydiannol; yr elit a鈥檙 dosbarth canol; Rhyddfrydiaeth a Cheidwadaeth; gweithwyr a'r werin; mudiadau gwleidyddol gweithwyr; chwyldroadau; cenedlaetholdeb a hunaniaeth genedlaethol; rhyfel a diplomyddiaeth; Imperialaeth.
Beth fuasai barn Platon am ein cymdeithas heddiw? A oes modd cyfeirio at syniadau Aristoteles i ymateb i'n heriau amgylcheddol? Sut mae deall cynwysoldeb ac amrywiaeth o bersbectif Epicureaid? Mae鈥檙 modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad eang i fyfyrwyr i faes Hen Athroniaeth gan weld sut mae鈥檔 dal i fod yn berthnasol i'r oes fodern. Gan ddechrau gyda'r cyn-Socratiaid, byddwn yn archwilio them芒u a nodweddion y math(au) o athroniaeth a ddatblygodd yng nghyfnod cynnar meddwl y Gorllewin. Yna byddwn yn ystyried yr athronydd arwyddocaol hwnnw, Platon, drwy archwilio ei 'Weriniaeth' yn fanwl. Gyda hynny, byddem yn ennill gwybodaeth fanwl o'r testun, yn enwedig o ran syniadau allweddol megis damcaniaeth Ffurfiau, natur cyfiawnder a thair rhan yr enaid. Gan adeiladu ar hynny, byddwn yn ystyried athronwyr diweddarach, gan gynnwys Aristoteles, ac ysgolion meddwl eraill, megis yr Epicureaid a'r Stoiciaid. Dewch am dro i fyd Athroniaeth Hynafol a gweld ei berthnasedd i'n byd heddiw.
A oes y fath beth 芒 鈥楥hristnogaeth鈥 ynteu ai Cristnogaethau sy鈥檔 bod bellach? Amcan y modiwl hwn yw darparu myfyrwyr 芒 throsolwg eang o gyfluniad hanesyddol a chrefyddol Cristnogaeth. Bydd y modiwl yn dechrau ag archwiliad o hanes datblygiad Cristnogaeth, gan gyfeirio at gyfansoddiad y Testament Newydd, dysgeidiaeth Iesu, a sefydlu鈥檙 Eglwys Fore. Wedi gwneud hynny, byddem yn ystyried datblygiad yr Eglwys Gristnogol, gan sylwi鈥檔 benodol ar ddatblygiad y gwahanol enwadau Cristnogol. Yn y cyswllt hwn, bydd y modiwl yn gwerthuso鈥檙 gwahanol syniadau diwinyddol, ideolegau, a chysyniadau sydd gan y gwahanol enwadau. Sylwn, er enghraifft ar y Tystion Jehofa a grwpiau 鈥楥ristnogol鈥 yr asgell chwith. Yn ogystal, ystyrir agweddau penodol ar ddiwinyddiaeth Gristnogol, gan gynnwys athrawiaeth y Drindod Sanctaidd a Christoleg. Byddem wedyn yn asesu鈥檙 modd yr ymarferir Cristnogaeth heddiw drwy archwilio them芒u megis bedydd, arwyddoc芒d y cymun, ac ymarferoldeb y ffydd Gristnogol mewn cyd-destun cymdeithasol anghristnogol. Pwrpas y modiwl, felly, yw annog myfyrwyr i ennyn dealltwriaeth o wahanol bynciau cysylltiedig 芒 Christnogaeth, gan drafod seiliau鈥檙 grefydd a鈥檙 sawl sy鈥檔 eu hystyried eu hunain yn 鈥楪ristnogion鈥.
Ysgol Busnes 亚洲色吧
听
I DRAFOD YMHELLACH CYSYLLTWCH 脗 Dr EDWARD JONES
Ar gyfer y modiwlau isod mae鈥檙 darlithoedd yn cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae鈥檙 modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i amcanion a nodweddion marchnata fel swyddogaeth fusnes. Mae鈥檔 canolbwyntio ar y broses a ddefnyddir gan sefydliadau i adnabod anghenion a dyheadau cwsmeriaid, i bennu pa farchnadoedd targed y gellir eu gwasanaethu orau, ac i gynllunio rhaglenni priodol i wasanaethu鈥檙 marchnadoedd hyn. Mae marchnata yn swyddogaeth fusnes graidd ac yn athroniaeth ar draws y sefydliad. Mae'r cysyniad marchnata yn mynd at wraidd angen sefydliad i fynegi a dilyn amcanion, gan greu gwerth i'w wahanol randdeiliaid. Mae'r modiwl yn pwysleisio'r cysyniad o werth i gwsmeriaid, mae hefyd yn archwilio a phwyso a mesur y penderfyniadau a鈥檙 dulliau sydd ar gael i sefydliadau roi gwerth i gwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys ystyried gwahanol elfennau o'r dulliau marchnata amrywiol, fel swyddogaeth cynnyrch, brand, pris, hyrwyddo, lle a phobl.
Mae'r modiwl hwn yn darparu cyflwyniad i Economeg drwy ddilyn y maes llafur y prosiect CORE (Curriculum in Open-access Resources in Economics). Bydd y cwricwlwm CORE yn arfogi myfyrwyr i ddeall sut y mae'r economi wedi esblygu a sut mae'n gweithio trwy ddod 芒 datblygiadau mewn ymchwil economeg dros y tri degawd diwethaf i鈥檙 cwricwlwm, ynghyd 芒 gwersi o hanes economaidd a phrofiad cymharol gwahanol wledydd.
Ar gyfer y modiwlau isod, bydd y darlithoedd yn Saesneg gyda鈥檙 tiwtorialau yn cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd y modiwl hwn yn rhoi egwyddorion economaidd i fyfyrwyr ddeall strwythur marchnadoedd ariannol a swyddogaeth a gweithgareddau banciau a chwmn茂au ariannol yn gyffredinol. Gan ddatblygu'r syniad o anghymesuredd gwybodaeth, bydd y modiwl yn edrych ar sut mae marchnadoedd ariannol, a chwmn茂au ariannol fel banciau, yn effeithio ar yr economi yn gyffredinol. Bydd yn edrych ar swyddogaeth cyfraddau llog a sut mae marchnadoedd bondiau a marchnadoedd stoc yn gweithredu. Bydd y modiwl yn ymdrin yn feirniadol 芒'r strwythur ariannol ac yn galluogi i fyfyrwyr ddeall sut mae banciau'n gweithio ac yn cael eu rheoli, gan gynnwys arloesi ariannol a pham mae banciau'n cael eu rheoleiddio. Mae marchnadoedd ariannol yn dueddol o fethu a bydd y modiwl yn egluro pam mae argyfyngau ariannol yn digwydd. Bydd yn dod i ben drwy ystyried y cysyniad o greu adnau, drwy edrych ar y cyfryngau mae banciau canolog yn eu defnyddio i reoli'r cyflenwad arian, ac ystyried y polisi o dargedu chwyddiant. Byddwn yn ychwanegu at y modiwl gydag astudiaeth o fathau o gwmn茂au bancio a dadansoddiad cymharol o systemau bancio.
Mae hwn yn gwrs sylfaen mewn sgiliau dadansoddeg busnes sy'n cynnwys dulliau ystadegol, casglu a dehongli data, dosraniadau tebygolrwydd, ffurfio a phrofi rhagdybiaethau, cydberthyniad a dadansoddiad atchwel. Mae'n canolbwyntio ar ddatblygu'r sgiliau hyn yn Microsoft Excel.
Amcanion y cwrs hwn yw rhoi cyflwyniad i fusnes, rheolaeth a sefydliadau. Mae sefydliadau鈥檔 allweddol i鈥檙 ffordd yr ydym yn trefnu cymdeithas, ac mae astudiaeth o sefydliadau yn ganolog i ddatblygu dealltwriaeth nid yn unig o fusnes a rheolaeth, ond nifer o agweddau eraill ar ein bywydau. Mae鈥檙 cwrs yn edrych ar gyd-destun busnes, trefniadaeth gwaith a natur rheolaeth.
Mae'r modiwl yn cynnwys elfen efelychu masnachu sy'n rhedeg ochr yn ochr 芒 darlithoedd wythnosol ar fathemateg gyllidol a thechnegau dadansoddol craidd.
听
Nod y modiwl yw datblygu sgiliau mathemateg a dadansoddi i lefel sy'n galluogi defnydd o dechnegau meintiol mewn ystod eang o weithgareddau busnes ac economeg, gan gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) masnachu gwarantau a buddsoddi. Mae rhan greiddiol y modiwl yn cyflwyno mathemateg a thechnegau cyllidol sy'n berthnasol i wneud penderfyniadau mewn ystod eang o gyd-destunau. Pwrpas y rhan efelychu masnachu yw datblygu'r defnydd o dechnegau dadansoddi a phrisio yng nghyd-destun penodol buddsoddiad y farchnad stoc, gan ddefnyddio modelu taenlenni a masnachu gwarannau efelychu mewn amgylchedd delio rhithwir.
Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol
Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth
听
Cyflwyniad i sgiliau astudio a datblygiad gallu llafar, ysgrifennu a dadansoddi data amgylcheddol.
Cyfres o ddosbarthiadau tiwtorial mewn grwpiau bach i ddatblygu sgiliau cyfathrebu, dadansoddi, a gwerthuso gwybodaeth wyddonol. Cymorth cyffredinol ar gyfer yr ystod gyfan o fodiwlau.
Gwaith maes, labordy, a dosbarth sy鈥檔 datblygu鈥檙 ddealltwriaeth a gallu myfyrwyr Gwyddorau鈥檙 Amgylchedd a Chadwraeth i ddeall y prosesau daearegol, amgylcheddol a dynol sy鈥檔 cyfrannu tuag at dirlun, a strwythur cymunedol a diwydiannol Eryri. Byddwch yn dysgu holl bwysig ar sut i ddefnyddio data wedi ei gasglu yn y maes a鈥檙 labordy i wneud synnwyr o鈥檙 amgylchedd o鈥檆h cwmpas.听
Modiwl i fyfyrwyr Gwyddorau鈥檙 Amgylchedd sydd heb Lefel A mewn cemeg. Bydd myfyrwyr yn dysgu鈥檙 sgiliau a鈥檙 wybodaeth hanfodol o gemeg fydd yn sylfaen i鈥檙 materion amgylcheddol o gemeg yn eu gradd.
Mae鈥檙 modiwl yn cyflwyno meddylfryd daearyddol i gysyniadau globaleiddio 鈥 gofod a lle, pobl ac amgylchedd, trefoli, tlodi a datblygu, hunaniaeth a gwahaniaeth, poblogaeth, mudo, ethnigrwydd a chenedlaetholdeb, a chynaladwyedd. Byddwn yn ystyried y berthynas rhwng pobl a鈥檜 lle mewn amgylchedd naturiol, eu sefyllfa economaidd a gwleidyddol.
Cyfres o ddosbarthiadau tiwtorial i ddatblygu sgiliau cyfathrebu, dadansoddi, a gwerthuso gwybodaeth wyddonol. Cymorth cyffredinol ar gyfer yr ystod gyfan o fodiwlau.
Mae astudio'r gwyddorau naturiol yn gofyn am set o offer amrywiol o sgiliau maes, labordy a dadansoddi data, a nod y modiwl 30 credyd hwn yw rhoi cyflwyniad eang i fyfyrwyr i'r rhain mewn fframwaith sy'n berthnasol i radd. Bydd myfyrwyr yn dysgu datblygu damcaniaethau a chasglu, cofnodi a chyflwyno data.
Mae鈥檙 modiwl yn helpu myfyrwyr i ddatblygu鈥檙 sgiliau a ddefnyddir gan wyddonwyr naturiol ee. sgiliau TG, defnydd effeithiol o鈥檙 cyfleusterau chwilio鈥檙 llyfrgell, cyfrifiadau mathemategol sylfaenol, y dull gwyddonol, dadansoddi ystadegol, a dylunio arbrofol.
Mae鈥檙 modiwl hwn wedi鈥檌 gynllunio i gyflwyno ystod o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gradd mewn Gwyddorau Eigion. Cynhelir cyfres o ddosbarthiadau tiwtorial gyda鈥檙 pwrpas o ddatblygu sgiliau cyfathrebu, dadansoddi a gwerthuso gwybodaeth wyddonol. Bydd y myfyrwyr yn sgwrsio a chyfathrebu am egwyddorion a phroblemau gwyddonol.
Mae鈥檙 modiwl hwn yn gosod y sylfaen mewn meddwl cyfrifiannol ac yn cyflwyno dealltwriaeth o鈥檙 fathemateg sylfaenol sy鈥檔 sail i holl gyfrifiadura. Mae鈥檙 modiwl hefyd yn rhoi profiad o ddelio 芒鈥檙 strwythurau mathemategol sy鈥檔 sail i strwythurau rhaglennu a data, ynghyn 芒 chynnwys adolygiad o algebra elfennol ac ymarfer ag ef.
Mae鈥檙 modiwl hwn yn cyflwyno prif dechnegau dadansoddi cylchedau a dangos bod hwn yn fframwaith allweddol o beirianneg electronig a dangos dealltwriaeth sylfaenol o鈥檙 ffiseg sylfaenol sy鈥檔 pennu priodweddau electronig deunyddiau a ddefnyddir yn y diwydiant electroneg.
Mae鈥檙 modiwl yma yn darparu hanfodion dadansoddi a dylunio cylchedau analog a digidol yn seiliedig ar ddyfeisiau arwahanol i baratoi myfyrwyr at y modiwlau electroneg analog a digidol yn yr ail flwyddyn.
Dylunio Cynnyrch
听
I DRAFOD YMHELLACH CYSYLLTWCH 脗 Peredur Williams
听
Mae hi鈥檔 bosib cofrestru ar gyfer y Cwrs Dylunio Cynnyrch drwy鈥檙 Gymraeg (W241), ac astudio pob modiwl drwy鈥檙 Gymraeg.
Prif ffocws y modiwl hwn yw gwella eich gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy ddulliau gweledol. Bydd y modiwl yn ymdrin 芒 thechnegau amrywiol, megis persbectif, braslunio isometrig ac orthograffig, yn ogystal 芒 phwysau llinell a rendro. Yn ogystal, bydd modelu brasluniau a phrototeipio yn cael eu defnyddio fel rhan o'r broses ddylunio ailadroddol.
Nod y modiwl hwn yw datblygu eich hyfedredd technegol mewn meddalwedd CAD, yn benodol SolidWorks, a chymwysiadau Adobe Creative Cloud, gan gynnwys Photoshop, Illustrator, ac InDesign. Drwy ddatblygu'r sgiliau hyn, byddwch yn gallu ymateb yn effeithiol i ystod amrywiol o friffiau a heriau dylunio ar draws cyd-destunau amrywiol. Ar ben hynny, byddwch yn ennill y gallu i gyfathrebu'ch syniadau'n effeithiol yn weledol, gan sicrhau bod eu dyluniadau'n cael eu deall a'u cyflwyno'n effeithiol
Prif ffocws y modiwl hwn yw datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o'r broses ddylunio wrth wynebu briff dylunio. Trwy gydol y modiwl, cewch gyfle i weithio ar ddau 'friff byw' a ddarperir gan gleientiaid allanol. Er mwyn cwblhau'r briffiau hyn yn llwyddiannus, byddwch yn cymryd rhan mewn ymchwil, archwilio creadigol a datblygu dylunio, ac yn y pen draw yn cynhyrchu prototeip gweithredol o gynnyrch newydd. Trwy weithio ar y briffiau hyn, byddwch yn ennill profiad ymarferol wrth gymhwyso'r broses ddylunio i sefyllfaoedd yn y byd go iawn.
Nod y modiwl hwn yw cyflawni dau brif nod. Yn gyntaf, mae'n anelu at eich cyflwyno i Arduino, sy'n blatfform electronig ffynhonnell agored sy'n cynnwys caledwedd a meddalwedd hawdd ei ddefnyddio. Byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth sylfaenol o'r system caledwedd electronig a meddalwedd rhaglenadwy hon, gan gynnwys sawl elfen mewnbwn ac allbwn cyffredin ac agweddau codio. Bydd canllawiau, tasgau a gweithgareddau estyn ar-lein yn cael eu darparu i chi gefnogi eu dysgu. Yn ail, nod y modiwl hwn yw eich helpu i ddyfnhau eich dealltwriaeth o gymhwyso technegau graffeg ddigidol mewn cyfathrebu dylunio, gan ddefnyddio meddalwedd fel Photoshop, Illustrator, ac InDesign.
Mae'r modiwl hwn yn cynnwys tasg t卯m 4 wythnos o hyd (cymysgedd ar hap o fyfyrwyr Blwyddyn Gyntaf, Ail a'r Drydedd flwyddyn) i ymgysylltu ac ymateb i friff byw diwydiannol a osodwyd gan un o'n cwmn茂au partner. Asesir yr agwedd hon ar y modiwl gerbron panel o feirniaid. Mae'r dasg hon a'i hasesiad yn ailadrodd y broses y byddai dylunwyr sy'n gweithio mewn t卯m yn cyflwyno eu canlyniad a ddarperir i gleient.
Mae profiad yn y gweithle yn ganolog i'r cwrs, mae'n caniat谩u i fyfyrwyr brofi gweithio fel dylunydd mewn amgylchedd masnachol. Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno pecynnau cymorth dadansoddol a ddefnyddir yn y broses o werthuso arsylwadau lleoliad, cyflwyno dadansoddiadau SWOT i'w hadolygu, a chyflwyniad i hunanwerthuso datblygiad proffesiynol. Mae'r modiwl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio gyda chwmn茂au a phartneriaid diwydiannol i gael profiadau ymarferol gwerthfawr. Mae myfyrwyr fel arfer yn mynd i'r afael 芒'r gyfres hon o fodiwlau lleoliad gwaith gyda'r strategaethau canlynol:
鈥⑻ 听i gasglu ystod eang o brofiadau drwy ganolbwyntio ar gaffael sgiliau - er enghraifft, lleoliadau mewn stiwdios dylunio, cwmn茂au gweithgynhyrchu bach neu raddfa fawr, CAD arbenigol neu gwmn茂au graffig
neu
鈥⑻ 听targedu cwmn茂au penodol lle hoffai'r myfyriwr weithio yn y dyfodol.
听
Coleg Meddygaeth ac Iechyd
Ysgol Seicoleg, Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer
Seicoleg
听
Yn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn datblygu鈥檙 sgiliau craidd sydd eu hangen i gyfathrebu鈥檔 effeithiol mewn gwyddoniaeth yn gyffredinol, ac mewn seicoleg yn benodol, gan ymarfer eu sgiliau ysgrifennu, trawsieithu a gwerthuso gwaith academaidd . Cyflwynir y deunydd ar ffurf darlith, gyda thrafodaeth bellach ar erthyglau a materion cyfoes mewn seminarau wythnosol.听
Yn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn parhau i ddatblygu eu sgiliau craidd, gan wrando ar ddarlithoedd gan arbenigwyr o feysydd seicolegol gwahanol. Yn ogystal 芒 darlithoedd a seminarau wythnosol, bydd myfyrwyr yn mynychu dosbarthiadau cyflwyno, lle byddant yn datblygu eu sgiliau cyflwyno ar lafar.
听
Mi fydd y modiwl yn cyflwyno dulliau ymchwil gwahanol i fyfyrwyr, ac yn trafod y prif bethau y dylid eu hystyried wrth ddylunio ymchwil (e.e. moeseg, dibynadwyedd a dilysrwydd). Yn ogystal, mi fydd y modiwl yn cyflwyno ystadegau disgrifiadol a chasgliadol i fyfyrwyr, ac yn trafod y gwahaniaeth rhwng dulliau ansoddol a meintiol.
Yma, bydd myfyrwyr yn parhau i ddatblygu eu sgiliau dulliau ymchwil, drwy ddatblygu eu dealltwriaeth o arbrofion a dadansoddiadau gwahanol. Cyflwynir y deunydd ar ffurf darlith, gyda seminarau wythnosol yn rhoi鈥檙 cyfle i fyfyrwyr drafod y pynciau ymhellach, a dysgu sut i ddadansoddi data gan ddefnyddio meddalwedd penodol (SPSS).
听
Mi fydd y modiwl yn cyflwyno dulliau ymchwil gwahanol i fyfyrwyr, ac yn trafod y prif bethau y dylid eu hystyried wrth ddylunio ymchwil (e.e. moeseg, dibynadwyedd a dilysrwydd). Yn ogystal, mi fydd y modiwl yn cyflwyno ystadegau disgrifiadol a chasgliadol i fyfyrwyr, ac yn trafod y gwahaniaeth rhwng dulliau ansoddol a meintiol.
听
听Yma, bydd myfyrwyr yn parhau i ddatblygu eu sgiliau dulliau ymchwil, drwy ddatblygu eu dealltwriaeth o arbrofion a dadansoddiadau gwahanol. Cyflwynir y deunydd ar ffurf darlith, gyda seminarau wythnosol yn rhoi鈥檙 cyfle i fyfyrwyr drafod y pynciau ymhellach, a dysgu sut i ddadansoddi data gan ddefnyddio meddalwedd penodol (SPSS).听
Yn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn datblygu鈥檙 sgiliau craidd sydd eu hangen i gyfathrebu鈥檔 effeithiol mewn gwyddoniaeth yn gyffredinol, ac mewn seicoleg yn benodol, gan ymarfer eu sgiliau ysgrifennu, trawsieithu a gwerthuso gwaith academaidd . Cyflwynir y deunydd ar ffurf darlith, gyda thrafodaeth bellach ar erthyglau a materion cyfoes mewn seminarau wythnosol.
Yn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn parhau i ddatblygu eu sgiliau craidd, gan wrando ar ddarlithoedd gan arbenigwyr o feysydd seicolegol gwahanol. Yn ogystal 芒 darlithoedd a seminarau wythnosol, bydd myfyrwyr yn mynychu dosbarthiadau cyflwyno, lle byddant yn datblygu eu sgiliau cyflwyno ar lafar.
Nod y modiwl yw rhoi gwybodaeth sylfaenol am ffisioleg ddynol. Bydd hyn yn angenrheidiol er mwyn deall yr agweddau ffisiolegol o ymarfer corff a chwaraeon a fydd yn cael eu trafod mewn modiwlau dilynol. Bydd y sesiynau labordy yn cael eu cynnal yn Gymraeg gyda鈥檙 opsiwn i gyflwyno gwaith yn Gymraeg neu Saesneg.
Canolbwyntir ar ddatblygu鈥檙 sgiliau ymarferol sylfaenol sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gweithgareddau antur ddiogel ar y tir. Y prif weithgareddau yr ymdrinnir 芒 hwy fydd cerdded mynyddoedd, dringo dan do, micro fordwyo a sgramblo mewn ceunentydd. Cynhelir y sesiynau ymarferol yn ddwyieithog, gyda鈥檙 dewis o gyflwyno gwaith yn Gymraeg neu yn Saesneg.
听
Canolbwyntir ar ddatblygu鈥檙 sgiliau ymarferol sylfaenol ac ymwybyddiaeth dactegol sy鈥檔 gysylltiedig 芒 chymryd rhan yn ddiogel mewn chwaraeon. Bydd y myfyrwyr yn datblygu eu gwybodaeth a鈥檜 dealltwriaeth o ofynion chwaraeon, ac yn dod i ddeall y paratoi sy鈥檔 gydnaws a datblygu ymarfer da wrth gymryd rhan mewn chwaraeon. Cynhelir darlithoedd a sesiynau ymarferol yn ddwyieithog, gyda鈥檙 dewis o gyflwyno gwaith yn Gymraeg neu yn Saesneg.听
听
Mae鈥檙 modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu鈥檙 sgiliau ymarferol sylfaenol sy鈥檔 gysylltiedig 芒 chymryd rhan yn ddiogel mewn athletau, dawns, gymnasteg a nofio. Cynhelir darlithoedd a sesiynau ymarferol yn ddwyieithog, gyda鈥檙 dewis o gyflwyno gwaith yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno rhai o feysydd allweddol ymchwil seicoleg chwaraeon ac ymarfer corff cyfoes. Bydd yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn seicoleg chwaraeon ac ymarfer corff a bydd yn eich helpu i wneud dewisiadau mwy addysgedig ynghylch pa feysydd i arbenigo ynddynt wrth i chi symud ymlaen. Byddwn yn cyflwyno enghreifftiau go iawn o gysyniadau seicoleg ar waith mewn lleoliadau chwaraeon ac ymarfer corff. Wrth wneud hynny, byddwch yn dysgu sut y gall seicolegwyr chwaraeon ac ymarfer corff gymhwyso ymchwil wyddonol i ddatblygu pecynnau seicolegol i gefnogi cleientiaid/athletwyr.
Mae'r modiwl Sgiliau Chwaraeon Padlo Ymarferol yn sicrhau bod gennych lwyfan cadarn y gallwch ddatblygu ohono fel academydd ac ymarferydd yn ystod eich amser fel myfyriwr israddedig a thu hwnt. Bydd datblygu sgiliau sylfaenol yn canolbwyntio ar y cymwyseddau sydd eu hangen i weithredu'n ddiogel fel aelod gr诺p mewn amgylcheddau mewndirol ac arfordirol. Cefnogir y gweithgaredd ymarferol gan bodlediadau byr a/neu sesiynau ystafell ddosbarth gyda'r nod o ddatblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth sy'n gysylltiedig 芒 chymryd rhan mewn chwaraeon padlo'n ddiogel.
Nod y modiwl hwn yw cydweithio 芒 chi i ddechrau eich taith gofal iechyd a datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o them芒u ac arferion rhyngbroffesiynol allweddol i greu arweinwyr deallus, tosturiol ar gyfer y gweithlu gofal iechyd.
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ddeall a dysgu am asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso agweddau sylfaenol ar ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i egwyddorion hybu iechyd ac atal afiechyd trwy gydol oes er mwyn sicrhau'r canlyniadau iechyd gorau posib. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd gwerthoedd moesegol wrth ddarparu gofal.
Bydd y modiwl yn dysgu sgiliau cyfathrebu, gofal a therapiwtig i chi mewn sesiynau efelychu a gweithdai sy'n hybu diogelwch y cleifion ac ansawdd y gofal. I鈥檙 perwyl hwnnw byddwch yn gallu ymarfer, magu hyder, cwestiynu ac ymchwilio sgiliau gofal a sgiliau therapiwtig mewn amgylchedd diogel.听
听
O fewn y modiwl hwn byddwch yn archwilio rhai o'r materion sylfaenol sy'n ofynnol i nyrsio oedolion, plant a phobl ag anableddau, iechyd meddwl drwy gydol eu hoes. Byddwch yn datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau nyrsio sylfaenol ar gyfer ymgysylltu ag unigolion, eu teuluoedd a'u gofalwyr, gan ystyried yr agweddau ffisiolegol a seicolegol ynghyd 芒'r dylanwadau cymdeithasol sy'n effeithio ar iechyd a lles. Byddwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau ymarferol sy'n eich paratoi i ddarparu gofal nyrsio tosturiol ac urddasol i bawb. Mae datblygu gwybodaeth am sgiliau cyfathrebu a dulliau ar gyfer gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn elfen graidd o'r modiwl. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o'r defnydd o sgiliau cyfathrebu effeithiol ar gyfer darparu a'r gofal gorau a gwaith t卯m rhyngbroffesiynol da.
听
听
Bydwreigiaeth
听
I DRAFOD YMHELLACH CYSYLLTWCH 脗 Siwan Humphreys
Mae myfyrwyr Baglor Bydwreigiaeth (Anrhydedd) sydd yn astudio ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn gallu ymgeisio am yr 鈥榶sgoloriaeth cymhelliant鈥 gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wrth gyflawni o leiaf 33% o鈥檜 cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Er mwyn cyflawni y credydau gofynnol mae modd cwblhau gwahanol aseiniadau sydd yn amrywio o ystod eang megis cymwyseddau clinigol, OSCEs (arholiadau llafar), vivas, arholiadau ysgrifenedig neu thraethodau o wahanol fodiwlau yn 么l eu dewis iaith a鈥檜 cryfderau ieithyddol.听
Mae cefnogaeth ar gael i bob myfyriwr sydd yn dewis astudio trwy鈥檙 Gymraeg, trwy gymorth staff, adnoddau a thiwtor personol Cymraeg. Er fod canran helaeth or darlithoedd yn cael eu cyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg, mae modd cymryd rhan a chwblhau gwaith gr诺p, sesiynau sgiliau clinigol, unrhyw aseiniad neu waith ymarferol ar leoliad trwy鈥檙 Gymraeg. Gweler y modiwlau ar gyfer Blwyddyn 1 isod.
Modiwl cyffredin ble fydd myfyrwyr Gofal Iechyd yn dysgu a gweithio fel corff proffesiynol. Nod y modiwl hwn yw galluogi'r myfyrwyr hyn i ennill dealltwriaeth ar agweddau a rennir ar ddarparu gofal iechyd, megis cyfathrebu, gwyddorau iechyd, systemau'r corff, deddfwriaeth, polisi ac economeg iechyd o fewn y cyd-destun gweithio rhyngbroffesiynol.
Datblygu gwybodaeth myfyrwyr bydwreigiaeth am anatomi a ffisioleg gan gyflwyno y newidiadau anatomegol a ffisioleg ir systemau yn ystod beichiogrwydd. 听Ar ddiwedd y modiwl dylai'r myfyriwr allu disgrifio/dangos ymwybyddiaeth o r么l y fydwraig wrth optimeiddio y broses ffisiolegol arferol tra'n gweithio mewn partneriaeth 芒 merched, gan alluogi eu barn, eu dewisiadau a'u penderfyniadau, a helpu i gryfhau eu galluoedd.
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno r么l y fydwraig fel ymarferydd iechyd cyhoeddus effeithiol. Bydd myfyrwyr yn archwilio cysyniadau addysg iechyd, hybu iechyd ac amddiffyn a chael eu cyflwyno i adeiladu darpariaeth gofal sydd wedi'i wreiddio mewn model gofal cymdeithasol sy'n ystyried merched fel partneriaid a cyfranogwyr gweithredol mewn dewisiadau gofal iechyd. Anogir myfyrwyr 听i ystyried sut y gellir diwallu anghenion corfforol, seicolegol, cymdeithasol, diwylliannol ac ysbrydol y ferch, ei theulu a'r gymuned ehangach/fyd-eang.
Mae鈥檙 modiwl hwn yn rhedeg trwy鈥檙 flwyddyn ynghyd ar modiwlau eraill ym mlwyddyn 1 ac yn canolbwyntio ar adeiladau hyder a chymhwysedd yn y sgiliau ymarferol sydd yn gysylltiedig gyda ymarfer Bydwreigiaeth. Bydd myfyrwyr yn dysgu drwy ystod o sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein gyda gweithdai sgiliau wedi'u hwyluso. Bydd y dysgu damcaniaethol yn cael ei gefnogi gan ddysgu o fewn yr amgylchedd lleoliadau clinigol. Mae'r modiwl hwn yn paratoi'r myfyrwyr i gyflawni yr hyfedreddau a amlinellir yn y Rhaglen Unwaith i Gymru 2020 Dogfen Asesu Ymarfer Bydwreigiaeth (MPAD) ar gyfer blwyddyn 1.
听
Radiograffeg Diagnostig
听Mae myfyrwyr Radiograffeg sydd yn astudio ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn gallu ymgeisio am yr 鈥 ysgoloriaeth cymhelliant鈥 gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wrth gyflawni o leiaf 33% o鈥檜 cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae cefnogaeth ar gael i bob myfyriwr sydd yn dewis astudio trwy鈥檙 Gymraeg, trwy gymorth staff, adnoddau a thiwtor personol Cymraeg. Er bod canran helaeth or darlithoedd yn cael eu cyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg, mae modd cymryd rhan a chwblhau unrhyw aseiniad academaidd trwy鈥檙 Gymraeg. Bydd rhaid iddynt gwblhau un o鈥檙 modiwlau cyffredin yn nhymor yr hydref sef NAC-1001 Gwybodaeth Proffesiynol (manylion isod). Gweler yr holl fodiwlau ar gyfer Blwyddyn 1 isod.
I DRAFOD YMHELLACH CYSYLLTWCH 脗 MR RHYS MORRIS
听
Modiwl cyffredin ble fydd myfyrwyr gofal Iechyd yn dysgu a gweithio fel corff proffesiynol. Nod y modiwl hwn yw galluogi'r myfyrwyr hyn i ennill dealltwriaeth ar agweddau a rennir ar ddarparu gofal iechyd, megis cyfathrebu, gwyddorau iechyd, systemau'r corff, deddfwriaeth, polisi ac economeg iechyd o fewn y cyd-destun gweithio rhyngbroffesiynol.
Cwestiwn a ofynnir bob blwyddyn yw, pam oes rhaid i ni ddysgu Ffiseg? Nod y modiwl yw rhoi dealltwriaeth i chi o egwyddorion ffiseg sydd eu hangen i esbonio gweithrediad yr offer a ddefnyddir mewn radiograffeg ac ar natur ymbelydredd, ei 听gynhyrchu, 听a rhyngweithio 芒 mater. Mae'n ofynnol cynnwys holl gynnwys y modiwl mewn unrhyw gwrs radiograffeg, fel y nodir yn IR(ME)R (2017) ac o fewn Safonau Addysg a Hyfforddiant HCPC. Mae hwn yn nodi'r gofynion cyfreithiol i chi allu ymarfer radiograffeg.听
Mae'r modiwl yn gofyn am ddealltwriaeth ragorol o anatomeg, yn enwedig o ran esgyrn a chymalau, y meinweoedd meddal a rhannau鈥檙 abdomen a'r frest. Mae llawer o'r ieithwedd a'r wyddoniaeth a ddefnyddir yn y modiwl hwn yn ymwneud yn benodol iawn 芒'n harbenigedd ym maes iechyd, a threulir rhan gyntaf y flwyddyn academaidd yn eich cyflwyno i'r meysydd hynny. Ar 么l cwblhau'r modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn barod i ddarparu ymarfer diogel ac effeithiol, a hwnnw wedi'i seilio ar dystiolaeth i gleifion sy'n cael archwiliad radiograffig arferol.
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno'r myfyriwr i nodi a darparu gwybodaeth am abnormaleddau ar ddelweddau radiograffig, wrth weithio o fewn fframwaith meddygol-gyfreithiol priodol. Bydd hefyd yn galluogi'r myfyriwr i ddysgu gwybodaeth sylfaenol am anatomeg, ffisioleg, patholeg.听
Bydd yn datblygu dealltwriaeth o arddulliau dysgu personol ac anghenion i greu'r sylfeini i ddefnyddio鈥檙 adnoddau dysgu a'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt yn effeithiol i ledaenu gwybodaeth ar lafar neu鈥檔 ysgrifenedig
听
Ysgol Feddygol Gogledd Cymru
I DRAFOD YMHELLACH CYSYLLTWCH 脗 MR MERF WILLIAMS
Meddygaeth
I DRAFOD YMHELLACH CYSYLLTWCH 脗 DR NIA JONES
O fis Medi 2024 bydd Prifysgol 亚洲色吧 yn croesawu鈥檙 garfan gyntaf o fyfyrwyr i astudio Meddygaeth. Mae ein rhaglen wedi鈥檌 strwythuro dros 5 mlynedd i gyflwyno gwybodaeth, sgiliau clinigol ac agwedd broffesiynol ar ffurf cwricwlwm sbiral. Nod y rhaglen ydy paratoi meddygon i fod yn gwbl gyfarwydd ag anghenion eu cleifion. 听
Mae Prifysgol 亚洲色吧 wedi ymrwymo i gefnogi siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ac mae dwyieithrwydd wedi鈥檌 wreiddio ym mhob agwedd ar brofiad myfyrwyr. Bydd myfyrwyr Meddygaeth Prifysgol 亚洲色吧 yn gallu ymgeisio am 鈥榶sgoloriaeth cymhelliant鈥 y Coleg Cymraeg Cenedlaethol trwy gyflawni o leiaf 33% o鈥檜 cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Er y bydd mwyafrif y darlithoedd yn cael eu cyflwyno yn y Saesneg, bydd modd gwneud yr elfennau hyn yn Gymraeg:
鈥⑻ 听gwaith grwpiau bach gan gynnwys dysgu ar sail achosion,
鈥⑻ 听sesiynau sgiliau clinigol,听
鈥⑻ 听rhai aseiniadau
鈥⑻ 听gwaith ymarferol ar leoliad trwy鈥檙 Gymraeg.听
Yn ogystal 芒 hyn, bydd Canolfan Bedwyr yn cynllunio cefnogaeth iaith ar bob lefel i siaradwyr rhugl a dysgwyr fel rhan integredig o鈥檙 cwrs.
听
Mae鈥檙 modiwl hwn yn cyflwyno amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy sy鈥檔 bwysig mewn gwaith labordy. Bydd darlithoedd a sesiynau ymarferol yn egluro cysyniadau鈥檔 ymwneud a materion iechyd a diogelwch, rheoli amser ac ysgrifennu adroddiadau. Caiff technegau labordy sylfaenol, a鈥檙 defnydd a wneir ohonynt, eu cynnwys a鈥檜 hasesu mewn dosbarthiadau ymarferol.听
Cyfres o ddosbarthiadau ymarferol yn y meysydd Biocemeg, Ffisioleg, Microbioleg a Geneteg.听
Mae'r modiwl Ymarferion Biofeddygol wedi'i gynllunio i adeiladu ar y sgiliau trosglwyddadwy a ddatblygwyd yn y modiwl Ymarfer Da鈥檙 Labordy a'i nod yw rhoi'r cymwysterau angenrheidiol i fyfyrwyr ar gyfer camau uwch y cwrs. Yn benodol, bydd yn cyflwyno myfyrwyr i amrywiaeth o dechnegau a gweithdrefnau arbrofol a ddefnyddir mewn bioleg foleciwlaidd a gwyddorau biofeddygol.
Bydd cyfres o ymarferion labordy yn cael eu hymgorffori i ddatblygu hyfedredd mewn sgiliau labordy a dadansoddi. Bydd y sesiynau hyn yn ymdrin 芒 thechnegau fel sbectrophotometreg, dadansoddiad microsgopig o feinweoedd biolegol, adnabod microbau, PCR, ac electrofforesis. Ar yr un pryd, bydd sgiliau trosglwyddadwy cysylltiedig, gan gynnwys cyfathrebu gwyddonol, casglu data, a thechnegau dadansoddi data meintiol, yn cael eu meithrin ochr yn ochr 芒'r rhaglen ymarferol.
听
Cyflwyniad i agweddau ar ficrobioleg feddygol gan gynnwys bacteria, firws, ffwng a paraseit.听
Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno micro-organebau Prokaryotig ac Eukaryotig. Astudir nodweddion a strwythurau gwahaniaethol celloedd microbaidd, ynghyd 芒 deinameg twf microbaidd, cyflwyniad i fecanweithiau gwrthsefyll gwrthfiotigau, pathogenesis ac ymwneud microbaidd ag afiechydon dynol. I ddilyn ceir adran ar feicoleg lle'r adolygir cylchoedd bywyd ffyngau a'u heffaith ar fywyd bob dydd, yn gadarnhaol a negyddol. Yna ystyrir amrywiaeth firysau, yn cynnwys firysau pwysig yn feddygol, o safbwynt eu morffoleg, math genom a strategaethau tyfu.
Cyflwyniad i wahanol agweddau o ffisioleg ddynol, yn cynnwys esboniad o鈥檙 prif organau ac effeithiau haint ac afiechyd arnynt.
Mae鈥檙 modiwl wedi鈥檌 selio ar agweddau o gyflogadwyedd a sgiliau trosglwyddadwy, lle bydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu gwyddoniaeth drwy鈥檙 Gymraeg, a gwella neu gynyddu eu sgiliau iaith ac ysgrifenedig yn y Gymraeg.