ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:
Coeden ar lan y môr gyda thonnau ar y tywod coch

Cadwraeth ac Adfer Ecosystemau Gadarn

Rydym yn gydweithrediad rhyngddisgyblaethol rhwng ymchwilwyr yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol ²¹â€™r Ysgol Gwyddorau Eigion sy’n gwneud ymchwil gymhwysol sy’n cael effaith uniongyrchol ar argyfyngau natur a hinsawdd.

Arweinwyr thema: Yr Athro Julia P G Jones ²¹³¦ÌýYr Athro Stuart Jenkins

1. Trosolwg
2. Ein Hymchwilwyr
3. Proesiectau Allweddol
4. Oriel Lluniau
5. Newyddion a Blog
6. Addysgu

Mae'r byd yn gwynebu argyfyngau natur a hinsawdd cydgysylltiedig. Mae gan gadwraeth ac adfer ecosystemau cydnerth ran ganolog i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r ddau.

Mae ein ymchwil hynod ryngddisgyblaethol yn y maes hwn yn dod ag ymchwilwyr ynghyd o bob rhan o’r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol ²¹â€™r Ysgol Gwyddorau Eigion ac o ddisgyblaethau amrywiol fel ecoleg, gwyddor system tir, eigioneg, synhwyro anghysbell, ffisioleg, ymddygiad, coedwigaeth, economeg a pholisi.

Rydym yn cynnal ymchwil flaengar mewn ystod lawn o gynefinoedd daearol a morol, o ranbarthau pegynol i'r trofannau. Mae ein hymchwil yn ddylanwadol iawn. Er enghraifft, cyfrannodd ein hymchwil ar effeithiau Pysgota Gwaelod Symudol, datblygu amaeth-goedwigaeth, a lleihau costau cymdeithasol cadwraeth mewn gwledydd incwm isel sydd wedi cyfrannu i Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cael y safle cyntaf yn y DU am effaith ein hymchwil gwyddor ar yr amgylchedd yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021.

Mae ein cyfleusterau ymchwil yn y ardal hwn o’r radd flaenaf yn cynnwys ein llong ymchwil ar y môr y Prince Madog, fferm ymchwil Henfaes, a .

Ymchwilwyr Dan Sylw

image of Julia Jones in recording studio

Yr Athro Julia Patricia Gordon Jones

Mae'r Athro Julia Jones yn wyddonydd cadwraeth sydd ag arbenigedd mewn gwerthuso effaith ymyriadau cadwraeth

Professor Stuart Jenkins standing on the shore with a forest behind him

Professor Stuart Jenkins

Mae’r Athro Stuart Jenkins yn ecolegydd benthig arbrofol sydd â diddordeb mewn amrywiaeth o effeithiau anthropogenig ar ecosystemau arfordirol

Image of Alex Sutton

Dr Alex Sutton

Ecolegydd ymddygiad a phoblogaeth yw Dr Alex Sutton sydd â diddordeb mewn deall sut mae unigolion yn ymateb i newid amgylcheddol a sut mae'r ymatebion hyn yn cynyddu i ddylanwadu ar y boblogaeth a’u cymunedau.

Ìý

Claire Carrington on a shore performing research.

Claire Carrington

Ecolegydd morolÌý yw Claire Carrington sydd ar hyn o bryd yn ymchwilio i ymatebion ymddygiadol adar môr arfordirol i amrywioldeb meteorolegol

Katie Devenish standing in front of an excavation area

Katie Devenish

Gwyddonydd cadwraeth yw Katie Devenish sy’n defnyddio dulliau gwrthffeithiol i astudio effaith mwyngloddio ar goedwigoedd Madagascar, ac a yw ymdrechion i liniaru’r effaith honno wedi gweithio

man standing greenery behind him

Dr Craig Robertson

Mae Dr Craig Robertson yn ecolegydd dyfnforol sy'n arbenigo yn y cymunedau macroffaunal ac mae ganddo ddiddordeb brwd mewn datblygu dulliau ecoleg swyddogaethol mewn cynefinoedd morol, yn enwedig mewn cynefinoedd mor dwfn.

Dr Marielle Smith yn gwiso helmed ddringo gyda choedwig oddi tanodd

Dr Marielle Smith

Mae Dr Marielle Smith yn ecolegydd ecosystem sy'n cyfuno arsylwadau maes a synhwyro o bell ar draws graddfeydd i ddeall ymatebion coedwigoedd i ysgogwyr defnydd tir a newid yn yr hinsawdd.

Neal Hockley helping train protected area management staff in methods for collecting socio-economic data in Madagascar.

Dr Neal Hockley

Mae Neal Hockley yn wyddonydd cymdeithasol sydd â diddordeb mewn llywodraethu ac economeg tir, gan gynnwys sefydliadau rheoli cymunedol, hawliau tir ac effeithiau economaidd-gymdeithasol cadwraeth bioamrywiaeth a rheoli coedwigoedd.

Man standing with beautiful rolling mountains behind him

Dr Leejiah Dorward

Mae Leejiah Dorwardyn yn wyddonydd cadwraeth rhyngddisgyblaethol gyda diddordebau eang mewn sut y gallwn gymhwyso dulliau gwyddor gymdeithasol i wella ein dealltwriaeth o sut mae systemau cymdeithasol ac ecolegol yn rhyngweithio.

Lady wearing glasses on boat, on the sea

Dr Katrien Van Landeghem

Mae Dr Katrien Van Landeghem yn ddaearegwr morol sydd ag arbenigedd mewn gwerthuso cyfanrwydd gwely'r môr, sy'n effeithio ar ecosystemau morol

Lady sat on rocks near water

Dr Harriet Ibbet

Mae Dr Harriet Ibett yn wyddonydd cadwraeth sy'n canolbwyntio ar ddeall cydymffurfiaeth pobl â rheolau sy'n amddiffyn bioamrywiaeth

Man measuring a tree in the forest

Yr Athro John Healey

Mae Yr Athro John Healey yn ecolegydd coedwig sy'n gweithio i gyflawni rheolaeth gynaliadwy, cadwraeth ac adfer adnoddau coedwigoedd

Lady standing surrounded by greenery

Dr Freya St John

Mae Dr Freya St John yn wyddonydd cadwraeth sydd â diddordeb mewn deall y cysylltiadau rhwng ymddygiad dynol, lles a cadwraeth

Lady standing holding cameras on a boat in the sea

Dr Ewa Krzyszczyk

Mae Dr Ewa Krzyszczyk yn sŵolegydd morol sydd â diddordeb mewn ymddygiad a chadwraeth mamaliaid morol, pysgod, ac amrywiaeth o ecosystemau morol

Lady standing in a forest on a sunny day

Dr Elena Cini

Mae Elena Cini yn wyddonydd rhyngddisgyblaethol gyda diddordeb mewn ecoleg, gwyddor gymdeithasol cadwraeth, ac ymchwil amaeth-amgylcheddol

Lady standing surrounded by beautiful mountains

Dr Eleanor Warren-Thomas

Mae Dr Eleanor Warren-Thomas yn wyddonydd rhyngddisgyblaethol sy’n defnyddio offer o ecoleg, economeg a gwyddor systemau tir i gefnogi cadwraeth, adfer coedwigoedd a bioamrywiaeth.

Male standing with nice greenery behind him

Dr Edwin Pynegar

Mae Dr Edwin Pynegar yn wyddonydd cadwraeth ac yn ymarferydd sy'n gweithio ar ddylunio a gweithredu rhaglenni cytundebau cadwraeth ac yn gwerthuso eu heffeithiolrwydd yn gadarn.

Man climbing to viewing tower, surrounded by trees

Dr Farnon Ellwood

Mae Dr Farnon Ellwood yn ecolegydd cymunedol sy'n arbenigo mewn datblygu fframweithiau damcaniaethol y gellir eu defnyddio i warchod bioamrywiaeth drofannol trwy lywio arferion rheoli cynaliadwy

Person standing on beach with sea and land behind them

Deanna Groom

Mae Deanna Groom yn archeolegydd morol sy’n arbenigo mewn datblygu stocrestrau amgylchedd hanesyddol morol (e.e. cofnodion safleoedd cenedlaethol a rhanbarthol a henebion) ar gyfer safleoedd treftadaeth arfordirol a thanddwr. Mae diddordebau ymchwil penodol yn ymwneud ag effaith newid hinsawdd ar ecoleg safleoedd llongddrylliadau hanesyddol

Male standing with sea in the background

Dr Gareth Williams

Mae Dr Gareth Williams yn ecolegydd morol sy'n arbenigo mewn ecoleg riffiau cwrel. Mae ei waith yn canolbwyntio ar nodi ysgogwyr naturiol a dynol strwythur a swyddogaeth gymunedol riffiau cwrel ar draws graddfeydd a thacsa

Dr Peter Haswell yn sefyll ar dir uchel gwelltog

Dr. Peter M. Haswell

Mae Dr Peter M. Haswell yn fiolegydd bywyd gwyllt sy'n gweithio i warchod, adfer a deall bioamrywiaeth a phrosesau ecolegol. Rhyngweithiadau rhywogaethau, cydfodolaeth pobl a bywyd gwyllt, cigysyddion, dulliau ymchwil, a moeseg amgylcheddol yw rhai o’i brif ddiddordebau.

Dr Svenja Tidau yn gwyro ger craig yn edrych ar aderyn

Dr Svenja Tidau

Mae Dr Svenja Tidau yn fiolegydd newid byd-eang sydd â diddordeb yn yr effaith mae newidiadau naturiol ac anthropogenig yn yr amgylchedd yn eu cael ar ymddygiad, datblygiad a ffisioleg anifeiliaid (morol).

Dr Tyler Hallman yn sefyll mewn afon isel mewn coedwig yn gafael mewn ysbienddrych

Dr Tyler Hallman

Mae Dr Tyler Hallman yn ecolegydd bywyd gwyllt, sy'n ymddiddori mewn modelu effeithiau amseryddol a gofodol newid amgylcheddol anthropogenic ar fywyd gwyllt, yn benodol gan ddefnyddio data a synhwyrir o bell a data gwyddorau cymunedol.

Dr Winnie Courtene-Jones taking marine samples next to a boat

Dr Winnie Courtene-Jones

Mae Dr Winnie Courtene-Jones yn fiolegydd newid byd-eang ac yn arbenigwr ar lygredd plastig y mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar sut mae straenwyr anthropogenig yn effeithio ar organebau a'r amgylchedd.

Seumas Bates testing a prototype woodland management drone which uses a LIDAR navigation system and foliage harvesting tool.

Dr Seumas Bates

Mae Seumas yn anthropolegydd amgylcheddol sydd ar hyn o bryd yn ymchwilio i arallgyfeirio coetir, a'r defnydd o dronau ymreolaethol i gynorthwyo â rheoli coetiroedd.

A small migratory bird, the reed warbler, about to be released after being tested for its ability to navigate across continents

Yr Athro Richard Holland

Mae Richard yn fiolegydd ymddygiadol sy'n ymchwilio i sut mae anifeiliaid yn gogwyddo, yn llywio ac yn cofio lleoliadau yn y gofod o symudiadau lleol ar raddfa fach i fudo cyfandirol.

Sampling in the mangroves

Dr Nathalie Fenner

Biogeocemegydd yw Dr Nathalie Fenner sy’n ymchwilio i ecosystemau mawndiroedd a’u hymatebion i newid amgylcheddol, gyda diddordeb arbennig mewn cylchredeg carbon.
Ìý

Simon sampling water destined for a global assessment of lake biodiversity

Yr Athro Simon Creer

Mae Simon yn astudio bioamrywiaeth ar draws biomau amrywiol ac yn asesu cysylltiadau â swyddogaeth ecosystemau, iechyd yr amgylchedd a dynol.

Lauren Evans holds a Manx shearwater chick as part of monitoring chick growth.

Lauren Evans

Mae Lauren yn adaregydd sy'n ymchwilio i sut mae amrywioldeb cefnforol yn effeithio ar ymddygiad a diet chwilota adar drycin Manaw.

Amelia is sat on the ground with the sea in the background holding a Manx shearwater (a black and white seabird) on her lap

Amelia Corvin-Czarnodolski

Adaregydd morol yw Amelia sydd ar hyn o bryd yn ymchwilio i ddiet adar môr sy’n plymio gan ddefnyddio metabarcod DNA a dadansoddiad isotopau sefydlog.

Lorna presenting her research on estimating thresholds for good status

Lorna McKellar

Mae Lorna yn ymchwilydd doethurol rhyngddisgyblaethol sy'n edrych ar sut rydyn ni'n penderfynu pryd mae system forol wedi cyrraedd cyflwr amgylcheddol 'da'.

Researcher Charlie Gregory sitting by a tree

Charlie Gregory

Mae Charlie Gregory yn ymchwilydd rhyngddisgyblaethol sy'n astudio canlyniadau dirywiad eithafol a chyflym o fewn poblogaethau pysgod.

Abi walking through a flooded field, wearing brown waders, carrying clear plastic domes used for gas collection

Abi Cousins

Mae Abi yn wyddonydd gwlyptir sydd ar hyn o bryd yn ymchwilio i sut y gellir defnyddio gwlyptiroedd i liniaru effeithiau llygredd anthropogenig.

 Researcher collecting data in a forest in Thailand

์์Nisabhat Tonwoot

Mae Nisabhat Tonwoot yn fyfyriwr PhD trydedd flwyddyn ar y prosiect "Cyfleoedd Ardystio Rheoli Coedwigoedd yng Ngwlad Thai".

This is a photo of Siyang Ren collecting soil in Yunnan Province in southwest China.

Siyang Ren

Gweithio i fesur maint llygredd plastig a nodi ei ffynonellau posibl mewn priddoedd.

Rhestr lawn o'n Hymchwilwyr

  • Iain Lettice
  • Stevie Scanlan
  • Lauren Sansom
  • Emma Green

Projectau allweddol

Mae ymchwilwyr y thema hwn yn gweithio ar amryw o brosiectau cymhwysol.Ìý

Ein gwaith fel y mae ein ymchwiliwyr yn eu gweld

Mae llun yn dweud mil o eiriau - felly plis mwynhewch yr oriel yma, enghreifftiau o'r gwaith rydyn ni'n ymwneud ag ef

Uchafbwyntiau Prosiect Ymchwil Ôl-raddedig

Mae ein prosiectau PGR blaengar yn sbarduno arloesedd ar draws meysydd trwy archwilio syniadau trawsnewidiol, datblygu gwybodaeth, a chynnig atebion byd go iawn.

Astudio ym Mangor

Ym Mangor, ymchwil yw sylfaen ein haddysgu. Gallwch astudio amrywiaeth eang o gyrsiau, ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, sydd wedi ei seilio ar yr ymchwil byd eang rydym yn ei wneud yn y maes hwn.Ìý

Astudio gyda ni

Ym Mangor, ymchwil yw sylfaen ein haddysgu. Gallwch astudio amrywiaeth eang o gyrsiau, ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, sydd wedi ei seilio ar yr ymchwil byd eang rydym yn ei wneud yn y maes hwn.Ìý