Newyddion Diweddaraf am Labordai Doethineb
Mae Labordai Doethineb yn glwb rhwydweithio arbennig newydd gan Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É, sy’n cyflwyno cynulleidfa gydag arbenigwr, y labordy, rhannu ymarfer gorau a llawer mwy! Mae wedi'i fwriadu ar gyfer ein cyn-fyfyrwyr Twf Busnes 20Twenty ac Arweinyddiaeth ION, i ddatblygu rhwydweithio ymhellach a chyfoethogi dysgu.
Roedd ein cyfres Labordai Doethineb gyntaf yn llwyddiant ysgubol pan ddaeth grŵp bach o gynrychiolwyr ynghyd i fynychu ein cyfres 'Llesiant'. Edrychodd y gweithdai Llesiant ar 'Nodau a Phwrpas', 'Meddwl Newydd a Rheolaeth Emosiynol', a daeth i ben gyda sesiwn ar 'Lunio eich Cynllun Lles Unigol'.
Mae pob sesiwn Labordai Doethineb yn cynnwys siaradwyr allweddol a chynrychiolwyr o amrywiaeth eang o fusnesau, a dechreuodd gyda chyfres o weithdai Llesiant yng Nghanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn Wrecsam. Cynhaliwyd y gyfres hefyd yn Ysgol Busnes Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer cyn-fyfyrwyr y rhaglen Arweinyddiaeth ION.
Nod y Labordai Doethineb yw pwysleisio gwerth rhwydweithio trwy ddod ag unigolion o’r un meddylfryd ynghyd o bob rhan o Ogledd Cymru, sy’n gallu rhannu eu profiadau busnes eu hunain, dysgu gan eraill a datblygu eu sgiliau arwain.
Mae adborth o’n cyfres ‘Lles’ gyntaf wedi bod yn gadarnhaol iawn ac mae awydd am gefnogaeth bellach yn wyneb yr heriau y mae busnesau’n eu hwynebu nawr.
Ìý
Mae’n bleser gennym gyhoeddi cyfres arall drwy gydol gweddill y flwyddyn ar 'Ddenu Talent a Dal Gafael Arno', ar gael i gyn-fyfyrwyr ac eto'n cael eu cyflwyno yn Wrecsam yng Nghanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! ac Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É. Mae’r cynulleidfa gydag arbenigwr yn cynnwys:
'Rhagweld Llwyddiant mewn Swydd' Bydd y Seicolegydd Busnes Pauline Bowe yn eich helpu i ystyried effaith personoliaeth, gallu a diddordebau fel rhagfynegwyr llwyddiant mewn swydd, a'ch rôl wrth sicrhau bod darpar ymgeiswyr yn deall beth yw pwrpas eich busnes, i sicrhau eu bod nhw hefyd yn eich dewis chi!
'Cyflogi tîm talentog' Sut mae cyfleu'r neges orau i recriwtio'r ymgeiswyr gorau? Bydd Sarah Ellwood o Supertemps, yr asiantaeth recriwtio annibynnol hynaf yng Ngogledd Cymru yn archwilio sut i ddod o hyd i'r ymgeiswyr gorau ac yn cael cwmni cyn-newyddiadurwr a rheolwr cyfathrebu sydd wedi ennill gwobrau am ei waith, Martin Williams o Radar P.R.
'Hyrwyddo Ymgysylltiad Staff' Mae David Roberts, sylfaenydd a chyfarwyddwr The Alternative Board (TAB) a Chadeirydd IOD Gogledd Cymru, yn gweithio gydag ystod eang o berchnogion busnesau bach a chanolig lleol. Fel arweinydd busnes Adnoddau Dynol, bydd David yn trafod sut i ddal gafael ar staff ac ymgysylltu â nhw, archwilio gwobrau a chydnabyddiaeth, ac edrych ar sut i gael y gorau allan o'ch staff.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, ymuno â'r Labordai Doethineb, cynyddu eich rhwydwaith busnes neu os oes gennych awgrymiadau am feysydd pwnc ar gyfer ein cyfres nesaf, cysylltwch â ni!
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y gyfres Labordai Doethineb nesaf, e-bostiwch j.whittaker@bangor.ac.uk neu n.sturrs@bangor.ac.uk