ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:
Logo 1884 ar gefndir gwyn

Menter Môn

Cydweithio â diwydiant

Harneisio ynni’r llanw

Disgwylir y ceir sêl bendith i gynlluniau ar gyfer safle ynni llanw mwyaf y byd oddi ar arfordir Gogledd Cymru, a fydd yn cynhyrchu digon o ynni glân i bweru 180,000 o aelwydydd. Bu cydweithio ag Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É yn allweddol wrth ddatblygu’r project hwn. 

Asesodd yr Ysgol Busnes effaith y cynllun ar ddiwydiant lleol, a thrwy sefydlu strategaeth i sicrhau bod buddion economaidd lleol yn cael eu huchafu, sicrhaodd y prosiect sy’n cael ei redeg gan fenter gymdeithasol Ynys Môn, Menter Môn, gefnogaeth y cymunedau a’r rhanddeiliaid.

The £35m Morlais scheme will benefit local communities, the economy, and help tackle climate change - using renewable energy to generate clean, low carbon electricity.    

Bydd y cynllun Morlais gwerth £35m o fudd i gymunedau lleol, yr economi, ac yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd - gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy i gynhyrchu trydan glân, carbon isel. 

Oherwydd ei daearyddiaeth, mae gogledd Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i ddod yn ganolbwynt ynni ar gyfer arloesi a datblygu technolegau amgylcheddol.  Trwy brojectau fel Morlais, bydd gennym ni’r technolegau i helpu’r byd i gyflawni ei ddyhead sero net. 

Trwy’r cydweithio hwn, llwyddais i ddod ag astudiaeth achos o’r byd go iawn i’r ystafell ddosbarth i edrych ar sut y gall projectau sy’n mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd hefyd gael effaith economaidd gadarnhaol.

Dr Edward Thomas Jones,  Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É

Trwy weithio gyda rhanddeiliaid allweddol fel Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, ein nod yw datblygu’r sgiliau a’r cyfleoedd hyfforddi a chefnogi’r gadwyn gyflenwi leol i ddatblygu ac arallgyfeirio i ddiwallu anghenion y diwydiant llif llanw. Trwy’r project Morlais mae gennym y cyfle i greu clwstwr arloesi yn y diwydiant ynni llif llanw sy’n ymegino gan sicrhau bod gogledd Cymru ar flaen y gad o ran datblygu diwydiant yn y tymor hir. 

 Dafydd Gruffydd,  Rheolwr Gyfarwyddwr, Menter Môn