Byd Digidol Mwy Diogel Â
Yn anffodus, mae achosion o gyrchu data yn ddiawdurdod yn digwydd yn amlach o lawer, a gallant effeithio ar bob un ohonom a chael canlyniadau pellgyrhaeddol. Dros y 12 mis diwethaf, cafodd cwmni o’r DU ei hacio’n llwyddiannus bob 19 eiliad!Â
Mae Cufflink, sydd wedi ei lleoli ym Mharc Gwyddoniaeth Menai Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, yn arloesi mewn seiberddiogelwch. Mae’r cwmni yn gwneud cynnydd byd-eang o ran cadw gwybodaeth bersonol a busnes yn ddiogel, ac yn gwarchod rhag hacio data, gyda chymorth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É.Â
Mae 50% o weithlu'r cwmni yn raddedigion o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ac mae Cufflink yn elwa o allu ffurfio partneriaethau ymchwil gydag arbenigwyr yn y brifysgol ar ddata, preifatrwydd a thryloywder.Â
Ein gweledigaeth ni yw i Gymru fod ar flaen y gad yn y farchnad seiberddiogelwch fyd-eang, gan ddethol y disgleiriaf a’r gorau o brifysgolion lleol, gan ddarparu cyfleoedd medrus iawn i fynd i’r afael â phroblem fyd-eang enfawr.