Pam Astudio Ffilm, Cyfryngau a Newyddiaduraeth?
Byddwch yn ymuno 芒 chymuned 么l-raddedig fywiog a phrifysgol sydd 芒 phrofiad sylweddol o ddysgu'r diwydiannau creadigol ar lefel 么l-raddedig. Mae ein myfyrwyr 么l-raddedig wedi ennill nifer o wobrau ac ysgoloriaethau ac wedi cael swyddi academaidd ac ym myd diwydiant mewn sefydliadau pwysig fel y BBC ac yn y sector meddalwedd adloniant.
Ymhlith y staff dysgu ceir academyddion uchel eu parch ac ymarferwyr creadigol o fri, gyda chysylltiadau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol cryf yn y sector preifat a chyhoeddus. Mae'r staff academaidd yn arbenigo mewn meysydd ymchwil amrywiol fel dawns fertigol, technoleg a disgwrs, y byd ffilm Iddewig, hysbysebu digidol, newyddiaduraeth, gwleidyddiaeth a risg, ffuglen ddigidol gemau fideo a bydoedd rhithwir, teledu byw, gwneud ffilmiau dogfen, astudiaethau addasu a chomics.
I gyd-fynd ag arbenigedd ein staff ceir y cyfleusterau diweddaraf posibl. Yn ogystal ag offer teledu a radio o safon ddarlledu, ceir mannau penodol ar gyfer rhai'n astudio gemau, cyfryngau digidol, newyddiaduraeth ac ysgrifennu, a theatr a sinema ddigidol.
Mae gennym gysylltiadau cryf 芒 chwmn茂au lleol e.e. BBC Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, S4C, Cwmni Da, Gwerthwyr Tai Dafydd Hardy, Menter M么n, Galeri Caernarfon, GeoM么n, ac rydym yn cynnig amrywiaeth o sgyrsiau a gweithdai a arweinir gan bobl o ddiwydiant i chi fynd iddynt a meithrin cysylltiadau 芒 darpar gyflogwyr yn y diwydiannau cyfryngau a chreadigol.
Cyfleoedd Gyrfa o fewn Ffilm, Cyfryngau a Newyddiaduraeth
Gall astudio pynciau cyfryngau ym Mangor fod yn fan cychwyn i yrfa wych. Mae gennym gysylltiadau rhagorol 芒'r diwydiant hysbysebu, asiantaethau marchnata, cwmn茂au technoleg, rheoleiddwyr, gwneuthurwyr polisi, cwmn茂au theatr, papurau newydd a'r diwydiant teledu.
Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio mewn amrywiaeth o swyddogaethau, gan gynnwys: ysgrifennu creadigol; ysgrifennu a chyhoeddi proffesiynol; perfformio a'r theatr (ar y llwyfan a gefn y llwyfan); newyddiaduraeth brint ac/neu ddarlledu; fel actorion, cyflwynwyr ac wrth gynhyrchu rhaglenni teledu; hysbysebu a marchnata; radio (fel cyflwynwyr yn ogystal 芒 chynhyrchu rhaglenni); cynhyrchu digidol, ar y we a'r cyfryngau newydd; diwydiannau amlgyfryngau; addysgu; darlithio; a chysylltiadau cyhoeddus.
Ein Hymchwil o fewn Ffilm, Cyfryngau a Newyddiaduraeth
Mae'r ysgol yn rhyngddisgyblaethol, yn gydweithredol, yn greadigol ac yn feirniadol. Yn yr asesiad cenedlaethol diweddaraf o ansawdd ymchwil (REF 2014), roedd holl ymchwil yr Ysgol naill ai gyda'r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol o ran ansawdd.
Ein cryfderau allweddol yw gwaith y staff yn y diwylliant digidol; y cyfryngau a chyfathrebu perswadiol; a theori ac ymarfer creadigol (ymarfer-fel-ymchwil).
Mae gennym berthynas arbennig o gryf yn sector diwydiannau'r cyfryngau a chreadigol yng Nghymru, ac rydym hefyd yn ymwneud 芒'r economi creadigol yn fwy cyffredinol, yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae hyn yn cyfrannu at nifer o agweddau ar ein gweithgareddau ymchwil, ac yn gymorth i hyrwyddo ein gwaith hefyd. Yn gymunedol, rydym yn cymryd rhan mewn projectau a datblygiadau'n rheolaidd. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i'r myfyrwyr, ac mae hefyd yn gymorth i gynyddu effaith gyffredinol ein gweithgareddau a chodi ymwybyddiaeth amdanynt. Ymhlith y cwmn茂au a'r sefydliadau y buom yn cydweithio 芒 hwy'n ddiweddar mae BAFTA Cymru, cwmni teledu annibynnol Cwmni Da, NoFit State Circus a'r Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr.
Mae gennym ddiwylliant ymchwil bywiog a chyfeillgar. 鈦燤ae ein cyfres ymchwil wythnosol yn cynnwys cydweithwyr o Fangor, myfyrwyr 么l-radd, ac ymchwilwyr ac ymarferwyr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig a thu hwnt, mewn awyrgylch cefnogol, os beirniadol. Rydym hefyd yn gwahodd gwesteion arbennig, ysgolheigion ar ymweliad ac eraill i roi cyflwyniadau ar eu gwaith ymchwil a'u hymarfer.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.