亚洲色吧

Fy ngwlad:
Myfyrwyr mewn sesiwn hyfforddi

Addysg Feddygol

MAES PWNC 脭L-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Addysg Feddygol

Pam Astudio Addysg Feddygol?

Mae Addysg Feddygol ym Mangor yn caniat谩u ichi ddadansoddi cymhlethdodau addysg glinigol yn systematig ac yn greadigol, gan ddefnyddio dulliau sy'n adeiladu ar eich profiad eich hun. Mae'n ymwneud 芒 dysgu gweithredol ac adfyfyriol ac yn canolbwyntio ar integreiddio theori cyfoes ac ymarfer.

Mae gan Brifysgol 亚洲色吧 hanes o ragoriaeth mewn ymchwil ac addysgu ym maes meddygol ac iechyd. Mae'r Ysgol Gwyddorau Meddygol yn parhau i ddatblygu ac adeiladu ar y cryfderau hyn, gan gyfuno ymchwil arloesol gydag addysg feddygol a biofeddygol.

Fel myfyriwr Addysg Feddygol gyda ni byddwch yn elwa o'r amgylchedd hwn a rhaglen sydd yn:

  • cael ei darparu mewn amgylchedd ar-lein heb lawer o oriau cyswllt ffurfiol, gyda chefnogaeth trwy e-bost, ff么n a skype
  • eich galluogi i ddechrau eich astudiaeth 么l-radd hyfforddedig ar eich cyflymder eich hun
  • eich galluogi i fynd ymlaen i wneud cwrs Meistr ar 么l cwblhau'r PGCert
  • rhoi cyfle i fod yn rhan o gymuned sydd wedi ymrwymo i wella addysg myfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol
  • adfyfyriol iawn gyda'r nod o wella eich sgiliau presennol fel ymarferwyr a dysgu oddi wrth arfer gorau yn yr amgylchedd dysgu.聽

8fed

yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Gwyddor Biofeddygol)

Complete University Guide 2024

6ed

yn y DU am Werth Ychwanegol (Gwyddor Biofeddygol)

Guardian Good University Guide 2023

9fed

yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Gwyddor Biofeddygol)

Complete University Guide 2024

9fed

yn y DU am Anatomeg a Ffisioleg

Times Good University Guide 2023

Cyfleoedd Gyrfa mewn Addysg Feddygol

Gall y cwrs eich helpu i ddatblygu eich gyrfa feddygol mewn sawl ffordd:

  • helpu i baratoi clinigwyr i gael swyddi arweiniol mewn addysg glinigol yn eu proffesiwn eu hunain a chydweithio wrth ddatblygu agweddau aml broffesiynol ar addysg glinigol
  • mae cael cymhwyster 么l-radd yn hanfodol i rai meddygon fedru gwneud cais am swyddi uwch
  • wedi'i achredu gan y Gymdeithas Addysg Uwch sy'n rhoi cyfle i chi gael cydnabyddiaeth ychwanegol am eich sgiliau addysgu
  • cryfhau'r potensial i symud ymlaen i raddfa ymgynghorydd

Ein Hymchwil o fewn Addysg Feddygol

Yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol, mae ein hymchwil yn defnyddio dulliau blaengar i roi sylw i gwestiynau sylfaenol ym maes meddygaeth a/neu ddatblygu cymwysiadau i ddiwallu anghenion clinigol difrifol. Mae gennym y nod cyffredinol o wella llwybr y claf, naill ai trwy gyfrannu gwybodaeth newydd i lenwi bwlch pwysig mewn gwybodaeth feddygol neu ddatblygu cymwysiadau sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at wella iechyd a lles.

Rydym yn canolbwyntio'n gryf ar ymchwil canser lle mae ein timau ymchwil nid yn unig yn archwilio'r prosesau cymhleth sy'n arwain at ddatblygiad, cynnydd ac ymwrthiant canserau i therapiau, ond hefyd yn datblygu'r sylfaen ar gyfer therap茂au newydd a thechnolegau monitro cleifion. Mae'r timau ymchwil canser wedi'u lleoli yn Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin, sy'n ein hintegreiddio 芒'r rhwydweithiau ymchwil ehangach mewn prifysgolion ymchwil eraill ledled y byd a darparwyr gofal iechyd. Mae hyn yn sicrhau bod ein hymchwil yn berthnasol i anghenion cleifion canser yng Nghymru a thu hwnt.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.