Jamie MacDonald
Enw
Jamie Macdonald
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?
Cefais fy ngeni yn Poole, Dorset. Cefais fy magu yn Swanage a Beaminster, y ddau yn Dorset. Mae'r ardal yn enwog fel man geni Thomas Hardy, lleoliad River Cottage gan Hugh Fearnley-Whittingstall a鈥檙 gyfres ddrama Broadchurch gan ITV, yn ogystal 芒 Dorset Knobs, Clipper Teas, Henry Hoovers a Dorset Cereals, ac am fod yn sir ffermio go iawn.
Sut mae eich amgylchedd cynnar wedi llywio pwy ydych chi heddiw?
Treuliais fy mhlentyndod yn cael fy llusgo o gwmpas y bryniau lleol gan fy mam. Roeddwn wedyn yn byw drws nesaf i'r ganolfan ieuenctid leol a chefais ymgymryd 芒 nifer o weithgareddau awyr agored a theithiau antur lleol a thramor. Datblygodd hyn fy nghariad tuag at yr awyr agored dan arweiniad llawer o arweinwyr ysbrydoledig gwych, a dwi wedi ceisio efelychu eu nodweddion gorau.
Beth (neu bwy) wnaeth eich ysbrydoli chi i ddod yn academydd?
Ar 么l fy ngradd israddedig, roeddwn ar alldaith ddringo o amgylch Ewrop, ac wedi treulio blwyddyn gyfan yn byw oddi cartref mewn caraf谩n (dim camperfan c诺l i mi). Sylweddolais fod arnaf angen cael fy herio鈥檔 academaidd, a gyrrais adref (yr holl ffordd o Ddwyrain Ewrop mewn prin ddeuddydd) i ddod o hyd i raglen PhD.
Pe na baech yn academydd, beth fyddech chi鈥檔 ei wneud?
Byddwn wrth fy modd yn gweithio fel peiriannydd yn y diwydiant moduro, neu fel peilot awyrennau. Dwi wrth fy modd 芒 cheir, ac yn ystod fy ngradd israddedig roeddwn yn rhan o Sgwadron Awyr yr Awyrlu. Cefais hedfan yn unigol, a dwi鈥檔 difaru peidio ag ennill fy 鈥渁denydd鈥 hyd heddiw.
A ydych chi鈥檔 cymryd rhan mewn unrhyw hob茂au neu chwaraeon cyffrous?
Mae gen i ddiddordeb yn y rhan fwyaf o weithgareddau awyr agored, ond yn enwedig dringo, mynydda, teithiau sg茂o, a beicio mynydd. Mae gen i ddiddordeb mewn beicio ffordd, can诺io a cheufadu ar y m么r, ac ychydig o redeg.
Pa athletwr ydych chi鈥檔 ei barchu a鈥檌 edmygu fwyaf?
Dwi鈥檔 edmygu llawer o athletwyr. Ar frig y rhestr mae Sebastien Loeb, gyrrwr ceir mwyaf llwyddiannus Rali'r Byd erioed. Mae'n ddweud mawr ond dydw i ddim yn gwybod am unrhyw athletwr arall, mewn unrhyw gamp arall, sydd 芒 gyrfa mor llwyddiannus. Dwi hefyd yn hoff iawn o seren rygbi Cymru, George North; gwnaethom gyflwyno gradd er anrhydedd i George yn 2014, ac ef oedd yr athletwr mwyaf diymhongar ac ymroddedig i mi ei gyfarfod. Roedd Ueli Steck yn ddringwr mynyddoedd dewr a thalentog, yn dringo mynyddoedd yr Himalaia a鈥檙 Alpau, ac roedd yn gwthio ffiniau yr hyn a oedd yn bosibl yn y maes mynydda. Dwi hefyd yn edmygu fy ffrind a鈥檙 athletwr cross fit, Harri James (@harijamespt) oherwydd ei dewrder wrth siarad am gywilyddio corfforol yn agored (ac oherwydd ei bod yn gallu fy nghuro mewn g锚m o reslo breichiau, hyd yn oed os ydw i鈥檔 defnyddio dwy law!)
Beth yw eich hoff ffilm, sioe deledu a cherddoriaeth?
Ffilm: mae鈥檔 agos, ond mae The Matrix yn un o fy ffefrynnau. Mae鈥檙 ffilm James Bond newydd hefyd yn fy nghyffroi.
Rhaglen Deledu: The Wire. Drama drosedd Americanaidd ar ei gorau.
Cerddoriaeth: Dwi wrth fy modd 芒 cherddoriaeth Radio Six ar hyn o bryd, yn enwedig sioe Cerys Matthews. Mae Smooth Chill ar DAB yn ffefryn arall.
Yn eich barn chi, beth yw鈥檙 heriau mae鈥檙 to presennol o fyfyrwyr addysg uwch yn eu hwynebu?
Heb os, yr her fwyaf i fyfyrwyr yw pontio鈥檔 llwyddiannus o ddiwylliant hynod gefnogol yr Ysgol/Coleg sy鈥檔 canolbwyntio ar asesu, i natur hunan-dywysedig y Brifysgol.
Pa gyngor fyddech chi鈥檔 ei gynnig i fyfyrwyr sydd ar fin graddio eleni?
Dwi wir yn credu, waeth beth fo鈥檆h gallu academaidd, fod yr hyn rydych yn ei gyflawni yn eich gyrfa yn uniongyrchol gysylltiedig 芒 faint o ymdrech rydych yn ei wneud.
Fideos
听
Dr Ross Roberts
Enw
Ross Roberts
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?听
Cefais fy ngeni a'm magu yng Nghaerwrangon. Deuthum i Fangor ym 1998 yn hogyn ifanc bochgoch 18 oed i astudio Gwyddorau Chwaraeon a mynd i ddringo heb edrych yn 么l byth鈥
Sut gwnaeth eich amgylchedd cynnar eich siapio i fod y person rydych chi heddiw?
Gwell peidio 芒 gwybod hynny! Mae fy nhad yn gyfrifol am lawer o bethau, er nad oes gennyf ei ddawn adeiladu...dim eto!听
Beth (neu bwy) wnaeth eich ysbrydoli i fynd yn academydd?听
Lew Hardy, Nicky Callow a Tim Woodman. Ydw i鈥檔 swnio fel crafwr? Ond o ddifrif...rwy'n cofio darlith yn y drydedd flwyddyn gan Lew a wnaeth imi feddwl y byddai MSc yn syniad da. Dechreuais ar fy MSc ac yna trwy drafod 芒 Nicky penderfynais fy mod i eisiau gwneud PhD gyda hi, ac yna ar ddiwedd y PhD dechreuais weithio gyda'r tri. Rwy鈥檔 teimlo鈥檔 lwcus iawn i鈥檞 cael fel mentoriaid, cydweithwyr a ffrindiau (mae gan Lew hefyd straeon dringo doniol am ein hanturiaethau gyda鈥檔 gilydd ond mae鈥檔 debyg mai鈥檙 peth gorau yw gadael y rheini am y tro.....)听
Pe na baech yn academydd, beth fyddech chi'n ei wneud?听
Treulio amser gyda鈥檙 teulu, rhedeg yn y mynyddoedd gyda ffrindiau, gwneud bara, hyfforddi rygbi iau (ar gyfer t卯m rygbi gorau'r byd - Bethesda o dan 13!), chwarae'r piano, bwyta a mynd 芒鈥檙 ci am dro... gorau oll ar yr un pryd.听
A oes gennych chi unrhyw hob茂au neu chwaraeon cyffrous rydych chi'n cymryd rhan ynddynt?听
Rwyf ar ben fy nigon yn rhedeg mynyddoedd ac rwy'n mwynhau gwneud hynny mor aml 芒 phosib. Dwi hefyd yn hyfforddwr cynorthwyol i d卯m rygbi dan 13 Bethesda sy'n un o'r pethau gorau y gallaf ei wneud ac sy'n llawer o hwyl. Rwy'n treulio oriau lu鈥檔 gyrru fy mhlant i lefydd!听
Pa fabolgampwr ydych chi'n ei barchu a'i edmygu fwyaf?听
Hawdd, tri o bobl. Joss Naylor, Nicky Spinks a Jasmin Paris. Tri o fawrion y byd rhedeg mynyddoedd sydd wedi goresgyn anawsterau ofnadwy yn eu bywydau ac sy鈥檔 dal i gyflawni ar y lefel uchaf.听
Beth yw eich hoff ffilm, sioe deledu a cherddoriaeth?听
Er nad ydw i'n wyliwr mawr ar y teledu (mae'n well gen i wneud rhywbeth), mae'n debyg mai The West Wing yw fy hoff sioe deledu, un o鈥檙 rhaglenni teledu gorau erioed. Gwyliais bob un o'r 7 tymor droeon a thro ac nid yw byth yn pylu. Mae The Office yn ail agos serch hynny. Rwyf hefyd yn hoff iawn o Taskmaster ac Eight out of Ten Cats does Countdown (geiriau, rhifau a chomedi 鈥 pleser pur?!). Dydw i ddim yn un o selogion mawr byd y ffilmiau ond mae The Shawshank Redemption a Dead Poets Society yn wych. Clasur arall yw Withnail and I. O ran cerddoriaeth rwy'n hoffi'r Band, Neil Young, Joni Mitchell, John Martyn, Ben Folds a llawer o bobl eraill...collais gysylltiad 芒'r rhan fwyaf o bethau tua 2000 er imi daro ar Boygenius y diwrnod o'r blaen ac rwy鈥檔 hoff iawn ohonyn nhw. Rwy'n dibynnu ar fy mhlant sydd yn eu harddegau i ddweud wrthyf am bethau mwy modern.听
A oes gennych chi stori ddiddorol neu ddoniol amdanoch chi'ch hun?听
Dim byd i鈥檞 adrodd wrthych chi na'r myfyrwyr!听
Yn eich barn chi, beth yw鈥檙 heriau sy鈥檔 wynebu鈥檙 genhedlaeth bresennol o fyfyrwyr mewn addysg uwch?听
Mae mwy a mwy o bobl yn graddio ac mae'n hanfodol bod myfyrwyr yn cael dangos sut y gallant gyfrannu'n ystyrlon at gymdeithas a pha sgiliau sydd ganddynt a gwneud hynny heb orfod bod gyda鈥檙 uchaf ei st诺r yn yr ystafell.听
Pa gyngor neilltuol fyddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sydd ar fin graddio eleni?听听
Ga鈥 i dri?
1) Nid ydych yn orffenedig eto鈥wch ati i ddysgu digonedd o sgiliau i fod gyda鈥檙 gorau. Byddwch eisoes wedi dysgu llawer o'r rheini, hyd yn oed os nad ydych yn sylweddoli hynny.
2) Byddwch yn garedig 芒 chi'ch hun ac eraill, mae bod yn fod dynol da yn bwysicach nag ennill ras.
3) Rydyn ni'n byw mewn byd sy'n gyforiog o ddata ac felly os byddwch chi'n dysgu rhai sgiliau rhaglennu sylfaenol byddwch chi'n hynod gyflogadwy (gofynnwch i 么l-raddedigion sy鈥檔 gallu defnyddio R!).听
Dr Seren Evans
Enw
Dr Seren Evans听
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?听
Cefais fy ngeni a'm magu ym mhentref bychan y Parc ar gyrion y Bala, Gwynedd ac rwy鈥檔 dal i fyw yno! Symudais i Brifysgol 亚洲色吧 fel myfyriwr israddedig yn 2015, ac ers hynny b没m yn byw ym Mhorthaethwy a Llandudno, cyn dychwelyd i鈥檓 gwreiddiau yn 2022.听听
Sut gwnaeth eich amgylchedd cynnar eich siapio i fod y person rydych chi heddiw?听
Roedd byw yn y mynyddoedd a ger llynnoedd yn golygu fy mod i鈥檔 berson 鈥測r awyr agored鈥 erioed, ac mae fy nghariad at fod yn yr awyr agored yn parhau gan ei fod yn fy helpu i ymlacio ar 么l wythnos brysur yn y gwaith (pryd bynnag y bydd tywydd y gogledd yn caniat谩u hynny!). Dim ond fi a fy mrawd oedd pan oeddwn i鈥檔 tyfu i fyny, sy'n golygu y gallaf ofalu amdanaf fy hun yn eithaf da mewn sefyllfaoedd anodd gan ei fod o bob amser yn gwbl onest 芒 mi. Hefyd mi wnaeth hynny fi鈥檔 berson annibynnol iawn, rwy鈥檔 gallu bod yn gyfforddus yn treulio amser ar fy mhen fy hun a chanfod llawenydd yn yr eiliadau bach.听听
Beth (neu bwy) wnaeth eich ysbrydoli i fynd yn academydd?听
I fod yn gwbl onest, wnes i erioed feddwl y byddwn i'n mynd yn academydd, roeddwn i wastad eisiau bod yn Ffisiotherapydd (ar 么l imi sylweddoli na fyddai鈥檔 bosib imi fod yn Dywysoges Balerina). Fodd bynnag, ar 么l derbyn fy ngraddau TGAU, dywedodd fy athro Saesneg yn yr ysgol uwchradd, Mr Euron Hughes, wrthyf y byddwn yn mynd ati i gyflawni pethau gwych, ac mi arhosodd hynny efo fi a rhywsut fy ngwthio i geisio bod gyda鈥檙 gorau yn yr hyn yr wyf yn ei wneud.听听听
Pe na baech yn academydd, beth fyddech chi'n ei wneud?
Roeddwn i wastad eisiau cadw siop goffi amgen sy'n croesawu c诺n. Neu鈥檔 athrawes ioga ym Mali. Rwy'n dal i feddwl am hynny鈥檔 ddyddiol...听
A oes gennych chi unrhyw hob茂au neu chwaraeon cyffrous rydych chi'n cymryd rhan ynddynt?听
Rwy'n mwynhau CrossFitter ac Olympic Weightlifter, sy'n fy nghadw'n gryf, yn ffit ac yn iach - ac yn gwneud yn si诺r fy mod yn ymarfer yr hyn rwy'n ei bregethu mewn darlithoedd. Yn y gorffennol, roeddwn i'n chwarae Rygbi'r Undeb, ond sylweddolais yn eithaf cyflym nad oedd anafiadau'n hwyl (ac efallai鈥檔 rheswm dros wneud PhD mewn risg anafiadau o fewn y gamp!). Dechreuais Eirafyrddio yn ddiweddar, er bod honno鈥檔 broses araf iawn. Rwyf hefyd yn mwynhau mynd 芒鈥檙 ci sydd wedi'i ddifetha'n llwyr i'r traeth am dro ac ar heiciau ar y penwythnos, a threulio amser gyda fy mhartner.听听
Pa fabolgampwr ydych chi'n ei barchu a'i edmygu fwyaf?听
O ran y Dywysoges Balerina roeddwn i eisiau bod ar un adeg, roedd Darcey Bussell bob amser yn ysbrydoliaeth enfawr imi gan ei bod yn brif ddawnsiwr i鈥檙 Ballet Brenhinol ac yn achosi dipyn o st诺r gan ei bod yn cael ei hystyried yn 鈥渞hy dal鈥 i lwyddo, ond roedd hi mor dda yn yr hyn yr oedd yn ei wneud, daeth yn un o'r dawnswyr ballet gorau erioed.听听
Beth yw eich hoff ffilm, sioe deledu a cherddoriaeth?听
Ffilm: Practical Magic听
Rhaglen deledu: The Office US听
Cerddoriaeth: Canu Gwlad o bob math, yn enwedig Chris Stapleton.听听
A oes gennych chi stori ddiddorol neu ddoniol amdanoch chi'ch hun?听
Fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, byddaf yn aml yn camynganu pethau... Roeddwn i mewn siop goffi, ac archebais frechdan Focaccia. Fe'i gadawaf i'r dychymyg o ran yr hyn a ddywedais mewn gwirionedd. Rwy'n meddwl mai fi oedd y j么c fawr ymhlith y staff y diwrnod hwnnw.听
Yn eich barn chi, beth yw鈥檙 heriau sy鈥檔 wynebu鈥檙 genhedlaeth bresennol o fyfyrwyr mewn addysg uwch?听
Credaf fod y farchnad swyddi鈥檔 newid yn gyflym, ac mae鈥檔 rhaid i fyfyrwyr addasu a dysgu sgiliau newydd. Ein gwaith ni fel darlithwyr yw hwyluso hynny ar ryw ystyr ac ymadael 芒鈥檙 modelau addysgol mwy traddodiadol. Ac yn bwysicach fyth r诺an, mae cydbwyso cyfrifoldebau academaidd gyda gwaith rhan-amser, interniaethau, gwirfoddoli, ymrwymiadau teuluol yn ogystal 芒 cheisio mwynhau'r profiad prifysgol yn anodd.听听听
Pa gyngor neilltuol fyddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sydd ar fin graddio eleni?听听
Mae gen i fwy nag un:听听
1. Gwybod eich gwerth.
2. Gwnewch rywbeth sy'n eich dychryn yn rheolaidd, gwnewch gais am y swydd honno na fyddech chi byth yn disgwyl ei chael - wyddoch chi byth beth all ddod!听
3.听Gosodwch eich ffiniau鈥檔 gynnar 鈥 mae dweud na yn sgil allweddol.
4. Gwnewch yr hyn rydych chi wir eisiau ei wneud, nid yr hyn rydych chi'n meddwl y mae cymdeithas yn disgwyl i chi ei wneud.听
听
Andy Cooke
Enw
Andy Cooke听
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?听
Chesterfield, Swydd Derby.听
Sut mae eich amgylchedd cynnar wedi llywio pwy ydych chi heddiw?听
Mae pawb yn fy nheulu wrth eu bodd 芒 chwaraeon. Mae gen i frodyr a chwiorydd a chefndryd a chyfnitherod o oed tebyg, felly roedd gen i blant eraill o gwmpas bob amser i gicio p锚l neu rasio 芒 nhw a phethau felly. Roeddwn yn sicr o oedran ifanc iawn y byddai fy ngyrfa ddelfrydol yn ymwneud 芒 chwaraeon.听
Beth (neu bwy) wnaeth eich ysbrydoli i ddod yn academydd?听
I ddweud y gwir - fy ngradd israddedig ym Mhrifysgol 亚洲色吧 - pan ddechreuais ar fy ngradd, roeddwn wedi bwriadu mynd yn athro Addysg Gorfforol neu ymuno 芒鈥檙 gwasanaeth t芒n, ond cefais flas ar ymchwil yn ystod fy mhroject Blwyddyn 3, ac roeddwn wrth fy modd. Gwnes gais am ysgoloriaeth PhD ar 么l gorffen fy nghwrs gyda Phrifysgol 亚洲色吧, ac roeddwn yn ddigon ffodus o gael cynnig swydd ym Mhrifysgol Birmingham. Treuliais 5 mlynedd braf yn astudio ac yn gweithio fel ymchwilydd yn Birmingham cyn dychwelyd i Fangor i ddechrau ar fy ngyrfa fel darlithydd. Y bobl allweddol a oedd wedi fy ysbrydoli fwyaf ar hyd y ffordd oedd yr Athro Tim Woodman (fy ngoruchwyliwr project Blwyddyn 3), yr Athro Lew Hardy (a arweiniodd fy nghynnig project pan oedd Tim ar gyfnod sabothol) a鈥檙 Athro Chris Ring (fy ngoruchwyliwr PhD o Brifysgol Birmingham).听听听听
Pe na baech yn academydd, beth fyddech yn ei wneud?听
Athro Addysg Gorfforol efallai, neu鈥檔 gweithio gyda鈥檙 gwasanaeth t芒n.听听
A ydych chi鈥檔 cymryd rhan mewn unrhyw hob茂au neu chwaraeon cyffrous?听
Dwi鈥檔 mwynhau鈥檙 rhan fwyaf o chwaraeon - tenis bwrdd oedd fy mhrif gamp pan oeddwn yn yr ysgol, ond roeddwn hefyd yn chwarae p锚l-droed a chriced ac ychydig o golff. Roeddwn yn chwarae llawer o denis pan oeddwn yn y Brifysgol. Erbyn hyn, rhedeg fyddaf yn ei wneud gan amlaf (am resymau ffitrwydd). Dwi hefyd yn dysgu Cymraeg.听听听听
Pa athletwr ydych chi鈥檔 ei barchu a鈥檌 edmygu fwyaf?听
Roger Federer am ei hirhoedledd a鈥檌 safon.听听
Beth yw eich hoff ffilm, sioe deledu a math o gerddoriaeth?听
Ffilm Brydeinig, nad yw鈥檔 hynod o boblogaidd, yr oeddwn wrth fy modd 芒 hi yn ystod fy mhlentyndod yw 鈥淲hen Saturday Comes鈥 - mae Sean Bean yn cael ei sgowtio o鈥檌 d卯m p锚l-droed Cynghrair Sul ac yn cael ei ddewis i chwarae (a sgorio) dros Sheffiled United yn erbyn Man United yng nghystadleuaeth Cwpan yr FA. B没m yn breuddwydio am fod yn b锚l-droediwr am flynyddoedd, nes i mi sylweddoli, o鈥檙 diwedd, mai dwy droed chwith sydd gen i.听听
Dwi鈥檔 mwynhau sioeau teledu comedi clasurol - mae Only Fools and Horses yn ffefryn.听听
Mae gen i hen albymau indie yn y car, ond dwi鈥檔 gwrando ar y radio gan amlaf.听
A oes gennych chi stori ddiddorol neu ddoniol amdanoch eich hun?听
Dwi鈥檔 aelod balch o Sefydliad Ymchwil Seicoleg Perfformiad El卯t Prifysgol 亚洲色吧. Ni yw un o'r grwpiau mwyaf yn y byd o seicolegwyr chwaraeon sy'n canolbwyntio ar berfformiad! Cymerwch gip ar ein gwefan yma: 听听
Yn eich barn chi, beth yw鈥檙 heriau mae鈥檙 to presennol o fyfyrwyr addysg uwch yn eu hwynebu?听
Mae hwn yn gwestiwn anodd, oherwydd mae鈥檙 heriau鈥檔 newid o hyd, ac mae pobl wahanol yn wynebu heriau gwahanol. Mae鈥檙 seicolegydd ynof yn dweud bod modd goresgyn y rhan fwyaf o heriau os ydych yn gweithio鈥檔 ddigon caled, ac yn eu troi鈥檔 gyfleoedd gwerthfawr.听听听
Pa gyngor fyddech chi鈥檔 ei gynnig i fyfyrwyr sydd ar fin graddio eleni?听
Ewch ati i weithio鈥檔 galed, a chofiwch ddathlu eich llwyddiannau!听
听
听
Dr Stuart Beattie
Enw
Stuart Beattie
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?
Cefais fy ngeni a'm magu yn ninas deg Glasgow.
Sut gwnaeth eich amgylchedd cynnar eich siapio i fod y person rydych chi heddiw?
Ymddengys imi wynebu cyfran deg o adfyd pan oeddwn yn ifanc. Rwy'n meddwl i hynny fy ngwneud i鈥檔 fwy gwydn, yn benderfynol o lwyddo mewn bywyd, ac yn barod i helpu pobl eraill.
Beth (neu bwy) wnaeth eich ysbrydoli i fynd yn academydd?
Y byd academaidd oedd fy ail broffesiwn fel gyrfa (b没m yn gweithio ym maes Coedwigaeth a b没m i'n goedwigwr llawn amser am 3 blynedd cyn dychwelyd i fyd addysg). Cyfarf没m 芒鈥檙 Athro Lew Hardy pan wnes fy modiwl cynnig project israddedig yr ail flwyddyn yma ym Mangor ym 1998. Arweiniodd fy niddordeb innau mewn ymchwil a'i oruchwyliaeth ysbrydoledig yntau at ble rydw i heddiw.
Pe na baech yn academydd, beth fyddech chi'n ei wneud?
Fy uchelgais gyntaf fel gyrfa oedd bod yn beilot. Bwriodd swyddog gyrfaoedd yr ysgol y meddyliau hynny allan o fy mhen yn llwyr. Dywedodd wrthyf am ganlyn rhywbeth llai academaidd! Beth wyddai hwnnw?
A oes gennych chi unrhyw hob茂au neu chwaraeon cyffrous rydych chi'n cymryd rhan ynddynt?
Dwi wrth fy modd yn sg茂o! Sg茂o oddi ar y piste a theithiau sg茂o yw un o'r chwaraeon mwyaf cyffrous imi ei wneud erioed. Mae teithio i fyny mynyddoedd yr Alpau a sg茂o鈥檔 么l i lawr mewn eira powdr ffres lle na fu neb arall yn un o'r pethau brafiaf i'w wneud. Roeddwn i'n arfer rhedeg y clwb can诺io ac rydw i wedi caiacio ar y rhan fwyaf o afonydd Gogledd Cymru. Hyd yn oed Afon Nant Peris ar 么l 2 ddiwrnod o law (Gwglwch). Rwyf yn chwarae git芒r ers dros 30 mlynedd ac wedi ymddangos ar y teledu a鈥檙 radio dros y blynyddoedd. Mae'r band rydw i ynddo鈥檔 gwneud llawer o briodasau, felly pan ddaw'r amser rhowch wybod!
Pa fabolgampwr ydych chi'n ei barchu a'i edmygu fwyaf?
Dewis anodd! Roedd Stephen Hendry鈥檔 arwr pan oeddwn i鈥檔 tyfu i fyny a bu Andy Murray鈥檔 fabolgampwr anhygoel i'w wylio dros y blynyddoedd. Albanwyr ill dau wrth gwrs.
Beth yw eich hoff ffilm, sioe deledu a cherddoriaeth?
Roedd Young Guns yn ffefryn gen i pan oeddwn i'n ifanc. Dwn i ddim faint o weithiau y gwelais i鈥檙 ffilm honno. Does gen i ddim hoff sioe deledu mewn gwirionedd ond mae gen i'r casgliad cyfan o Red Dwarf ar DVD. Y 6 cyngerdd diwethaf y b没m iddynt oedd Def Leppard, AC/DC, Iron Maiden, Mumford and Sons, Foo Fighters, The Killers ac rwy'n un o selogion G诺yl Download. Digon amrywiol?
Pa gyngor neilltuol fyddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sydd ar fin graddio eleni?
Rhoddaf ddau ddarn o gyngor ichi. Yn gyntaf, pan aiff pethau i鈥檙 diawl, peidiwch 芒 gorboeni. Cadwch ben clir a daw鈥檙 ateb i chi bob tro. Yn ail, peidiwch 芒 gadael i鈥檙 cyfryngau cymdeithasol reoli na difetha'ch bywyd. Nid yw o bwys (dim ond pan fyddwch chi'n h欧n y byddwch chi'n sylweddoli hynny).
Dr Eleri Jones
Enw
Eleri Jones
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?
Cefais fy ngeni yn Inverness, a threuliais flwyddyn gyntaf fy mywyd mewn pentref bach iawn o鈥檙 enw Lochcarron, ar arfordir gorllewin yr Alban. Symudais i Langefni, Ynys M么n, pan oeddwn yn 5 oed ac arhosais yno tan oeddwn yn 18 oed.
Sut mae eich amgylchedd cynnar wedi llywio pwy ydych chi heddiw?
Gan fy mod wedi byw mewn dwy ardal hynod wledig ac anghysbell o鈥檙 Deyrnas Unedig, roedd yr awyr agored yn rhan fawr o fy mhlentyndod. Mae chwaraeon hefyd wedi chwarae r么l fawr yn fy mhlentyndod. Mae鈥檙 ddau beth yma wedi llywio pwy ydw i heddiw, a dyna ydy鈥檙 dewis cyntaf pan mae arna i eisiau ymlacio!
Beth (neu bwy) wnaeth eich ysbrydoli i ddod yn academydd?
Dwi wedi bod yn angerddol dros ddeall sut mae pobl yn ymddwyn ac yn rhyngweithio erioed, sydd wedi fy ysbrydoli i ddilyn gyrfa yn y byd gwyddoniaeth. Mae fy mam hefyd wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr. Treuliodd sawl blwyddyn yn gweithio fel athrawes Addysg Gorfforol a hyfforddwr chwaraeon, a byddwn yn aml yn ei gwylio wrth ei gwaith. Cefais hefyd ddarlithydd gwych ar fy nghwrs gradd israddedig, Dr Martin Eubank, a oedd yn fy herio i feddwl yn wahanol bob amser.
A ydych chi鈥檔 cymryd rhan mewn unrhyw hob茂au neu chwaraeon cyffrous?
Dwi鈥檔 hoffi bod yn heini, a dwi鈥檔 chwarae p锚l-rwyd mewn cynghrair lleol. Dwi hefyd wedi bod yn gwneud CrossFit dros y blynyddoedd diwethaf, a dwi wir yn mwynhau dysgu sgiliau newydd a phrofi fy hun mewn gwahanol ffyrdd. Yn fwy diweddar, mae gen i blentyn bach sy鈥檔 fy nghadw鈥檔 brysur!
Pa athletwr ydych chi鈥檔 ei barchu a鈥檌 edmygu fwyaf?
Mae鈥檙 rhestr yn hirfaith, ond dwi鈥檔 edmygu Billie Jean King yn fawr am yr holl waith mae hi wedi鈥檌 wneud dros gydraddoldeb rhyw yn y byd chwaraeon. Yn yr un modd, mae Serena Williams yn fodel r么l ac yn ysbrydoliaeth am herio normau cymdeithasol o ran beth mae bod yn athletwr benywaidd yn ei olygu.
Beth yw eich hoff ffilm, sioe deledu a math o gerddoriaeth?
Mae鈥檔 si诺r mai fy hoff ffilm yw Remember the Titans, mae鈥檔 ffilm y dylai pawb ei gwylio!
A oes gennych chi stori ddiddorol neu ddoniol amdanoch eich hun?
Dwi鈥檔 lliwddall鈥 dim ond i 0.5% o ferched mae hyn yn digwydd!
Yn eich barn chi, beth yw鈥檙 heriau mae鈥檙 to presennol o fyfyrwyr addysg uwch yn eu hwynebu?
Yn fy marn i, un her y mae myfyrwyr yn ei hwynebu yw gwneud yn si诺r eich bod yn ymddangos yn wahanol i bawb arall. Dwi鈥檔 annog fy myfyrwyr i feddwl yn greadigol bob amser, ac i beidio 芒 bod ofn meddwl yn wahanol. Dyma sut fydd gwyddor chwaraeon yn datblygu, ac mae gan raddedigion gyfle gwych i fod yn rhan o hyn.
Pa gyngor fyddech chi鈥檔 ei gynnig i fyfyrwyr sydd ar fin graddio eleni?
Peidiwch 芒 bod ofn camu ymlaen a defnyddio eich llais, os nad ydych yn cytuno 芒 rhywbeth, ewch ati i鈥檞 herio mewn ffordd adeiladol.
Gav Lawrence
Enw
Gav Lawrence
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?听
Cefais fy neor o Wy ar gopa Mynydd. O leiaf, dyna鈥檙 stori fyddai fy ffrind 鈥楶igsy鈥 sy鈥檔 ffermio moch wedi fy narbwyllo ohoni yn ystod fy mhlentyndod yn Evesham, Swydd Gaerwrangon. Dychmygwch pa mor hapus oeddwn i pan des i wybod bod yr unig 鈥榞lwb nos鈥 go iawn sydd i鈥檞 gael yno (Marylyn鈥檚) yn berchen ar y 鈥榗lwb nos鈥 yma ym Mangor!听
Sut mae eich amgylchedd cynnar wedi llywio pwy ydych chi heddiw?
Cefais fy magu yn nhref wledig hardd Evesham, sy鈥檔 lle hollol ddifywyd i bobl ifanc. Oherwydd hynny, roedd fy mhlentyndod yn hollol 鈥榓rbrofol鈥. Dwi鈥檔 blentyn canol, ac roedd yn rhaid imi ymladd dros bopeth.听 Dysgais yn fuan y gallai fy chwaer fod yn ddieflig ar y naw, ac roedd gan fy mrawd allu digynsail i ymladd heb i bobl eraill weld... Yng ngeiriau'r diweddar anhygoel Johnny Cash, roeddwn i'n gwybod bod rhaid i mi 'get tough or die.'听
Beth (neu bwy) wnaeth eich ysbrydoli chi i ddod yn academydd?听
Mae hwn yn ateb cymhleth oherwydd doedd fy siwrnai i'r byd academaidd ddim wedi'i chynllunio nac yn un llyfn.听 Yn gyntaf, doeddwn i erioed yn 'academydd', roeddwn i'n athletwr ac yn artist. Yn hytrach, roeddwn yn athletwr aflwyddiannus, a oedd yn angerddol dros ddylunio graffeg.听 Wedi chwarae P锚l-fasged a Rygbi ar y lefel uchaf, roeddwn yn credu fy mod i'n mynd i gael gyrfa fel athletwr proffesiynol.听 Ond dim dyna fu. Roeddwn yn cael fy nhalu, ond dim digon i wneud bywoliaeth, ac roeddwn i eisiau gwybod pam... beth wnes i'n anghywir a beth oedd y bobl o'm cwmpas yn ei wneud yn iawn? Felly, fe wnes i faglu fy ffordd ymlaen at radd mewn Gwyddor Chwaraeon, ac roeddwn i wedi gwirioni.听 Fe wnaeth yr angerdd newydd hwn, a fy narlithwyr yn y brifysgol, helpu i droi fy marciau Safon Uwch 'ofnadwy' yn Radd Dosbarth Cyntaf. Es ati wedyn i droi鈥檙 radd honno鈥檔 PhD yn 2004, a rhywsut neu鈥檌 gilydd, dod yn 鈥榓cademydd鈥欌μ
Pe na baech yn academydd, beth fyddech chi鈥檔 ei wneud?听听
Ymhyfrydu yn fy nghyn-gyrfa fel chwaraewr Rygbi neu B锚l-fasged proffesiynol, ac efallai鈥檔 rhoi cynnig ar fod yn byndit ac ar gefnogi a datblygu'r talent newydd.听听
A ydych chi鈥檔 cymryd rhan mewn unrhyw hob茂au neu chwaraeon cyffrous?听
Mae hob茂au pawb yn gyffrous. Yr eithriad yw pan fydd yn rhaid i rywun arall wrando arnoch chi'n siarad amdanyn nhw... ond os oes rhaid i chi wybod, dwi鈥檔 ddrymiwr brwd iawn, fel mae fy nghymdogion yn si诺r o dystio.听听
Pa athletwr ydych chi鈥檔 ei barchu a鈥檌 edmygu fwyaf?听
Dwi bob amser yn edmygu'r mawrion sy鈥檔 arloeswyr yn eu maes. Dyma ambell un o鈥檙 byd chwaraeon:听
Michael Jordan听
Dick Fosbury听听
Ellen McCarthy听听
Lauren Jackson听
Rob Andrew听
Roger Federer听
Denise Lewis听
Beth yw eich hoff ffilm, sioe deledu a math o gerddoriaeth?听
Dwi wrth fy modd 芒鈥檙 ffilm Jaws. Mae bron yn hanner can mlwydd oed, ond mae鈥檔 dal i gynnig rhywbeth i mi bob tro dwi鈥檔 ei wylio. Dwi鈥檔 hoffi amrywiaeth eang o gerddoriaeth, ond dwi鈥檔 arbennig o hoff o gerddoriaeth soul clasurol a Motown. Ond beth bynnag ydi鈥檙 gerddoriaeth, mae'n rhaid gwrando arni ar Finyl, a鈥檌 chwarae'n uchel mewn ystafell sy鈥檔 ddigon mawr i ddawnsio fel taw chi yw'r person cyntaf a'r person olaf ar y llawr!听
A oes gennych chi stori ddiddorol neu ddoniol amdanoch eich hun?听
O ystyried fy hanes, mae'n bosib bod y rhan fwyaf o'm straeon yn rhai 'doniol', ond dim dyma鈥檙 fforwm cywir i鈥檞 rhannu.听 Byddai angen i ni fod mewn 'man diogel', gyda digon o ddiod. Yn ddelfrydol, rhywle gyda hen offeiriad ac offeiriad ifanc wrth law鈥μ
Yn eich barn chi, beth yw鈥檙 heriau mae鈥檙 to presennol o fyfyrwyr addysg uwch yn eu hwynebu?听
Dwi鈥檔 ifanc (neu鈥檔 ddigon ifanc) ond yn dal yn rhy hen i ddeall yr heriau mae myfyrwyr yn eu hwynebu heddiw.听 Mewn gwirionedd, gallai hynny fod yn un o'r heriau mawr y mae myfyrwyr heddiw yn eu hwynebu; y ffaith bod pobl llawer h欧n na nhw鈥檔 penderfynu beth yw eu heriau.听 Gadewch i ni droi pethau ben i waered a gofyn i'r myfyrwyr eu hunain beth yw eu heriau, ac yna gofyn i'r genhedlaeth h欧n eu cefnogi i ddatrys yr heriau hynny.听 Oni fyddai hynny'n braf?听
Pa gyngor fyddech chi鈥檔 ei gynnig i fyfyrwyr sydd ar fin graddio eleni?听
Mae hyn yn hawdd.听 Beth bynnag rydych chi鈥檔 ei wneud yn ystod eich bywyd, gwnewch yn si诺r eich bod yn rhoi 100%. Oni bai eich bod yn rhoi gwaed, bryd hynny efallai y byddai鈥檔 syniad ichi anwybyddu鈥檙 fath gyngor.听
听
Dr Vicky Gottwald
Enw
Vicky Gottwald听
听
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?听
Dwi鈥檔 dod o dde Lloegr. Fe ges i fy ngeni a鈥檓 magu yn Swydd Rhydychen.听
Sut mae eich amgylchedd cynnar wedi llywio pwy ydych chi heddiw?听
Dwi鈥檔 un o efeilliaid, a dyna pam fy mod mor gystadleuol. Aeth y ddwy ohonom i ysgol fechan a dewis union yr un pynciau TGAU yn ddiarwybod i鈥檔 gilydd. Roedd yr athrawon yn arfer darllen eich marciau鈥檔 uchel i鈥檙 dosbarth bryd hynny, ac felly roeddem o hyd yn cael ein cymharu鈥檔 gyhoeddus, a oedd yn eithaf anodd i mi ar y pryd. Fodd bynnag, mae wedi llywio pwy ydw i, sy鈥檔 rhywbeth dydw i ddim yn ei ddifaru. Roeddwn hefyd yn arfer beicio i鈥檙 ysgol a rasio unrhyw un arall oedd ar eu beic. Doedden nhw ddim yn gwybod eu bod yn rhan o鈥檓 ras, ac roeddwn wedi blino鈥檔 l芒n erbyn cyrraedd yr ysgol! Roeddwn hefyd yn arfer gosod fy larwm i ganu yng nghanol y nos fel fy mod yn gallu bod y person cyntaf yn fy nheulu i fod yn barod yn fy nillad ysgol (roeddwn yn un o bedwar o blant). Eto, fi oedd yr unig berson oedd yn cymryd rhan yn y ras ryfedd hon yn y bore, a chefais ambell i fore cynnar iawn!听
Beth (neu bwy) wnaeth eich ysbrydoli chi i ddod yn academydd?
Roeddwn eisiau bod yn athrawes Addysg Gorfforol erioed, ac ar 么l gorffen fy ngradd israddedig, es ymlaen i gwblhau cwrs TAR i addysgu Addysg Gorfforol uwchradd. Fodd bynnag, pan gyflwynais yr Athro Michael Khan (a oedd wedi goruchwylio fy mhroject israddedig ym Mangor) i fy rhieni yn fy seremoni raddio israddedig, dywedodd wrthynt y dylwn ddod yn 么l i gwblhau PhD un diwrnod. Felly dyna'n union wnes i, a hwn oedd y penderfyniad gora i mi ei wneud erioed!听
Pe na baech yn academydd, beth fyddech chi鈥檔 ei wneud?听
Pe na byddwn yn academydd, mae鈥檔 debyg y byddwn yn hyfforddi p锚l-fasged yng Nghanada - dydy hi byth yn rhy hwyr!听
A ydych chi鈥檔 cymryd rhan mewn unrhyw hob茂au neu chwaraeon cyffrous?听
Byddwn yn ei alw鈥檔 fwy o 鈥榦bsesiwn鈥 na 鈥榟obi鈥, ond roeddwn yn rhan o D卯m P锚l-fasged Cenedlaethol Merched H欧n Cymru am nifer o flynyddoedd, a chefais gyfle i deithio a chwarae mewn gwledydd anhygoel ledled Ewrop (yn ogystal ag mewn ambell i wlad go dlawd). Fodd bynnag, dwi wedi cyfnewid fy esgidiau chwarae am chwiban a dwi bellach yn Hyfforddwr Lefel 4 UKCC. Dwi wedi bod ynghlwm 芒 hyfforddi nifer o Raglenni P锚l-fasged T卯m Cenedlaethol Cymru, fel Hyfforddwr Cynorthwyol ac fel Prif Hyfforddwr i dimau dan 12 oed hyd at dimau dan 18 oed. Dwi hefyd wedi hyfforddi Rhaglen Merched y Brifysgol, gan chwarae yn Adran 1 Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain.听
Pa athletwr ydych chi鈥檔 ei barchu a鈥檌 edmygu fwyaf?听
Billie-Jean King, heb os. Yn ogystal 芒 bod yn chwaraewr tennis anhygoel (wedi ennill 39 teitl Camp Lawn), mae hi hefyd yn eiriolwr ysbrydoledig dros gydraddoldeb rhyw a chyfiawnder cymdeithasol.听听
Beth yw eich hoff ffilm, sioe deledu a math o gerddoriaeth?听
Hoff Ffilm: Glory Road听
Sioe Deledu: Does gen i ddim teledu, ond mae gen i Netflix ac rwyf wrth fy modd 芒 Queer Eye! Yn enwedig Antoni!听
Hoff Gerddoriaeth: Less than Jake, Green Day, Reel Big Fish, Jimmy Eat World. Dydw i ddim yn or-hoff o wrando ar y radio.听
A oes gennych chi stori ddiddorol neu ddoniol amdanoch eich hun?听
Mae gen i ofn clowniau.听听
Yn eich barn chi, beth yw鈥檙 heriau mae鈥檙 to presennol o fyfyrwyr addysg uwch yn eu hwynebu?听
Cwestiwn da. Dwi鈥檔 meddwl bod y cyfryngau cymdeithasol yn her fawr i bobl ifanc ar hyn o bryd. Mae鈥檔 amlwg bod y cyfryngau cymdeithasol yn cynnig manteision go iawn o ran rhwydweithio a rhannu gwybodaeth, ond maent hefyd yn cyflwyno heriau sylweddol i bobl ifanc, e.e. caethiwed, problemau iechyd meddwl a cholli allan ar brofiadau bywyd go iawn. Dwi鈥檔 meddwl, fel popeth, mai鈥檙 her yw dod o hyd i'r cydbwysedd cywir, a gallu ymdopi hebddo yn ogystal 芒'i ddefnyddio er daioni.听听
Pa gyngor fyddech chi鈥檔 ei gynnig i fyfyrwyr sydd ar fin graddio eleni?听
Dwi鈥檔 dweud hyn wrth athletwyr dwi鈥檔 gweithio 芒 nhw鈥檔 rheolaidd, ond mae鈥檔 hynod bwysig eich bod yn gwneud yn si诺r eich bod yn gwneud amser i fwynhau鈥檙 daith! Mae'n hawdd iawn cael eich llethu gan aseiniadau a gwaith, hyd nes eich bod yn anghofio pam eich bod yn gwneud y radd yn y lle cyntaf. Cymerwch gam yn 么l o bryd i'w gilydd i fyfyrio ar y darlun ehangach ac i fwynhau鈥檙 presennol.听听听
Dr Julian Owen
Enw
Julian Owen
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?听
Cefais fy ngeni ym Mangor, yn hen Ysbyty Dewi Sant (lle mae Fitness First a Go Outdoors bellach) a b没m yn byw yn Harlech tan oeddwn i鈥檔 14. Yna symudon ni i Gaerhirfryn fel teulu nes imi fynd i鈥檙 Brifysgol yn Lerpwl yn 18 oed.
Sut gwnaeth eich amgylchedd cynnar eich siapio i fod y person rydych chi heddiw?
Roedd tyfu i fyny yn Harlech yn rhan bwysig o fy natblygiad. Roedd yn blentyndod bywiog iawn. Roedd yna bwll nofio, cwrs golff y Bencampwriaeth (The Royal St Davids鈥), t卯m p锚l-droed da, clwb seiclo, clwb sboncen a thraethau a thwyni tywod hirfaith.
Beth (neu bwy) wnaeth eich ysbrydoli i fynd yn academydd?听
Roeddwn bob amser yn hoff iawn o鈥檙 gwyddorau biolegol ac euthum i Lerpwl i astudio gradd mewn bioleg a biocemeg. Ar 么l graddio b没m yn gweithio mewn ymchwil biolegol moleciwlaidd am gyfnod ond teimlwn fod rhywbeth ar goll. Trawais ar y datblygiadau yn nisgyblaeth y gwyddorau chwaraeon mewn sgwrs rhyw ddiwrnod. Roedd yn sylweddoliad mawr imi: 'Dychmygwch gyfuno鈥檙 gwyddorau biolegol a fy mrwdfrydedd dros chwaraeon!'. Dechreuais astudio gwyddorau chwaraeon ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl ac yn y cyfnod hwnnw bu鈥檙 diweddar Athro Tom Reilly yn ysbrydoliaeth fawr.
A oes gennych chi unrhyw hob茂au neu chwaraeon cyffrous rydych chi'n cymryd rhan ynddynt?
B没m yn chwarae p锚l-droed i safon eithaf da yn nyddiau fy ieuenctid ac yn y Brifysgol. Roeddwn hefyd yn chwaraewr rygbi brwd, yn golffiwr a b没m yn chwarae rhan mewn amrywiol grefftau ymladd. Mae gen i ormod o hen anafiadau hirsefydlog erbyn hyn a bellach rwy鈥檔 mwynhau gweithgareddau anghystadleuol fel codi pwysau, ymarfer cylch a rhedeg.
Pa fabolgampwr ydych chi'n ei barchu a'i edmygu fwyaf?
Gormod a dweud y gwir 鈥 ond roeddwn bob amser yn edmygu Ed Moses a oedd yn rhedwr 400m dros y clwydi yn y 70au a'r 80au. Enillodd bob ras am 9 mlynedd ar un adeg! Mae Eric 'Y Brenin' Cantona鈥檔 ail agos.
Beth yw eich hoff ffilm, sioe deledu a cherddoriaeth?听
Un o fy hoff ffilmiau yw Delicatessen (comedi dywyll o Ffrainc-Gwlad Belg) ac mae Breaking Bad ymhlith fy hoff sioeau teledu. Mae fy chwaeth gerddorol braidd yn eang, gan gynnwys trance y 90au ar yr un llaw a thrash metal ar y llall, ac ychydig o SKA, reggae ac indie yn y canol.
A oes gennych chi stori ddiddorol neu ddoniol amdanoch chi'ch hun?
Ychydig flynyddoedd yn 么l, roeddwn yn gweithio fel ffisiolegydd gyda th卯m Hoci dynion h欧n Cymru yn ystod Pencampwriaethau EwroHoci. Roeddem yn aros mewn gwesty yng nghyffiniau Lisbon ac ar y noson gyntaf b没m yn ymweld 芒'r cyfleusterau hyfforddi. Ar 么l dychwelyd i'r gwesty roeddwn yn aros am y lifft ar y llawr gwaelod. Dechreuodd dau ddyn mawr siarad yn ddig 芒 mi mewn Portiwgaleg a dechrau fy hebrwng i ffwrdd. Credwn fy mod yn cael fy nghipio a hynny mor amlwg 芒鈥檙 dydd! Wrth i'r lifft agor gwelwn Cristiano Ronaldo鈥檔 sefyll yno. Mi ymddiheurodd ar ran ei 'ofalwyr'. Trwy gyd-ddigwyddiad, roedd t卯m Portiwgal yn aros yn yr un gwesty 芒 ni, a鈥檙 diwrnod wedyn gwahoddwyd carfan Cymru a鈥檙 staff i wylio鈥檙 g锚m rhwng Portiwgal a Serbia (gyda llaw, roedd Ronaldo ym mhoced Vidic trwy gydol y g锚m).
Yn eich barn chi, beth yw鈥檙 heriau sy鈥檔 wynebu鈥檙 genhedlaeth bresennol o fyfyrwyr mewn addysg uwch?
Yn yr ysgol mae pwysau ar fyfyrwyr i ganolbwyntio ar ennill tystysgrifau a marciau. Mae rhywbeth o鈥檌 le ar hynny, rwy鈥檔 meddwl, oherwydd y gwir amdani yw ein bod ni (y prifysgolion) a鈥檙 cyflogwyr yn chwilio am gymhwystra mewn dealltwriaeth, gwybodaeth a sgiliau. Golyga hynny y dylai dysgu fod yn ffactor allweddol, ni waeth a yw hynny鈥檔 gysylltiedig ag asesiad neu farc.
Pa gyngor neilltuol fyddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sydd ar fin graddio eleni?听
Peidiwch ag ofni mynd y tu hwnt i鈥檙 hyn sy鈥檔 gyfforddus. Dyma lle mae dysgu鈥檔 digwydd!!!
听