Manylion
聽 Yr Athro聽Paul Spencer
聽Dirprwy Is-Ganghellor - Ymchwil ac Arloesi/Pennaeth y Coleg: Coleg Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg
听听+44 (0)1248 382738
聽 Prifysgol 亚洲色吧
Derbyniodd yr Athro Paul S. Spencer radd B.Sc mewn ffiseg gymhwysol a Ph.D mewn peirianneg electronig o Brifysgol Caerfaddon, ym 1990 a 1994, fel ei gilydd. Rhwng 1994 a 1996 roedd yn gynorthwyydd ymchwil ar sawl prosiect a ariannwyd gan EPSRC ym Mhrifysgol Caerfaddon. Yn 1996, symudodd i Fangor gan ddod yn ddarlithydd ym 1998, yn uwch-ddarlithydd yn 2003 a derbyn Cadair Bersonol yn 2006. Yn 2007, fe'i penodwyd yn Bennaeth yr Ysgol Peirianneg Electronig, swydd a ddaliodd am saith mlynedd. Yn 2009, fe鈥檌 penodwyd yn Bennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol ac yn 2017 fe鈥檌 penodwyd yn Ddeon Coleg y Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg. Yr Athro Spencer yw'r Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Ymchwil ac Arloesi ac fel Pennaeth y Coleg mae ganddo oruchwyliaeth strategol dros y Coleg Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg.
Ei brif ddiddordebau ymchwil yw dynameg laser lled-ddargludyddion, effeithiau adborth optegol, lluosogi pwls, a rhinweddau tonnau optegol dyfeisiau optoelectroneg. Bu'n awdur dros 100 o bapurau cyfnodolion a 140 o bapurau cynhadledd ac mae'n adolygydd rheolaidd ar gyfnodolion archifol. Yn 2000 enillodd wobr peirianneg orau Science, Engineering and Technology (SET) ac mae hefyd yn Gymrawd y Sefydliad Ffiseg.