ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:

Graddau Er Anrhydedd 2024

Am gyfraniad at ddiwylliant, cerddoriaeth a chelfyddydau Cymru a’r Gymraeg

A female wearing wearing red and gold graduation robe with bookshelves in background
Manon Steffan Ros

Mae Manon Steffan Ros yn nofelydd, dramodydd, sgriptwraig, a cherddor amlwg o Gymru sy’n chwarae rhan arwyddocaol ym myd llenyddol yr iaith Gymraeg. Y llynedd, dyfarnwyd Medal Yoto Carnegie i Manon am ei gwaith 'The Blue Book of Nebo’.Ìý Cyfieithiad yw hwn gan yr awdures ei hun o’i nofel, Llyfr Glas Nebo, a enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2018 a thair Gwobr Llyfr y Flwyddyn.

A female wearing glasses sitting down wearing red and gold graduation robe with bookshelves in background
Linda Gittins MBE

Mae Linda Gittins MBE, yn gyn-fyfyrwraig o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a gyd-sefydlodd Gwmni Theatr Maldwyn yn 1981. Mae’n enwog am gynhyrchu sioeau theatr gorau a mwyaf eiconig y Gymraeg. Gan gydweithio gyda Penri Roberts a'r diweddar Derec Williams mae hi wedi ysgrifennu a chynhyrchu sawl darn.Ìý Wrth wneud hynny, mae hi wedi cefnogi a siapio gyrfaoedd llawer o bobl ifanc ddawnus. Mae ei chaneuon yn adnabyddus. Mae ei chyfraniad i gerddoriaeth Gymraeg yn amhrisiadwy.

Ìý

Am wasanaeth cyhoeddus (gan gynnwys iechyd)

Image of a man wearing glasses and red and gold graduation robe. His right arm leans on the table before him. There are bookshelves in the background.
Noel Thomas

Enillodd Noel Thomas, cyn is-bostfeistr o Ynys Môn, gydnabyddiaeth am ei ran arwyddocaol yn yr ymgyrch yn erbyn yr achos o gamweinyddu cyfiawnder sylweddol yn y Deyrnas Unedig a elwir yn sgandal Horizon. Bu’n rhan o frwydr gyfreithiol hirfaith, ac yn ymgyrchu ochr yn ochr ag eraill i glirio enwau rheolwyr Swyddfa'r Post a wynebodd euogfarnau troseddol oherwydd meddalwedd cyfrifo diffygiol. Mae ei ymrwymiad i geisio cyfiawnder i’r rhai a ddioddefodd yn sgil y sgandal yn enghraifft o’i wytnwch ac o ba mor benderfynol yr oedd i ddatgelu’r gwir.

A man wearing red and gold graduation robe leaning on wooden pillar in a library with bookshelves in the background
Sir Alan Bates

Er ei fod yn arwr annhebygol, mae Syr Alan Bates, cyn is-bostfeistr o Landudno, wedi ymroi dau ddegawd i eiriol dros gyfiawnder a chlirio enwau rheolwyr Swyddfa’r Post a ddioddefodd yn sgil yr hyn a ystyrir yr achos mwyaf o gamweinyddu cyfiawnder yn hanes y Deyrnas Unedig. Sefydlodd Alan y Gynghrair Gyfiawnder i Is-bostfeistri yn 2009, gan chwarae rhan flaenllaw yn y frwydr gyfreithiol i geisio cyfiawnder i'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw a sicrhau iawndal i’r rhai a gyhuddwyd ar gam. Gyda phump arall o’r Gynghrair Gyfiawnder, aeth â Swyddfa'r Post i'r llys ar ran 555 o hawlwyr.

A man wearing glasses sitting down wearing red and gold graduation robe with bookshelves in background
Carl Foulkes

Carl oedd Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru ac arweinydd plismona cenedlaethol Cymru yn ystod Covid. Bu ei ymrwymiad a’i gefnogaeth yn amhrisiadwy i’n partneriaeth wrth sefydlu'r graddau ymarfer plismona proffesiynol. Ef oedd deiliad portffolio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ac mae ei ymrwymiad i’r egwyddorion hynny’n cyd-fynd yn llwyr ag ymrwymiad y brifysgol.

A woman wearing red and gold graduation robe standing in a library with bookshelves in the background.
Dr Susan Chomba

Mae’r gyn-fyfyrwraig Dr Susan Chomba, un o’r graddedigion Meistr Ewropeaidd cyntaf erioed i raddio mewn Coedwigaeth Drofannol Gynaliadwy, bellach yn llysgennad byd-eang o fri ar gyfer y Race to Zero a’r Race to Resilience o dan Uwch Hyrwyddwyr y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Gweithredu ar yr Hinsawdd. Cafodd ei henwi’n un o ‘16 Women Restoring the Earth’ y Global Landscapes Forum yn 2021 ac ymddangosodd ar restr y BBC o 100 o ferched ysbrydoledig a dylanwadol y byd yn 2023.

Am wasanaeth i fusnes ac entrepreneuriaeth

A man wearing red and gold graduation robe kneeling down. Right leg is prosthetic with a red and green Welsh design. He is in a library with bookshelves in the background.
Mark Williams PLY

Bu i’r cyn nofiwr paralympaidd ac enillydd medal Mark Williams droi syniad am gloriau coesau prosthetig lliwgar yn fusnes arloesol. Gyda’i wraig Rachael, sefydlodd LIMB-art, cwmni sy'n meithrin balchder pobl yn eu haelodau prosthetig. Mae llawer o gwsmeriaid wedi nodi newid cadarnhaol yn eu hagwedd a'u hyder wrth wisgo eu coesau prosthetig. Mae LIMB-art wedi derbyn sawl clod, gan gynnwys y wobr fawreddog King’s Award for Enterprise.

Am wasanaeth i addysg

A man wearing glasses and red and gold graduation robe standing with bookshelves in the background
Professor E Wynne Jones

Magwyd yr Athro Wynne Jones ar fferm deuluol ger Bae Colwyn gan raddio mewn Amaethyddiaeth o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn 1970. Daeth maes o law yn Bennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Prifysgol Harper Adams, lle bu’n arwain y gwaith o sicrhau statws prifysgol a phwerau dyfarnu ymchwil i’r sefydliad yn 2006. Dyfarnwyd OBE i’r Athro Jones yn 2009 am ei wasanaethau i amaethyddiaeth mewn addysg uwch. Mae hefyd wedi derbyn sawl gwobr am ei gyfraniadau at y diwydiannau amgylcheddol a thir, gan gynnwys Gobr Cyflawniad Oes LANTRA CYMRU yn 2019 Oherwydd ei arweinyddiaeth ddylanwadol, cafodd hefyd swydd cadeirydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, gan nodi carreg filltir arwyddocaol yn hanes Sioe Frenhinol Cymru.

A man wearing wearing red and gold graduation robe with bookshelves in background
Professor John Philip Sumpter OBE

Ar ôl ennill ei PhD mewn Sŵoleg Forol o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, aeth yr Athro John Philip Sumpter rhagddo i fod yn ecotocsicolegydd o fri ac yn arweinydd byd-eang yn ei faes. Dechreuodd ei daith ddylanwadol ddiwedd y 1970au pan ymchwiliodd i ffenomen pysgod 'rhyngrywiol' yn Afon Lea, gan eu cysylltu â llygredd cemegol o ffynonellau diwydiannol, plastig, fferyllol a chosmetig. Arweiniodd hyn at ymchwil helaeth ar lygredd cemegol cymysg, gan gynnwys amrywiaeth eang o sylweddau mewn afonydd. Cododd hyn ymwybyddiaeth y cyhoedd o lygredd amgylcheddol.

Ìý