Hunodd yr Athro Leonard V. Evans (Len) ar 30 Rhagfyr 2023 yn 86 mlwydd oed.
Brodor o Aberteifi, Ceredigion, oedd Len. Daeth i Fangor i astudio Botaneg a Botaneg y M么r. Enillodd radd PhD am ei waith ar sytogeneteg gwymon ym 1959 yn Labordai Gwyddor y M么r Prifysgol 亚洲色吧, ym Mhorthaethwy.
Ar 么l cwblhau ei draethawd PhD o dan oruchwyliaeth Dr Eifion Jones, fe鈥檌 gwahoddwyd i gymryd swydd ddarlithio ym Mhrifysgol Leeds. Yn Leeds, bu鈥榥 arwain gr诺p ymchwil mawr a ariannwyd gan y cynghorau ymchwil a diwydiant i astudio biocemeg planhigion, sut mae organebau morol yn glynu wrth longau a datblygiad technolegau i atal hynny. Yn ystod y cyfnod hwnnw bu鈥檔 goruchwylio 26 o fyfyrwyr PhD yn llwyddiannus a chyhoeddodd tua 200 o bapurau ymchwil a adolygwyd gan gymheiriaid. Am y gwaith hwnnw dyfarnwyd iddo radd Doethur mewn Gwyddoniaeth gan Brifysgol Cymru, Caerdydd ym 1977.
Ymunodd Len 芒 Phrifysgol Buckingham fel Athro Gwyddorau Bywyd yn 1992 ac, yn 2004, ymgymerodd 芒 r么l Cofrestrydd lle sefydlodd gydweithio rhwng y Brifysgol a sefydliadau addysg uwch eraill ledled y byd, yn enwedig gydag Ysgol Economeg Ewrop. Yn ystod y cyfnod hwnnw, profodd Prifysgol Buckingham drawsnewid rhyfeddol, a bu cynnydd yn enw da'r sefydliad, gwelliant o ran cyllid a chynnydd chwim yn nifer y myfyrwyr. Nid oes amheuaeth ymhlith ei gyn-gydweithwyr nad oedd Len yn ffigwr cwbl hanfodol yn y datblygiadau hynny.
Ar ei ymddeoliad, dyfarnwyd Athro Emeritws a Gradd Er Anrhydedd o Brifysgol Buckingham i Len a daeth yn Brif Olygydd Biofouling, The Journal of Bioadhesion and Biofilm Research, a gyhoeddir bellach gan Taylor a Francis. Bu'n golygu'r cyfnodolyn hyd at wythnos cyn ei farwolaeth.
Mae colled fawr ar ei 么l i鈥檞 holl deulu a鈥檌 ffrindiau.