Anne - Mam, Mum, Nain, Anti Anne a ffrind i lawer ohonom - wasgodd hi dipyn mewn i’r 90 mlynedd oedd hi ar y ddaear yma.Â
Fei magwyd ym Mronafallen yng Ngherrig y Drudion, Conwy. Roedd ei thad yn feddyg teulu gyda’r Anne'r hynaf o dri. Mynychodd Ysgol Glasfryn , Ysgol Doctor Williams yn Nolgellau ac ymlaen i’r Brifysgol ym Mangor i astudio Botaneg. Graddiodd yn 1953 ac yno mynd yn Is-lywydd Undeb y Myfyrwyr.
Roedd ei swydd gyntaf yng Nghaerdydd hefo’r WJEC. Priododd Geraint ac yna symudodd y cwpl i Lundain yn 1957. Roedd y briodas yn un cryf, gydag un yn gefn i’r llall am dros 60 mlynedd. Cafodd Anne a Geraint dau fab - Aled ac Iwan. Geraint ac Aled yn gynfyfyrwyr ym Mangor hefyd – Amaethyddiaeth astudiodd Geraint a gradd yn y Ffrangeg wnaeth Aled.Â
Parhaodd Anne hefo’r cysylltiad teuluol hefo iechyd fel Cadeirydd Cyngor Cymuned Iechyd Hounslow ac yn aelod o Awdurdod Iechyd Gogledd Orllewin Llundain. Symudodd y teulu i Ruthun o Lundain yn 1989 ar ôl i Geraint ymddeol lle cafodd Anne swydd fel cadeirydd Awdurdod Iechyd Clwyd hefo car cwmni! Iwan, eu mab, erbyn hynny wedi cymhwyso fel meddyg.
Roedd Anne yn aelod o Gyngor Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É (gan gadeirio pwyllgor neuaddau), cadeirydd y Cyn-fyfyrwyr, cadair grŵp nyrsys - sydd erbyn hyn yn Gymorth Rhuthun - a Llywydd Chwiorydd Capel Tabernacl. Derbyniodd MA gan Brifysgol Cymru, roedd hi’n Deputy Lieutenant Clwyd ac wedi derbyn OBE gan y Tywysog Charles - ond wrthododd na ddaru hi wneud cyrtsi o’i flaen.Â
Rydan ni wedi ceisio cael hyd i ansoddeiriau i ddisgrifio Mam: Gwydn - trwy ei chyfnodau o fod yn ddi-hwyl, doedd yno byth gwyno, Galluog a Hael - o hyd yn meddwl am eraill yn hael ei gwrando a’i chyngor.
Uwchben hyn i gyd roedd ei balchder o’i gwreiddiau ac yn cadw cysylltiadau rhwng teulu o bell ac yn ymfalchïo yn ei ffrindiau cadarn.Â
Roedd hi’n falch o’i wyrion ac wyresau - chewch ohonynt - gyda lluniau o bob un ohonynt ar y dreser yn yr ystafell bwyta. Mae’r dresser ar ei ffordd i gartref Aled yn Awstralia.
Aled Roberts