Cydnabyddir Alwyn fel un o hoelion wyth gwyddoniaeth yng Nghymru yn arbennig drwy Gymraeg. Ychydig sydd wedi gwneud mwy a gweithio yn galetach ac y fwy ymarferol, i bontio’r gagendor anffodus a welir yn rhy aml rhwng y diwylliant traddodiadol Cymraeg a gwyddoniaeth a thechnoleg. Â
Fel ernes o’i statws academaidd, etholwyd Alwyn yn Gymrawd y Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2011, blwyddyn ar ôl ei sefydlu, ac yn y naw degau fe oedd yn Bennaeth ar Yr Ysgol Beirianneg Electroneg ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Â
Ond i laweroedd o blant Cymru ei gyfraniadau i’r Urdd ac i’r Eisteddfod Genedlaethol oedd amlycaf a phwysicaf. Gyda chefnogaeth frwd, Ella ei wraig, arweiniodd cangen yr Urdd ym Mhorthaethwy am flynyddoedd. Bu hefyd yn weithgar yn Wersyll Glan-llyn a fel  Cadeirydd Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol.
Eto nid fel pwyllgor-ddyn y cofir Alwyn. Roedd yn berson ymarferol; yn sbardun ar gyfer y gystadleuaeth i bobol ifanc – ‘Wil i’w Wely’ - yn Genedlaethol ac yn gymorth mawr i ddatblygiad yr arlwy wyddonol a thechnoleg yn ein Prifwyl a’r Urdd. Ar un cyfnod, credwn, Alwyn oedd yn gyfrifol, yn bersonol ac yn gwbl wirfoddol, am y sain o’r llwyfan yn y Genedlaethol. Trefnodd hefyd y goleuo mewn cynyrchiadau a dramâu rhif y gwlith. Derbyniodd Y Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn Eisteddfod Dinbych yn 2013 fel cydnabyddiaeth o’i holl gyfraniadau.
Peirianneg ymarferol oedd diléit Alwyn ac yn addas, derbyniwyd i’r Orsedd fel Alwyn Peiriannydd. Roedd yn giamstar ar gweud teclynnau. Amser maith yn ôl prynodd un o’r awduron declyn mesur pH a gynllwynwyd gan Alwyn a’i ddefnyddio yn y lab am flynyddoedd.
Er iddo gael ei eni ym Mhwllheli, hogyn Llanrwst oedd Alwyn ac un o gynnyrch disglair yr Ysgol Ramadeg. Aeth wedyn i Fangor i astudio peirianneg electroneg cyn i’r chwyldro electronig gwedd newid ein bywydau. Ymlaen i Fanceinion i weithio ar systemau storio data ac hefyd derbyn gradd meistr mewn Mathemateg. Gwariodd pum mlynedd yn yr Atomic Energy Research Establishment yn Harwell yn gweithio ar osgilosgop transistoraidd samplu cyntaf yn y byd a dyfeisiadau eraill. Yno yn drist iawn fe farwodd Enid ei wraig gyntaf, yn ifanc. Denwyd yn ôl i Fangor fel darlithydd yn ei hen adran lle bu yn rhan annatod or drefn am bron i 40 mlynedd. Fel uwch ddarlithydd mewn peirianneg electronig bu dylanwad Alwyn ar genedlaethau o fyfyrwyr peirianneg yn anferthol. Parhaodd â’i gysylltiadau gyda Harwell, a bu’n oruchwylydd ar nifer o fyfyrwyr doethuriaeth llwyddiannus, gan gymhwyso ei ddealltwriaeth ddofn o dechnoleg prosesu signalau ac electroneg analog. Roedd ei ddoniau ymarferol yn chwedlonol yn yr ysgol, er enghraifft ei allu i newid cynhwysiant trydanol cylched electronig trwy grafu’r copr i ffwrdd gyda ebill dril rhwng ei fys a’i fawd a thrwy hynny wella perfformiad y gylched ymhell tu hwnt i’r disgwyl. Yn ogystal â’r doniau peirianyddol yma, roedd cyngor doeth Alwyn yn yr ysgol yn golygu fod Alwyn yn ran bwysig o brofiadau ac atgofion staff a myfyrwyr dros y degawdau. Bydd chwith mawr ar ei ôl yn Stryd y Deon.
Cofiwn Alwyn fel dyn hynaws, cyfeillgar, hwyliog a dibynadwy. Un yn llawn hwyl a direidi ond yn weithgar ac yn ymroddgar. Roedd yn aelod ffyddlon o sawl mudiad yn lleol gan gynnwys Clwb yr Efail. Yn nodweddiadol  ohono yn 92 rhoddodd ei papur diweddaraf ir Efail ar ei gysylltiad teulu a llwyth enwog y Closiaid o Nant Peris ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth sydyn. Nid oedd mewn iechyd da am sawl blwyddyn ond roedd yn ymdrechu, gyda cymorth Ella a’i gyfeillion, i ddod i gyfarfod Cymdeithas Wyddonol Gwynedd a’r Efail ac i fynychu digwyddiadau eraill o gwmpas y Fenai.
Cafodd Ella ac Alwyn dri o plant Angharad, Aneurin a Rhiannon. Roedd ei deulu, yma yng Nghymru ac yn yr Amerig, yn hynod pwysig iddo ond teg nodi ei bleser arbennig bod un o’i gwrion yn dilyn oel ei droed yn astudio ffiseg a pheirianneg yn CERN ac yn Rhydychen.
Bydd colled mawr ar ei ôl yn yr ysgol, yn yr ardal ac yn genedlaethol.
Yr Athro Gareth Wyn Jones a Dr Iestyn Pierce