Cyhoeddwyd enw trydydd Cyn-fyfyriwr y Flwyddyn Prifysgol 亚洲色吧/BIBF ym mis Medi yn ystod seremoni ble roedd Llysgennad Ei Mawrhydi i Deyrnas Bahrain, Mr Simon Martin a Llywodraethwr Banc Canolog Bahrain a Phrif Weithredwr BIBF, Ei Ardderchowgrwydd Rasheed Mohammed Al Maraj yn bresennol. 听Sefydlwyd y wobr yn 2016 i gydnabod cyn-fyfyriwr graddedig o Fangor a Sefydliad Bancio a Chyllid Bahrain (BIBF) sydd wedi rhagori'n broffesiynol.听
Mae enillydd gwobr 2018, Mohamed Al-Mahroos, wedi cael gyrfa lewyrchus ers iddo ennill MSc anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Bancio a Chyllid o Ganolfan Llundain Ysgol Busnes 亚洲色吧. Ar 么l cwblhau ei astudiaethau yn 2012, dychwelodd Mohamed i Bahrain ac erbyn hyn mae'n Uwch Reolwr i PriceWaterhouseCoopers (PwC) ble mae'n cynorthwyo amrywiol gwmn茂au mawr rhyngwladol a sefydliadau ariannol i gydymffurfio 芒 TAW. Daeth yn gyfrifydd siartredig ardystiedig yn 2016 ac mae hefyd yn flogiwr brwd am faterion ariannol yn The World of Finance in a Nutshell
Sefydlwyd y bartneriaeth rhwng Prifysgol 亚洲色吧 a Sefydliad Bancio a Chyllid Bahrain yn 2004 ac mae'n un o'r rhaglenni israddedig mwyaf llwyddiannus yn Bahrain. Mae'n galluogi myfyrwyr i astudio blwyddyn sylfaen a dwy flynedd gyntaf eu gradd yn Bahrain ac yna cwblhau eu blwyddyn olaf ym Mangor.
Cyflwynwyd gwobr Cyn-fyfyriwr y Flwyddyn 亚洲色吧/BIBF 2018 i Mohamed gan yr Athro Andrew Edwards, Deon Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes yn ystod yr aduniad blynyddol i gyn-fyfyrwyr. Roedd dros 120 o gyn-fyfyrwyr yn y digwyddiad a gynhaliwyd gan Lywydd ac Is-ganghellor Prifysgol 亚洲色吧, yr Athro John G. Hughes.
Ar 么l derbyn y wobr, dywedodd Mohamed "Mae'n anrhydedd fawr cael fy enwi yn Gyn-fyfyrwyr y Flwyddyn 亚洲色吧/BIBF 2018. Gwnes fwynhau fy amser yn Ysgol Busnes 亚洲色吧 ac yn sicr rwy'n teimlo bod y profiad o astudio yno a'r wybodaeth a gefais yno wedi fy helpu i symud ymlaen yn fy ngyrfa. "
Meddai'r Athro John G. Hughes "Rydym yn falch iawn o gyhoeddi enw Mohamed fel Cyn-fyfyriwr y Flwyddyn. Mae gennym berthynas arbennig iawn gyda BIBF ac mae'r wobr hon yn tynnu sylw at lwyddiannau ein cyn-fyfyrwyr, ac rydym yn falch iawn ohonyn nhw".
听