
Joe Gray
Coedwigaeth, 2016

ÌýA minnau newydd droi’n ddeg ar hugain dechreuodd amheuon godi yn fy meddwl am y llwybr roeddwn i'n ei ddilyn. Bûm yn gweithio’n llawn amser ym maes golygu meddygol ac ystadegau fferyllol ers deng mlynedd, ar ôl graddio yn y Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Caergrawnt yn 2003. Roeddwn yn ddiolchgar imi ddod o hyd i droedle ym myd cyflogaeth, ond dim ond swydd oedd hi yn y pen draw a doeddwn i ddim yn frwd drosti. Gwyddwn i sicrwydd nad dyna sut roeddwn i eisiau treulio degawd nesaf fy mywyd. Rhaid oedd i rywbeth newid.
Fy mwriad oedd ceisio dod o hyd i waith yn y sector amgylcheddol - maes sy'n fwy addas at fy diddordebau - credwn y byddai astudio gradd Meistr mewn Coedwigaeth yn ffordd synhwyrol o fynd ati. Roeddwn wrth fy modd gydag opsiwn dysgu o bell Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ac yn hapusach fyth o gael fy nerbyn ar y cwrs.
Er mwyn sicrhau bod gennyf ddigon o amser i'w neilltuo i'm hastudiaethau, euthum at fy nghyflogwr i holi am newid o gontract amser llawn i gontract rhan-amser, ac yn garedig ddigon cytunasant i fy nghais.
Unwaith y dechreuais ar y cwrs Meistr, cafodd fy niddordeb cêl mewn natur a'r amgylchedd ei danio a gwelwn lwybrau newydd yn agor ar gyfer archwilio deallusol. Rhan hanfodol o hyn oedd bod yr addysgu a’r gefnogaeth a gynigir yn llawer mwy personol a gofalgar nag a brofais yn ystod fy nyddiau fel myfyriwr israddedig.
Profodd un rhan o’r cwrs yn hynod ddeniadol imi, sef y cysylltiad rhwng athroniaeth amgylcheddol a gweithredoedd ar lawr gwlad, o ran ymddygiad beunyddiol pobl ac arferion ehangach sy’n ymwneud â rheoli tir. Bu’r deunyddiau darllen yn fodd i ehangu fy ngwybodaeth ac ail-lunio fy ngolwg ar y byd. A dechreuais weld fy amgylchoedd trwy sbectol ecoganolog, lle mae gwerth cynhenid a statws moesol i'w cael ym mhob un o'n cyd-ddaearolion - a dyrchafu bywyd yn ei holl agweddau ymhell y tu hwnt i wrthrychau i'w hecsbloetio.
Tua'r amser yr oeddwn yn ysgrifennu fy nhraethawd hir i orffen fy astudiaethau ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, dechreuais gyfres o sgyrsiau gyda rhai cydweithwyr y tu allan i'r brifysgol am y posibilrwydd o sefydlu cyfnodolyn newydd i archwilio meddwl ecoganolog. Roeddem am roi'r cyhoeddiad am ddim i ddarllenwyr a chyfranwyr, ac iddo gael ei redeg gan wirfoddolwyr. Ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach, fis Gorffennaf 2017, cyhoeddwyd rhifyn cyntaf y cyfnodolyn a gyd-sefydlais, The Ecological Citizen.
Bu’r naid hon i waith gwirfoddol a gweithgarwch academaidd annibynnol yn fodd i fraenaru’r tir i’r blynyddoedd a ddilynodd ar ôl imi raddio o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Roedd mynd yn rhan-amser yn fy ngwaith yn newid yr oeddwn ei angen, ac rwy'n dal i weithio fel golygydd meddygol hyd heddiw.
Mae gen i fwy o amser rhydd sy’n fodd imi archwilio ac ehangu ar wahanol elfennau o'r radd Coedwigaeth. Yn ogystal â gwaith ar The Ecological Citizen, ysgrifennais a chyd-ysgrifennais nifer o erthyglau academaidd a phoblogaidd am faterion amgylcheddol, ac ysgrifennais a chyd-olygais nifer o lyfrau. Yn fwyaf diweddar, cyhoeddwyd casgliad o ysgrifennu newydd a lywiais gydag Eileen Crist – o dan y teitl Cohabiting Earth: Seeking a Bright Future for All Life – by SUNY Press.
Ysbrydoliaeth arall imi tra oeddwn ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É oedd pwysigrwydd treulio amser yn yr awyr agored. Yn ffodus ddigon, yn fy amser sbar rwy’n gweithio fel Ceidwad Gwirfoddol mewn parc cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig.
Byddaf yn fythol ddiolchgar i bawb a wnaeth fy amser ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É mor bleserus ac mor fuddiol ar gyfer fy mywyd ar ôl y brifysgol.
Ìý
Cohabiting Earth (SUNY Press, 2024):
Gwefan Joe Gray:
The Ecological Citizen:
Ysgrifennu ar gyfer y Global Rewilding Alliance:
Ìý