"Graddiais o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn 2008 gyda 2:1 mewn Daearyddiaeth Ffisegol. Yma ym Mangor y cefais fy ngeni a'm magu, ac yn fwy penodol, rydw i’n dod o Faesgeirchen. Fel person anabl o stad cyngor, er gwaethaf cael fy magu mewn dinas prifysgol, doeddwn i ddim hyd yn oed yn meddwl y byddwn i'n cael mynd i'r brifysgol.. Yn enwedig gan fod gweithwyr cymdeithasol eisiau fy anfon i ysgol arbennig, ond rhoddodd fy mam stop ar hynny.Â
Yna es ymlaen i astudio am MA mewn Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Manceinion ac yna ennill lle wedi'i ariannu gan yr ESRC i astudio am PhD mewn Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Newcastle. Es o fod â diddordeb mawr mewn Geomorffoleg i Ddaearyddiaethau anabledd, a arweiniodd fi i ble rydw i nawr.
Er bod gennyf ddiddordeb mawr mewn Daearyddiaeth o hyd, mae fy ngwaith yn canolbwyntio mwy ar gynrychioliadau diwylliannol o anabledd, yn fwy penodol, corachedd (dwarfism), ac rydw i wedi cyhoeddi tri llyfr ar y pwnc, gan gynnwys '', a gyhoeddwyd gan Emerald Publishers. O ganlyniad, yn ogystal â bod yn ddarlithydd mewn astudiaethau Anabledd ym Mhrifysgol Hope Lerpwl, rydw i hefyd yn ymgynghorydd ar gyfer astudiaethau Walt Disney. Yn fwyaf diweddar cefais fy nghyflogi fel ymgynghorydd cymunedol ar gyfer cynhyrchiad ail-greu byw Eira Wen. Rydw i’n ymgynghori ar hyn o bryd i gwmni Hasbro Wizard of the Coast.
O ganlyniad i’m gwaith academaidd, sy’n dylanwadu ar fy ngwaith eiriolaeth, gan gynnwys ymgynghoriaeth, ymgyrchu i newid ‘midget gems’ i ‘Mini-gems’, rydw i wedi cael sylw mewn amrywiol ffynonellau cyfryngau Cymraeg, gan gynnwys Pawb a’i farn, BBC Cymru a Golwg.
Fe wnaeth mynychu Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É fy helpu i gyrraedd lle rydw i nawr."