Yr Athro Mike Yates
Rydym ni ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn drist o glywed am farwolaeth ddiweddar yr Athro Mathemateg Er Anrhydedd, Mike Yates.
Wedi’i fagu ym Mhenmaenmawr, tad Mike oedd y Parch John Yates yn ddarlithydd mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É rhwng 1948-1951. Enillodd Mike radd anrhydedd dosbarth cyntaf a PhD ym Mhrifysgol Manceinion ar raddfeydd annatrusiadwyedd Turing. Gan symud i UDA fel Ysgolor Fulbright ym 1963, treuliodd flwyddyn yr un ym Mhrifysgol Cornell, Ithaca, Efrog Newydd a'r Sefydliad Uwch-Astudiaethau yn Princeton. Dychwelodd i Brifysgol Manceinion fel Darlithydd a phenodwyd ef yn Athro Rhesymeg Mathemategol ym 1978 cyn gadael ym 1989.
Wedi'i aflonyddu gan y gagendor enfawr rhwng ymchwil uwch a'r ddealltwriaeth boblogaidd o fathemateg, ymunodd â'r mudiad tuag at ddysgu gyda chymorth cyfrifiadur gan arwain at ei gyflogaeth yn y cwmni amlgyfrwng Amaze Ltd yn Lerpwl tan 1999. Yn ystod y cyfnod hwn golygodd y bedwaredd gyfrol a'r olaf o gasgliad gweithiau Alan Turing a oedd yn canolbwyntio ar Rhesymeg Fathemategol, a gyhoeddwyd gan Elsevier yn 2001. Yn 2000 fe’i gwahoddwyd gan Athro Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, Ronald Brown, i helpu i gynhyrchu CD ROM ar gyfer Blwyddyn Mathemateg Ewrop 2000, ac yn 2003- 4 i adolygu gwefan y Ganolfan Poblogeiddio Mathemateg www.popmath.org.uk a gynhelir ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É.
Roedd Mike yn fynyddwr a dringwr creigiau profiadol; ym 1971 ysgrifennodd y Cwm Silyn a Cwellyn Climber's Club Guide gyda Jim Perrin a chyflawnodd nifer o esgyniadau cyntaf gan gynnwys West Arete, Craig yr Ogof a Guardian Angel, Craig y Bera, yn ei annwyl Eryri lle bu'n byw gyda'i wraig Pat a'i deulu.
Bydd cydweithwyr Mike yn trefnu colocwiwm Mathemateg i ddathlu bywyd a chyflawniadau Mike yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Yr Athro David Last BSc (Eng) PhD DSc CEng FIET FRIN
3 Mawrth 1940 – 25 Tachwedd 2019
Bu farw'r Athro David Last yn sydyn mewn damwain awyren fechan ger Ynys Seiriol oddi ar arfordir Ynys Môn ar 25 Tachwedd 2019.
Ganwyd James David Last yn 1940, yn Urmston, Manceinion, i James Howell Last (Jimmy), siopwr a gwerthwr yswiriant, ac Edna Margaret Last (Billie), athrawes ysgol gynradd. Ef oedd eu mab hynaf a brawd hŷn i Roger. O oedran ifanc iawn, roedd David yn ymarferol ac yn ymddiddori mewn peirianneg. Roedd ffrindiau yn adrodd hanesion amdano'n gosod modur ar ei feic ac yn creu rhodenni mellt o duniau. Addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Sirol Urmston, Ysgol Ramadeg Manceinion, Prifysgol Bryste – lle cafodd radd BSc mewn Peirianneg yn 1961 - a Phrifysgol Sheffield, lle dyfarnwyd ei ddoethuriaeth gyntaf iddo yn 1966.
Cyfarfu David â'i wraig Mary Bryant pan oedd yn 15 oed, a hynny ar drip Sulgwyn i Kinder Scout yn y Peak District. Priododd y ddau yn 1961 a symud i fyw i Ealing yng ngorllewin Llundain lle roedd David yn gweithio i'r BBC fel prentis graddedig. Yn 1963, pan ddechreuodd astudio at ei PhD ym Mhrifysgol Sheffield, symudodd y cwpl i Benistone yn Swydd Efrog a dechrau teulu. Ganwyd eu meibion Ben a Tom yn Sheffield yn 1965 a 1966.
Ar ôl ennill ei PhD, daeth David yn ddarlithydd mewn Peirianneg Electronig i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru (fel yr oedd ar y pryd) ym Mangor yn 1966 ac felly symudodd y teulu i Lanfairfechan yng Ngogledd Cymru, lle bu David yn byw am weddill ei oes. Ganwyd trydydd plentyn David a Mary, Charlotte, ym Mangor yn 1968. Daeth David a Mary yn neiniau a theidiau yn 1995. Yn anffodus bu farw Mary yn gynnar yn 1998 o glefyd y galon, yn 59 oed. Ailbriododd David yn 2003. Roedd ei wraig newydd, Jean-Elizabeth Williams, wedi adnabod y teulu ers plentyndod.
Treuliodd David lawer o’i yrfa ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, lle dyfarnwyd cadair bersonol iddo a daeth yn Athro Peirianneg Electronig. Dyfarnwyd DSc iddo yn 1995. Bu'n bennaeth y grŵp radio-mordwyo Navigation hyd ei ymddeoliad yn 2005, pan ddaeth yn Athro Emeritws.
Ymunodd â'r Royal Institute of Navigation yn y 1970au cynnar a bu'n Llywydd rhwng 2005 a 2008. Roedd hefyd yn un o gyn-lywyddion yr International Loran Association, Cymrawd o'r Institution of Engineering and Technology a Pheiriannydd Siartredig. Yn 2010 enillodd fedal aur Harold Spencer-Jones y Royal Institute of Navigation ac, yn 2015, Gwobr Necho yr International Association of Institutes of Navigation.
Yn ystod ei yrfa, gweithiodd David fel ymgynghorydd ar radio-fordwyo a chyfathrebu i gwmnïau, sefydliadau llywodraethol a rhyngwladol. Roedd hefyd wedi cyhoeddi dros 500 o bapurau technegol a phapurau polisi ar systemau mordwyo a chyfathrebu. Wedi iddo ymddeol o'i swydd yn y brifysgol bu'n cyfuno gwaith ymgynghorol gydag ail yrfa lwyddiannus fel tyst arbenigol mewn materion fforensig yn ymwneud â GPS a thracio, gan gynghori mewn mwy na 250 o achosion llys ac ennill nifer fawr o wobrau, gan gynnwys ei ffefryn: 'Best Major Crime’.
Cariad mawr David oedd hedfan. Enillodd drwydded peilot preifat yn 1977. Am lawer o flynyddoedd roedd yn berchennog Robin DR400 a byddai'n hedfan o ran pleser ac i ddibenion gwaith, gan deithio i gynadleddau ledled Ewrop. Pryd bynnag roedd yn cael rhywfaint o amser sbâr a hithau’n ddiwrnod clir byddai'n mynd i’r maes awyr. Roedd yn beilot hynod brofiadol, gan ennill ei gymwysterau hedfan yn y nos a'i IMC yn 1978 ac yna, yn 1983, gymwysterau i hedfan gan ddefnyddio offerynnau’n unig. Roedd hynny’n cyfuno ei ddiddordeb ym maes radio-fordwyo gyda'i ddiddordeb ysol mewn hedfan. Ef oedd un o'r peilotiaid preifat cyntaf i hedfan i mewn i Rwsia ar ôl llacio'r cyfyngiadau rhwng y dwyrain a’r gorllewin.
Cychwynnodd ar ei daith olaf ar 25 Tachwedd 2019 o'i ganolfan arferol ym maes awyr Caernarfon. Roedd yn hedfan ar ei ben ei hun mewn Cessna 172, a ddiflannodd oddi ar y radar dros y môr oddi ar Ynys Môn. Cafwyd hyd i’w gorff ar 12 Rhagfyr 2019.
Fe’i goroesir gan ei ail wraig, Jean-Elizabeth, a'i blant Ben, Tom a Charlotte.
Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni