Anne Harrison (née Daniel) 1944 – 2017
Roedd Anne Harrison yn athrawes, ieithydd, trefnydd cymunedol a gweithredydd cymdeithasol. Fe'i ganed i deulu Cymreig ond cafodd ei magu yn ne Lloegr. Fodd bynnag, cadwodd Anne gysylltiadau cryf â Chymru, gan ddysgu'r iaith fel oedolyn yn City Lit, Llundain, lle daeth hefyd yn fyfyriwr-lywodraethwr.
Ganwyd Anne yn Bromley, Caint, un o dri phlentyn Valerie (ganedig Lloyd George), athrawes, a Goronwy Daniel, gwas sifil. Graddiodd Anne mewn Ffrangeg o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn 1966 a chafodd gymhwyster dysgu TAR a gradd meistr o'r Institute of Education, Llundain. Roedd ei phrif yrfa ym maes addysg drydyddol yn Uxbridge ac yna yn Richmond College yng ngorllewin Llundain. Yn y 1970au roedd ymysg athrawon cyntaf Saesneg fel iaith dramor a disgyblaeth newydd astudiaethau cyfathrebu. Yn ddiweddarach arbenigodd mewn llenyddiaeth Saesneg a Ffrangeg. Roedd gan Anne allu mawr i ennyn diddordeb myfyrwyr o amrywiol gefndiroedd yn y broses ddysgu, yn ogystal â throsglwyddo ei chariad mawr tuag at iaith a llenyddiaeth. Treiddiodd cred gadarn Anne mewn cyfiawnder cymdeithasol drwy bopeth a wnâi. Rhoddodd cwrs mynediad a gynhaliwyd ganddi gyfle i bobl fynd ymlaen i addysg uwch yn ddiweddarach mewn bywyd, gan eu galluogi, yn ei geiriau hi, i symud ymlaen o "Uxbridge to Oxbridge".
Ar ôl ymddeol o Richmond College yn 2005, ymroddodd Anne yn ddiflino i gefnogi addysg uwchradd yn Uganda. Am ddwy flynedd yn y 1960au roedd wedi bod yn athrawes yn ysgol merched Kyebambe yn Fort Portal a pharhaodd ei chyfeillgarwch â'i chyn gydweithwyr a myfyrwyr am 40 mlynedd. Cyd-sefydlodd elusen, Uganda Schools Trust, gan weld pa ysgolion oedd fwyaf angen cefnogaeth. Mewn cydweithrediad ag addysgwyr lleol, roedd yn darparu adnoddau i ysgolion a bwrsariaethau i enethod unigol. Roedd Anne yn godwr arian hynod lwyddiannus a threfnodd deithiau cerdded diddorol, nofio noddedig a darlleniadau barddoniaeth, gyda chynhesrwydd, hiwmor, gobaith a dyfalbarhad.
Mae'n gadael ei gŵr Bernard, a briododd yn 1977, eu merched Flo ac Ellie, ac ŵyr a wyres, Eve a Bobby.