Cydweithrediadau
Yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, rydym yn croesawu cydweithredu gyda busnesau ac mae gennym hanes hir o bartneriaethau llwyddiannus gyda busnesau a diwydiant, trwy ymgynghori, partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth, projectau myfyrwyr a chontractau ymchwil a datblygu diwydiannol.
Ar y dudalen hon rydym yn disgrifio rhai uchafbwyntiau cydweithredu. Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am brojectau cydweithredol tebyg trwy wefan y Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith.
Sefydliad y Dyfodol Niwclear
Mae Sefydliad y Dyfodol Niwclear ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn datblygu gallu sydd gyda'r gorau yn y byd mewn gwyddoniaeth a pheirianneg niwclear. Bydd hyn yn sefydlu gogledd Cymru fel canolfan fyd-eang mewn technoleg niwclear; meithrin cysylltiadau a chyfleoedd diwydiannol a gweithio'n agos gyda'r . Mae Sefydliad y Dyfodol Niwclear hefyd yn bartner allweddol yn y .
M-Sparc
Fel prifysgol flaenllaw gydag enw da'n rhyngwladol am ei gwaith dysgu ac ymchwil, yn ogystal ag ymrwymiad cryf i gefnogi ffyniant economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru, mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn falch o fod wrth galon . Mae busnesau sydd wedi eu lleoli yn yn arwain y ffordd ym maes arloesi a datblygu economaidd. Edrychwn yn ôl dros y flwyddyn a'r effaith y maent wedi ei chael. Mae M-SParc wedi ei leoli ym mharc menter Ynys Môn, ac mae'n eiddo i Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, sy'n golygu ei fod yn gallu adeiladu ar y berthynas hon er budd y tenantiaid.
Canolfan Brosesu Signalau Digidol
Disgwylir y bydd Cymru'n arweinydd byd-eang mewn technoleg 5G yn dilyn cyhoeddi Canolfan Ragoriaeth Ddigidol newydd, gyda chefnogaeth gwerth bron i £4m o gronfeydd yr UE. Bydd y ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn darparu ymchwil arbenigol iawn i systemau cyfathrebu digidol fel ffonau symudol, hybiau di-wifr a llinellau gweithgynhyrchu modern. Mae gwelliannau mewn prosesu signalau digidol yn ffordd gost-effeithiol o gyflymu rhwydweithiau, ac yn gwella'r ffordd mae ffonau symudol, dyfeisiau a phensaernïaeth rhwydwaith yn gweithio. Bydd y Ganolfan Brosesu Signalau Digidol yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio technoleg ffibr yn y rhwydwaith 5G i wella capasiti, hyblygrwydd, ymarferoldeb a gwasanaethau.
Canolfan Hyfforddiant Doethurol ESPRC
Mae ein hysgol yn cynnal dwy ganolfan EPSRC ar gyfer hyfforddiant doethurol, ym maes a Dechreuodd yr hyfforddiant doethurol yn 2019 ac mae'n cynnig cyrsiau PhD 4 blynedd, wedi eu hariannu'n llawn. Arweinir y ganolfan hyfforddiant doethurol Dyfodol Ynni Niwclear gan Imperial College Llundain ac mae'n uno Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É gyda phartneriaid o bob rhan o'r DU. Mae'r consortiwm yn cynnwys: Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, Prifysgol Bryste, Prifysgol Caergrawnt, Imperial College London a'r Brifysgol Agored. Mae canolfan hyfforddiant doethurol AIMLAC wedi ei hadeiladu ar gydweithrediadau ymchwil a hyfforddi hirsefydlog rhwng Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, Prifysgol Bryste, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe. Yn ogystal, mae Uwchgyfrifiadura Cymru ac academïau cyfrifiadura'r brifysgol yn darparu cefnogaeth bwrpasol trwy beirianwyr meddalwedd ymchwil a mynediad i gyfleusterau uwchgyfrifiadura mewn modd cydgysylltiedig
Arloesi Pontio
Yn rhan o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, mae Arloesi Pontio yn ganolfan arloesi flaengar ac yn un o'r lleoedd gorau yn y DU i wneuthurwyr. Wedi ei lleoli yn Ninas ÑÇÖÞÉ«°É yng ngogledd Cymru, bydd Arloesi Pontio Innovation yn herio hen syniadau, gan annog y maes dysgu a'r maes busnes i ddod at ei gilydd i gydweithio. Mae Arloesi Pontio Innovation yn lle mae'r celfyddydau'n cwrdd â gwyddoniaeth. Trwy ddylunio, cynhyrchu a pherfformio byddwn yn creu amgylchedd unigryw lle bydd syniadau'n cael eu harchwilio, eu creu a'u datblygu.Ìý Mae ein gofod unigryw yn creu cartref i dechnoleg prototeipio cynnyrch masnachol yn gyflym gydag arloesi yn cael y prif sylw.
CLARETÌý
Mae CLARET yn darparu cyfleusterau profi gydol oes a dibynadwyedd i gwmnïau sy'n ymwneud â dylunio, gweithgynhyrchu neu integreiddio technolegau opto-electronig, arbenigedd academaidd pwrpasol a chymorth busnes. Gan ganolbwyntio ar ffotofolteg, electroneg argraffedig, electroneg gofod, technolegau modurol, awyrofod, a chefnogi gweithgynhyrchu uwch/gwerth uchel, mae CLARET yn cyfuno gwybodaeth arbenigol â chymorth ymarferol i ddatrys problemau, lleihau amseroedd datblygu, gwella perfformiad a darparu gwell cynhyrchion. ²Ñ·É²â…
Academi Ffotoneg Cymru
Mae'r Ysgol Peirianneg Electronig ym Mangor yn gartref i Academi Ffotoneg Cymru @ ÑÇÖÞÉ«°ÉÌý Mae Academi Ffotoneg Cymru yn cynnal amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau lle mae myfyrwyr yn dod i mewn i'r labordy i gymryd rhan mewn sesiynau ymarferol ac yn gwneud dyfeisiau sy'n defnyddio ffotoneg i helpu dynolryw.
Technocamps
Mae Technocamps wedi cyflwyno dros 1500 o weithdai i dros 35,000 o bobl ifanc ledled Cymru ar raglennu, datblygu apiau, datblygu gemau, roboteg a llawer mwy. Prifysgol Abertawe sy'n arwain y project, gyda chanolfannau yn Aberystwyth, ÑÇÖÞÉ«°É, Caerdydd, MET Caerdydd, Glyndŵr a Phrifysgol De Cymru, felly mae ein timau wedi gallu cynnal gweithdai ar hyd a lled Cymru. Mae ein holl adnoddau ar gael am ddim ar-lein sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc barhau i ddysgu Cyfrifiadureg ar eu cyflymder eu hunain yn eu cartref ac yn yr ysgol. Beth am edrych ar ein , ymunwch â ni ar ac ar ein i weld rhai o'n straeon llwyddiant a chymryd rhan mewn trafodaethau.