Newyddlenni
Sut y gall delweddu cyfrifiadurol gynorthwyo meddygon
Os ydych ar fin cael archwiliad neu driniaeth feddygol, efallai y bydd yn tawelu eich meddwl o wybod bod y sawl fydd yn rhoi鈥檙 archwiliad neu鈥檙 driniaeth i chi wedi medru paratoi neu gael hyfforddiant ymlaen llaw drwy ddefnyddio offer cyfrifiadurol sy鈥檔 efelychu鈥檙 corff dynol, neu hyd yn oed fod wedi medru paratoi ar sail efelychiadau o鈥檆h corff chi eich hun.
Mae arbenigwyr mewn delweddu cyfrifiadurol yn gweithio鈥檔 gynyddol gyda鈥檙 proffesiwn meddygol i ddatblygu cymwysiadau sy鈥檔 cynorthwyo鈥檙 proffesiwn meddygol gyda hyfforddiant a pharatoi at ystod o weithdrefnau. Gall defnyddio cyfrifiadureg yn y ffordd hon arbed arian i鈥檙 Gwasanaeth Iechyd Gwladol a鈥檙 un pryd wella鈥檙 gwasanaethau y gellir eu rhoi i gleifion.
Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru鈥檔 cael eu gwahodd i dri digwyddiad ar draws y wlad i ddarganfod am y gwaith diweddaraf sy鈥檔 cael ei ddatblygu yn y maes hwn gan wyddonwyr cyfrifiadureg ym Mhrifysgol 亚洲色吧 a phrifysgolion eraill yng Nghymru. Cynhelir yr achlysur cyntaf yn Ysbyty Gwynedd ar 17 Ionawr 2014.
Mae鈥檙 Uned Uwch Ddelweddu Meddygol (), a gydlynir gan yr ym Mhrifysgol 亚洲色吧, yn llunio atebion cyfrifiadurol gweledol arloesol i ychwanegu gwerth at lawer o wahanol feysydd gofal iechyd i鈥檙 GIG yng Nghymru. Maent yn cael eu cyllido gan NISCHR (National Institute for Social Care and Health Research) ac mae ganddynt nifer o brojectau cyffrous ar y gweill a arweinir gan ymchwilwyr ym mhrifysgolion Aberystwyth, 亚洲色吧, Caerdydd ac Abertawe.
Un o brif feysydd project yr Uned yw datblygu efelychyddion i ddysgu gweithdrefnau meddygol. Mae鈥檙 t卯m yn gweithio ar efelychyddion i dynnu cerrig o鈥檙 arennau, endosgop rhithwir i ddysgu hyfforddeion sut i ddelio ag amrywiadau anatomegol a llwybrau anadlu anodd, ac i ddysgu sgiliau llawdriniaethol sylfaenol, megis torri. Enghraifft ddiweddar yw datblygu app iPad sy鈥檔 rhoi offer hyfforddi ar gyfer llawdriniaeth gyffredin ar yr ymennydd. Datblygwyd hyn mewn cydweithrediad rhwng gwyddonwyr cyfrifiadurol ym Mhrifysgol 亚洲色吧 a niwro lawfeddygon yng Nghaerdydd a Leeds. VCath app yw enghraifft gynta鈥檙 byd o offer rhyngweithiol sydd ar gael ar iPad i ddysgu gweithdrefn feddygol gan ddefnyddio claf rhithwir. Mae鈥檙 app yn arwain hyfforddai mewn niwro lawfeddygaeth drwy gamau rhoi catheter yn ymennydd claf rhithwir 3D. Ers ei lansio yn Hydref 2012 mae鈥檙 app wedi cael ei lawr lwytho am ddim dros 6,500 o weithiau ac, ar hyn o bryd, mae鈥檔 cael ei lawrlwytho dros 400 o weithiau鈥檙 mis ar gyfartaledd. Mae hyn yn tystio i鈥檞 boblogrwydd eang.
Mae鈥檙 Uned hefyd wedi bod yn datblygu darpariaethau eraill, megis dulliau asesu risg i ferched ddatblygu canser y fron. Mae鈥檙 dull asesu risg mamograffig yn rhoi amcangyfrif pa mor debygol ydyw y bydd dynes yn cael canser y fron yn ddiweddarach mewn bywyd. Oherwydd yr amrywiaeth mewn dulliau asesu maniwal mae gwaith cynyddol wedi鈥檌 wneud i ymgorffori dulliau gweithredu awtomataidd mewn systemau cyfrifiadurol sy鈥檔 gwneud diagnosis o ganser y fron. Gan gydweithio鈥檔 agos 芒 Bron Brawf Cymru a radiolegwyr sgrinio鈥檙 fron yn y GIG, mae gwyddonwyr yn yr Uned wedi bod yn datblygu dull gweithredu lle mae鈥檙 asesiad risg mamograffig yn cael ei gysylltu 芒 segmentu gwahanol fathau o feinwe anatomegol y fron.
Meddai鈥檙 Athro Nigel John: 鈥淩ydym wedi datblygu enw da byd eang yn ein maes a鈥檔 nod yw cael dylanwad mawr ar iechyd y cyhoedd yng Nghymru a thu hwnt drwy ddarparu offer fydd yn ei gwneud yn haws i ganfod a thrin gwahanol afiechydon yn effeithlon.鈥
Bwriada鈥檙 Uned gynnal digwyddiadau mewn tri ysbyty mawr yng Nghymru i dynnu sylw at ei chynnyrch a sicrhau cydweithio cynyddol rhyngddi 芒鈥檙 GIG. Cynhelir y digwyddiad cyntaf yn Ysbyty Gwynedd ddydd Gwener 17 Ionawr. Bydd y ddau ddigwyddiad arall ar Gampws Ysbyty鈥檙 Heath yng Nghaerdydd ar ddydd Iau 20 Chwefror ac yn Ysbyty Treforys Abertawe ar ddydd Gwener 21 Chwefror 2014.
Gwrandewch ar raglen Science Cafe Radio Wales yn ymweld 芒'r digwyddiad (ar gael tan 28.1.14).
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2014