Newyddlenni
Staff academaidd yn cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru
Mae pedwar aelod staff academaidd o Brifysgol 亚洲色吧 wedi cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Yr wythnos yma cyhoeddodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ganlyniadau Etholiad 2015 am Gymrodyr newydd. O鈥檙 deugain o Gymrodyr newydd eleni, roedd pedwar o Brifysgol 亚洲色吧 鈥 Yr Athro Ludmila Kuncheva FIAPR FLSW, Ysgol Gwyddor Cyfrifiadureg; Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards FLSW, Athro Economeg Iechyd a Chyd-gyfarwyddwr Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau; Yr Athro Helen Wilcox FEA FRSA FRSL FLSW, Ysgol Llenyddiaeth Saesneg 补鈥檙&苍产蝉辫; Athro Angharad Price FLSW, Ysgol y Gymraeg.
Hefyd, etholwyd Yr Athro Bridget Emmett FSB FLSW, Arweinydd Maes Gwyddonol Pridd, Pennaeth Adran a Phennaeth Safle, Canolfan Ecoleg a Hydroleg sydd mewn partneriaeth ag Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth y Brifysgol fel rhan o Ganolfan Amgylchedd Cymru .
Meddai鈥檙 Athro John G Hughes, Is-ganghellor: "Rwyf wrth fy modd bod pedwar aelod ychwanegol o鈥檔 staff academaidd wedi cael eu cydnabod a'u hanrhydeddu gyda Chymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae hyn yn adlewyrchiad pellach o amlygrwydd yr unigolyn o fewn eu disgyblaethau academaidd priodol."
Mae cael eich ethol yn Gymrawd yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth academaidd, a cheir cystadleuaeth frwd i ymuno 芒 Chymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae鈥檙 Gymdeithas yn harneisio arbenigrwydd y Gymrodoriaeth i hybu ymwybyddiaeth o鈥檙 modd y mae鈥檙 gwyddorau a鈥檙 celfyddydau, y dyniaethau a鈥檙 gwyddorau cymdeithasol yn dod 芒 budd i gymdeithas. Gall y Cymrodyr gynorthwyo gwaith y Gymdeithas drwy wasanaethu ar ei hamrywiol bwyllgorau a gweithgorau a thrwy ein cynrychioli ni鈥檔 genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Meddai Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas:
鈥淩wyf i鈥檔 falch iawn i groesawu amrywiaeth mor eang o unigolion rhagorol i鈥檙 Gymrodoriaeth eleni. Caiff pob Cymrawd newydd ei ethol ar deilyngdod nodedig ei waith. Bydd y Cymrodyr newydd hyn yn helpu i gryfhau ein gallu i gefnogi rhagoriaeth ar draws pob maes o fewn bywyd academaidd a chyhoeddus Cymru a thramor.
"Mae鈥檔 galonogol hefyd mai鈥檙 gyfran o Gymrodyr benywaidd sydd wedi鈥檜 hethol eleni (35%) yw鈥檙 uchaf yn hanes y Gymdeithas. Mae nifer cynyddol o fenywod yn cyrraedd lefelau uchaf eu disgyblaeth, ac yn ddigon priodol caiff hyn ei adlewyrchu yn y nifer a gaiff eu hethol i Gymrodoriaeth y Gymdeithas.鈥
Ceir proses enwebu drylwyr ag iddi bum cam ar gyfer ethol i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae鈥檙 Gymrodoriaeth ar agor i ddynion a menywod o bob oed ac o bob gr诺p ethnig sydd 芒 hanes clir o ragoriaeth a chyflawniad mewn unrhyw un o'r disgyblaethau academaidd, neu, a hwythau'n aelodau o'r proffesiynau, y celfyddydau, diwydiant, masnach neu wasanaethau cyhoeddus, sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i fyd dysg; ac sydd yn preswylio yng Nghymru, neu sydd yn unigolion sydd wedi'u geni yng Nghymru ond sy'n preswylio mewn man arall, neu sydd fel arall 芒 chyswllt penodol 芒 Chymru.
Meddai鈥檙 Athro John G Hughes, Is-ganghellor: "Rwyf wrth fy modd bod pedwar aelod ychwanegol o鈥檔 staff academaidd wedi cael eu cydnabod a'u hanrhydeddu gyda Chymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae hyn yn adlewyrchiad pellach o amlygrwydd yr unigolion o fewn eu disgyblaethau academaidd priodol."
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2015