Newyddlenni
Plygu golau
Mae Dr Liyang Yue o'r Ysgol Peirianneg Electronig yn brif awdur papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y cyfnodolyn gwyddonol Optics Letters. Mae'r papur hwn yn ymdrin 芒 ffordd newydd i gynhyrchu pelydryn golau crwm ac mae nifer o wyddonwyr wedi dangos diddordeb ynddo ers iddo gael ei gyhoeddi.
Gall fod defnydd pwysig yn y dyfodol i'r math newydd hwn o belydryn golau crwm, sydd wedi cael ei alw'n 'fachyn ffotonig' gan yr ymchwilwyr. Gallai gael ei ddefnyddio i symud gronynnau mewn teclynnau microhylifol, i leihau maint cydrannau a chylchedau ffotonig, gwella signalau terahertz ar gyfer cyfathrebu a hyd yn oed arwain arcau trydanol, megis mellt.
Pan ryddhawyd y papur fe wnaeth MIT Technology Review, cylchgrawn y Massachusetts Institute of Technology, ei restru fel y papur gorau yng nghronfa ddata Ionawr ym Mhrifysgol Cornell. Hon yw prif gadwrfa'r byd o ddeunyddiau e-brintiedig ym meysydd ffiseg, mathemateg, cyfrifiadureg a disgyblaethau cysylltiedig. Ar 么l iddo gael ei gyhoeddi'n swyddogol, daeth hefyd y ddogfen fwyaf poblogaidd a lawrlwythwyd o wefan y cyfnodolyn.
Meddai Dr Liyang Yue: "Dwi'n teimlo'n gyffrous iawn i ddarganfod y ffenomen 'bachyn ffotonig', gan ddefnyddio'r dechnoleg efelychu rifyddol ddiweddaraf a sefydlwyd gan Yr Athrawon Igor V Minin ac Oleg V Minin, mewn cydweithrediad 芒 grwpiau gwyddonol o brifysgolion 亚洲色吧, Tomsk ac ITMO. O'i gymharu 芒 phelydrau golau crwm blaenorol - y pelydrau 'Airy' - gellir cynhyrchu'r bachyn ffotonig gydag offer arbrofol cymharol syml, gronynnau a ffynhonnell oleuni. Rydym yn credu bod y bachyn ffotonig yn ddefnyddiol i egluro'n well y gwasgaru sy'n digwydd mewn rhai achosion arbennig, ac yn fwy cyfleus ar gyfer ei ymgorffori mewn systemau optegol sydd ar gael eisoes."
Ychwanegodd: "Rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom gan yr Ysgol Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol 亚洲色吧 a Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol S锚r Cymru. Gall sut i gynllunio arbrawf i reoli'n fanwl ffurf neu grymedd bachyn ffotonig fod yn destun ymchwil nesaf i mi a'm cydweithwyr Rwsiaidd."
Cafodd y papur sylw hefyd yn "Laser Focus World". Gweler
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2018