Newyddlenni
Peiriannydd dawnus o鈥檙 Bala yn mynd ymlaen i astudio PhD
Ar 么l pedair blynedd o waith caled, bydd peiriannydd dawnus yn graddio o Brifysgol 亚洲色吧 yr wythnos hon.
Yn ogystal 芒 graddio gyda gradd MEng mewn peirianneg electronig, mae Ilan Wyn Davies, 22 oed, o'r Bala, wedi ennill Gwobr Dr John Robert Jones sy鈥檔 werth 拢1,000 ac sy鈥檔 cael ei dyfarnu鈥檔 flynyddol i'r myfyrwyr gorau ar draws pob disgyblaeth yn y brifysgol.
Dywedodd Ilan: "Mae'n rhyddhad cael graddio o鈥檙 diwedd. Dwi wedi mwynhau fy mhedair blynedd ym Mangor, er iddi fod yn anodd ar adegau. Roedd hi鈥檔 syndod clywed fy mod i wedi ennill y wobr bwysig yma, a hynny鈥檔 gwbl annisgwyl. Mae'n anrhydedd enfawr."
Mae Ilan yn gyn-ddisgybl o Ysgol Y Berwyn. Cafodd wybod ei fod yn ddyslecsig yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn y chweched dosbarth. Ni wnaeth hyn ei atal rhag meddwl am addysg prifysgol, ac yn dilyn diwrnod agored ym Mangor, oherwydd yr awyrgylch cartrefol, y cyfeillgarwch a鈥檙 cymorth sydd ar gael gan Ganolfan Dyslecsia Miles, penderfynodd Ilan mai 亚洲色吧 fyddai ei ddewis cadarn. Yna gwnaeth gais, ac enillodd ysgoloriaeth o 拢1,500 sy鈥檔 cael eu dyfarnu i'r myfyrwyr newydd hynny sydd 芒'r cyrhaeddiad academaidd uchaf yn eu pynciau penodol.
Mae Ilan wedi gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd sydd ar gael iddo yn ystod ei gyfnod ym Mangor, eglurodd:
"Roeddwn i鈥檔 aelod o Undeb Myfyrwyr Cymraeg 亚洲色吧, a dw i wedi mwynhau cymdeithasu a chwarae rygbi. Fe wnes i gymryd rhan weithredol yn y sialens Menter drwy Ddylunio, sy鈥檔 dod 芒 myfyrwyr sy鈥檔 astudio pynciau gwahanol at ei gilydd i gystadlu mewn timau amlddisgyblaethol. Roeddwn yn rhan o'r t卯m buddugol yn 2015 ac yn hwyluso鈥檙 t卯m buddugol yn 2017.
"Yn ystod haf 2015 treuliais ddeufis ar leoliad yn Y Wylfa ar Ynys M么n, ac yn haf 2016 cefais interniaeth am dri mis gyda G.E. Hitachi yn Japan.
"Yn ystod fy interniaeth yn Japan, cefais gyfle i ddringo Mynydd Fuji a phrofi pob agwedd ar ddiwylliant Japan. Cefais wybodaeth a phrofiad am dechnoleg ac am gyfraniad y cwmni i鈥檙 diwydiant niwclear: yn enwedig am dechnoleg ABWR (advanced boiling water reactor) ac agweddau sy鈥檔 berthnasol i orsaf b诺er newydd yr Wylfa.
"Dwi鈥檔 ddiolchgar iawn i staff yr Ysgol Peirianneg Electronig am eu cymorth, eu harweiniad a鈥檜 ffydd ynof, yn enwedig i'm tiwtor, Dr Iestyn Pierce, am ei gymorth parod ac am ei hyder yn fy ngallu academaidd. Dwi hefyd yn ddyledus i Rhian o鈥檙 Ganolfan Dyslecsia am ei chefnogaeth barhaus yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf ac am ddatblygu a gwella fy sgiliau llythrennedd.
"Dwi ar fin cychwyn rhaglen PhD tair blynedd ar y cyd 芒 Phrifysgol 亚洲色吧 a CreoMedical - cwmni dyfeisiau meddygol sy鈥檔 canolbwyntio ar egin faes endosgopi llawfeddygol, sef datblygiad llawfeddygol diweddar sy鈥檔 llawer llai ymyrrol; ar 么l hynny, dwi鈥檔 gobeithio cael statws siartredig mewn peirianneg electronig. Yn y dyfodol dwi鈥檔 gobeithio gweithio yn y diwydiant niwclear a pharhau i ragori mewn peirianneg electronig."
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2017