Newyddlenni
Pa ieithoedd rhaglennu cyfrifiadurol ydych chi'n eu gwybod?
Mae'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn cydnabod rhaglenwyr cyfrifiaduron ledled y byd trwy ddathlu “Diwrnod Rhyngwladol y Rhaglenwyr” a gynhelir ar y 13eg o Fedi 2021. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Rhaglenwyr yn dathlu sut mae rhaglenwyr wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau bob dydd. Dethlir y diwrnod ar y 13eg o Fedi oherwydd mai dyma ddiwrnod rhif 256 yn y flwyddyn. Dewiswyd y gwerth 256 oherwydd mai dyma faint y gwerthoedd y gellir eu cynrychioli gan feit wyth did.
Ychwanegodd Dr Dave Perkins (Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg) “Hoffwn ddweud 'Diwrnod y Rhaglenwyr Hapus' i bob rhaglennydd ym mhobman”. Aeth Dave ymlaen i ddweud “mae nifer y swyddi lle mae angen gwybodaeth gyfrifiadurol a sgiliau rhaglennu yn tyfu bob blwyddyn. Rydym ni, ym Mhrifysgol 亚洲色吧, yn falch iawn o ddarparu ystod o gyrsiau sy'n dysgu gwahanol ieithoedd rhaglennu. Rydym ni'n dysgu JavaScript, Java, C ++. Python, Matlab ac R i enwi dim ond rhai ieithoedd.”
Mae poblogrwydd ieithoedd rhaglennu wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf. Dywedodd Yr Athro Jonathan Roberts (Athro mewn Delweddu) “Pan ddechreuais yn y Brifysgol fel myfyriwr israddedig mewn Cyfrifiadureg, astudiais Pascal, C a Haskell. Tra bod C a Haskell yn dal i fod yn boblogaidd mae Pascal yn llai felly. Mae poblogrwydd ieithoedd yn newid dros y blynyddoedd. Mae’n amlwg, oherwydd bod y rhyngrwyd mor hollbresenol, fod JavaScript ac HTML/CSS yn boblogaidd heddiw.” Mae , man cymunedol poblogaidd, yn cynnal arolwg blynyddol. Mae eu data gan dros 65 mil o gyfranogwyr yn cynnig cipolwg ar ieithoedd rhaglennu a datblygiadau cyfrifiadurol a thechnolegol eraill. Aeth yr Athro Roberts rhagddo i ddweud “Mae'n ddiddorol edrych ar boblogrwydd ieithoedd cyfrifiadurol dros y pum mlynedd diwethaf. Mae pum prif iaith: JavaScript, HTML a CSS, Python, SQL a Java. Ond mae sgriptio shell, C#, C++, PHP a TypeScript hefyd yn boblogaidd iawn.”
Ieithoedd cyfrifiadurol mwyaf poblogaidd 2021. Data o stackoverflow.com
Ychwanegodd yr Athro Roberts “Trwy edrych ar y pum mlynedd diwethaf cawn gipolwg bras ar yr hyn sy'n digwydd. Tra bod JavaScript yn llai poblogaidd nag y bu hi, hi yw'r iaith fwyaf boblogaidd o hyd o bell ffordd. Ond mae ieithoedd fel Python a TypeScript yn cynyddu mewn poblogrwydd, ac mae'r amrywiadau C (C, C++, C#) hefyd yn boblogaidd iawn.
Delweddau tueddiadol o rai o'r ieithoedd poblogaidd. Data o stackoverflow.com
Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2021