Newyddlenni
Myfyriwr ysbrydoledig yn graddio ar 么l brwydro yn erbyn canser
Mae myfyriwr technolegau creadigol yn graddio eleni gyda gradd ddosbarth gyntaf, er iddo orfod brwydro yn erbyn canser yn ystod ail flwyddyn ei gwrs. Yn goron ar y cyfan mae Ronald Rodriguez Winter (Ronnie) hefyd wedi ennill Gwobr Jane Rudall mewn cydnabyddiaeth o鈥檌 benderfyniad a鈥檌 waith caled yn ystod ei astudiaethau.
Magwyd Ronnie yn Esquel ym Mhatagonia, ble roedd gan ei deulu gysylltiadau agos 芒'r gymuned Gymreig yn Nhrevelin. Roedd ganddo lawer o ffrindiau Cymraeg, a mynychodd y capel Cymraeg.
Symudodd Ronnie a鈥檌 deulu i Brydain yn 2002 ac astudiodd ei arholiadau TGAU a Lefel A mewn ysgol yn Rhydychen cyn gweithio am gyfnod ac yna teithio yn Awstralia am bum mis. Penderfynodd wneud cais i astudio ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn 2011.
Eglurodd Ronnie, "roedd perthnasau i mi鈥檔 byw ym Mangor am tua 10 mlynedd, a b没m i ymweld 芒 nhw sawl gwaith. Wedi iddynt symud adref i Batagonia, arhosodd un cefnder yma ac roedd ar fin dechrau ei ddoethuriaeth mewn peirianneg electronig, felly meddyliais y buasai鈥檔 syniad gwych cael wyneb cyfarwydd yn y dref yr oeddwn am symud iddi.
"Treuliais fy mhlentyndod yn nhirwedd fynyddig Patagonia ac mae Eryri yn fy atgoffa o鈥檙 fan honno ac yn rhoi dihangfa i mi o鈥檙 straen o weithio ac astudio. Rwyf wedi syrthio mewn cariad 芒'r lle, ac rwy鈥檔 mwynhau cerdded yn yr ardal gyda ffrindiau a fy nyweddi. "
Yn ystod ail flwyddyn ei gwrs, cafodd Ronnie ddiagnosis o lymffoma Hodgkin, ond er gwaethaf hyn, roedd yn benderfynol o barhau gyda'i astudiaethau.
Meddai Ronnie, "Yn 2014 cefais wybod bod gen i lymffoma Hodgkin (canser yn y nodau lymff). Yr oedd yn ganser ar radd 2b, y mae modd ei drin, ac yn ystadegol mae 99% o gleifion yn fy ngr诺p oedran yn gwella ar 么l cael triniaeth.
"Wedi i mi gael cadarnhad o鈥檙 diagnosis ym mis Ebrill 2014, cynigodd fy nhiwtoriaid i mi roi鈥檙 gorau i鈥檙 cwrs dros dro ac ailafael ynddo wedi i mi orffen fy nhriniaeth. Ond penderfynais barhau gyda鈥檙 cwrs.
"Erbyn dechrau mis Mai dywedwyd wrthyf y gallwn ddechrau triniaeth cemotherapi ond gan fod yr arholiadau yn cael eu cynnal ym mis Mai dywedais wrth y meddygon fy mod eisiau gohirio鈥檙 driniaeth er mwyn gorffen fy arholiadau鈥檔 gyntaf, gan fy mod yn benderfynol o orffen y flwyddyn.
鈥淵n ffodus cefais farciau yn y 70au a鈥檙 80au ym mhob arholiad. "
Ddiwedd mis Mai, dechreuodd Ronnie ei driniaeth cemotherapi, cyfnod mae'n ei ddisgrifio fel cyfnod gwaethaf ei fywyd.
"Treuliais yr haf yn cael fy ngwenwyno gan gemegau, roeddwn yn s芒l ac yn teimlo'n wan ac yn methu canolbwyntio na darllen yn iawn. Gwnes fy ngorau i aros yn bositif er gwaethaf holl sgil-effeithiau鈥檙 driniaeth.鈥
Daeth Ronnie i derfyn ei driniaeth cemotherapi yng nghanol mis Medi cyn dechrau ei drydedd flwyddyn yn y brifysgol. Yna cafodd bythefnos o radiotherapi yn Ysbyty Glan Clwyd, 40 milltir o Fangor.
Eglurodd Ronnie, "roedd yn rhaid i fy rheini fynd 芒 fi i Glan Clwyd bob dydd ar 么l fy narlithoedd. Gofynnais i staff yr ysbyty symud fy holl apwyntiadau i 5pm a 6pm lle bo modd, fel bod dim rhaid i mi fethu unrhyw ddarlithoedd.
"Cefais sg卯l-effeithiau cryf iawn am tua 2 fis nes i bethau ddechrau gwella erbyn y Nadolig .
"Ddechrau fis Rhagfyr, es i Fanceinion i gael sgan PET, ac wythnos yn ddiweddarach cefais wybod bod y driniaeth wedi bod yn llwyddiannus. Mae鈥檔 rhaid i mi fynd i鈥檙 ysbyty bob 3 mis am brofion ond hyd yn hyn mae popeth yn berffaith iawn. "
Ychwanegodd Ronnie, "mae'n deimlad gwych i fod yn graddio gyda gradd dosbarth gyntaf ac yn sicr nid oeddwn yn disgwyl ennill gwobr Jane Rudall. Er nad oeddwn yn adnabod Dr Jane Rudall, mae pobl wedi dweud wrthyf ei bod yn gymeriad hyfryd a thalentog. Fel cyd-glaf canser sy鈥檔 gwybod sut beth yw mynd drwy鈥檙 fath brofiad, rwy'n falch o dderbyn gwobr yn ei henw.
"Hoffwn ddiolch i'r holl ddarlithwyr yn yr Ysgol Cyfrifiadureg sydd wedi dysgu cymaint i mi dros y tair blynedd diwethaf, yn enwedig fy nhiwtor yr Athro Ludmila Kuncheva, sydd wedi bod yn gymorth anhygoel yn ystod fy nhriniaeth. Mae hi wedi bod fel aelod teulu i mi.
"Hoffwn hefyd ddiolch i oruchwyliwr fy nhraethawd hir, Dr Stephen Marriott, sydd wedi bod yn gefnogol iawn. Roedd bob amser yn fy ngwthio i wneud fy ngorau, ac rwy鈥檔 hynod ddiolchgar am hynny.
"Diolch hefyd i bawb sydd wedi fy helpu yn ystod fy nhriniaeth: fy rhieni, fy nyweddi, a phobl Eglwys Bedyddwyr Penrallt sydd bob amser wedi bod yn gefn i mi. A hefyd i bob un o'r staff yn Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd, yn cynnwys Dr Seale, Dr Chris, a'r holl nyrsys sy'n gweithio mor galed er lles y gymuned."
Mae Ronnie yn awr yn bwriadu mynd i weithio yn y diwydiant TG ac ym mis Medi bydd yn dychwelyd i Batagonia am wyliau arbennig iawn.
"Byddaf yn priodi ym mis Medi ac yn mynd ar fy mis m锚l i Batagonia, Chile a'r Ariannin. Ar 么l hynny, byddwn yn setlo yng Nghymru lle rwy鈥檔 bwriadu dod o hyd i swydd fel datblygwr meddalwedd. "
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2015