Newyddlenni
Myfyriwr Cyfrifiadureg wedi hacio’n fyw ar lwyfan mewn prif ddigwyddiad yn Llundain
Bu myfyriwr o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É sydd hefyd yn haciwr moesol ardystiedig yn cymryd rhan mewn digwyddiad mawr yn Llundain yn ddiweddar. Roedd siaradwyr adnabyddus fel Boris Johnson a'r Arglwydd Alex Carlile hefyd yn rhan o’r digwyddiad.
Perfformiwyd ‘hac’ yn fyw ar lwyfan gan Jamie Woodruff, 21 oed, o Rishton , Swydd Gaerhirfryn sy’n fyfyriwr ail flwyddyn yn yr Ysgol Cyfrifiadureg, fel rhan o’r digwyddiad ' - trafodaeth ar breifatrwydd, data a pholisi ar gyfer yr economi ddigidol.
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd gan Innotech, yn canolbwyntio ar y cwestiynau a ofynnir dro ar ôl tro ynglŷn â sgiliau digidol yn nhermau hacio seiber, preifatrwydd, ac ymyrraeth llywodraethau yn nata’r cyhoedd yn y dyfodol.
Yn ystod y digwyddiad haciodd Jamie mewn i wefan un o’r cynadleddwyr, gyda'u caniatâd, a rhestrodd eu gwendidau. Roedd hyn yn galluogi’r cynadleddwyr i weld sut y gall hacwyr cyfrifiaduron ymosod ar eu gwefan a rhoi eu busnes mewn perygl. Hefyd, rhoddodd Jamie adborth ar sut i helpu i ddiogelu’r wefan.
Dywedodd Jennifer Arcuri, Sylfaenydd yr Uwchgynhadledd Innotech: "Daeth Jamie i ddigwyddiad Innotech 2014 gyda #LiveHack! Rhannodd y llwyfan gyda Maer Llundain a bu’n siarad am bwysigrwydd hacio am ychydig funudau, yn egluro beth yw hacio, sut caiff ei ddefnyddio, a pham ei bod mor bwysig ei ddysgu. Roedd y gynulleidfa wedi’u syfrdanu gan nad oeddent erioed wedi gweld unrhyw un yn hacio’n fyw ar lwyfan o’r blaen, gyda siaradwyr a chyfarwyddwyr proffil uchel yno’n bresennol. Roedd yn sicr yn brofiad anhygoel i’r gynulleidfa ac rwyf yn falch iawn bod Jamie wedi cymryd rhan yn y digwyddiad."
Dywedodd Jamie: "Roeddwn yn teimlo'n gyffrous ac ychydig bach yn nerfus am gymryd rhan yn y digwyddiad hwn. Roedd yn anrhydedd cael y cyfle i siarad â chynulleidfa amrywiol am y materion sensitif sy'n gysylltiedig â phreifatrwydd. Cefais gyfle i fynegi fy marn bersonol a’r cyfle hefyd i gyfleu barn pobl eraill. Hoffwn hefyd ddiolch i Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É am y gefnogaeth gyson i fy niddordebau academaidd a phersonol."
Aeth Jamie ymlaen i gymryd rhan yn nigwyddiad StartupBus UK, sef cystadleuaeth flynyddol lle mae prif gymunedau technoleg Ewrop yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i lansio busnes technoleg newydd ar fws, yn teithio o Lundain i Vienna.
Gwyliwch:
Diolch i ©Vicki Couchman am y llun 0795722691 vicki@vickicouchman.com @vickicouchman
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2014