Newyddlenni
Llwyddiant wrth ddelweddu cyfiawnder gweinyddol
Mae academyddion o Ysgol y Gyfraith ac Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol 亚洲色吧 wedi cael cydnabyddiaeth am eu gwaith ym maes delweddu data. Cafodd y project ymchwil ar y cyd ganmoliaeth mawr yng nghynhadledd ryngwladol 2021 ar ddelweddu (), a gynhaliwyd rhwng 23 a 27 Hydref 2021. Trefnir y gynhadledd ddelweddu flynyddol (VIS) gan yr Institiute of Electrical and Electronic Engineers (). Eleni cynhaliwyd y gynhadledd yn rhithiol a’i ffrydio'n fyw ar YouTube, gyda’r rhyngweithio ar Discord a’r cwestiynau ar Slido.
Roedd y gwaith yn ymchwilio i sut i ddelweddu llwybrau unioni cyfiawnder gweinyddol. Mae cyfiawnder gweinyddol yn ymwneud â'r berthynas rhwng unigolion a'r wladwriaeth. Mae'n cynnwys unioni a chwynion am benderfyniadau addysg, gofal cymdeithasol, trwyddedu, cynllunio, yr amgylchedd, tai a digartrefedd plant. Mae'r gr诺p wedi creu teclyn, o'r enw Artemus, sy'n delweddu llwybrau unioni ym maes cyfraith weinyddol.
Meddai’r Athro Jonathan Roberts (Athro Delweddu) “Roedd yn anrhydedd ennill y wobr hon. Mae gan ddelweddu esboniadol y potensial i arddangos y llwybrau unioni hyn mewn ffordd amlwg. Y syniad yw y gall pobl weld, deall ac archwilio gwahanol lwybrau unioni posib trwy ein teclyn ar-lein (Artemus). Roedd yr her ddelweddu yn gymhleth oherwydd bod y data wedi ei wasgaru ar draws llawer o ddogfennau, deddfau, arweiniad a pholisïau a bod angen dehongliad barnwrol. O ganlyniad, nid oes un gronfa ddata o lwybrau unioni ar gael i'w delweddu.”
Offeryn delweddu esboniadol cyfiawnder gweinyddol Artemus, sy'n dangos y diagram rhwydwaith (chwith) a llwybr enghreifftiol (dde)
Meddai Dr Sarah Nason (Uwch ddarlithydd Cyfraith Weinyddol a Chyfreitheg) “Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn y gydnabyddiaeth hon. Yn yr ymchwil, a ariannwyd gan y Nuffield Foundation, gwnaethom gysylltu â llawer o gyfreithwyr, barnwyr, awdurdodau lleol, elusennau, comisiynwyr, ombwdsmyn a swyddogion Llywodraeth Cymru. Yn hynny o beth, daeth y gwaith â llawer o bobl ledled Cymru ynghyd, sydd â diddordeb mewn gwella mynediad at gyfiawnder gweinyddol. Hoffwn ddiolch i'r holl bobl hynny a gyfrannodd at ein project a’n helpu i sicrhau bod y gwaith yn llwyddiant."
Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2021