Newyddlenni
Kieran yn gwireddu ei freuddwyd drwy ennill gradd mewn cyfrifiadureg
Mae myfyriwr Cyfrifiadureg, sydd wedi mwynhau pob eiliad o'i amser ym Mhrifysgol 亚洲色吧, yn graddio yr wythnos hon.
Mae Kieran Bold, 21, o Landrillo-yn-Rhos, wastad wedi bod ag angerdd ynghylch cyfrifiadureg, ac wedi blogio am gemau amrywiol ers iddo fod yn 15 oed. Roedd yn cymryd rhan yn y clwb cyfrifiadureg amser cinio yn yr ysgol lle byddai鈥檔 helpu eraill i ddysgu i godio. Mae hefyd wedi helpu鈥檙 henoed drwy wirfoddoli i鈥檞 dysgu sut i ddefnyddio cyfrifiadur ac i fynd ar-lein.
Dywedodd Kieran, cyn-fyfyriwr yn Ysgol Eirias, Bae Colwyn: "Mae'n deimlad hollol anhygoel i fod yn graddio. Mae鈥檙 tair blynedd wedi mynd yn gyflym, ac yr wyf wedi mwynhau pob eiliad. Mae Prifysgol 亚洲色吧, o鈥檙 staff i Undeb y Myfyrwyr, i'm cyfoedion, i gyd wedi gwneud hwn yn brofiad anhygoel."
Am Fangor, ychwanegodd: "Pan ddeuthum i ddiwrnod agored, nid oedd fel unrhyw un arall yr oeddwn wedi bod ynddo. Roedd y staff i gyd yn gwneud i chi deimlo'n gartrefol, ac roedd y dewis o feysydd i鈥檞 hastudio'r heb ei debyg. Roedd gan y Brifysgol a'r Adran Gyfrifiadureg bopeth yr oeddwn ei angen. Roedd hefyd yn wych bod llety wedi鈥檌 warantu i mi, ac roedd y clybiau a鈥檙 cymdeithasau i gyd yn rhad ac am ddim i ymuno 芒 hwy ac roedd gymaint o leoedd y gallech fynd i鈥檞 gweld ac roedd y golygfeydd yn eithriadol.
"Yn y flwyddyn gyntaf, cefais y cyfle i gymryd rhan mewn prosiect oedd yn codi o鈥檙 modiwl Safbwyntiau Proffesiynol. Roeddem wedi creu prosiect a'i gyflwyno ger bron "Y Dreigiau" er mwyn iddynt werthuso鈥檙 syniad. Arweiniodd hyn at un o'r cwmn茂au eisiau ymhelaethu ar y syniad, ac yna cafodd naw myfyriwr a finnau gyfle i ennill profiad diwydiannol dros yr haf cyfan yn ystod ein blwyddyn gyntaf."
Mae Kieran yn gobeithio astudio MSc drwy ymchwil ac yna PhD yn y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2016