Newyddlenni
Her Dr Zigs i Menter drwy Ddylunio
Cafwyd penllanw Menter drwy Ddylunio 2014 yr wythnos ddiwethaf gyda thimau o fyfyrwyr yn cyflwyno eu syniadau i banel o feirniaid a chynulleidfa o wahoddedigion. Gosodwyd yr her - sef dylunio deunydd pecynnu newydd i'w teganau anghyffredin - gan Dr Zigs Extraordinary Bubbles, cwmni cynhyrchu teganau o Ogledd Cymru.
Fe wnaeth gwerthwr cenedlaethol ddangos diddordeb mewn dosbarthu nwyddau Dr Zigs, ar yr amod bod eu pecynnu'n cael ei ail-ddylunio. Daeth Menter drwy Ddylunio i'r adwy gan ddarparu ffordd sydyn a chreadigol i gynhyrchu amrywiaeth eang o ddyluniadau i'w hystyried.
Gan weithio mewn 12 o dimau amlddisgyblaethol, mae 60 o fyfyrwyr, , , a wedi cydweithio â Dr Zigs i greu a datblygu deunyddiau pecynnu posibl. Cafodd y myfyrwyr brofiad uniongyrchol o weithio ar broject masnachol byw. O'r ochr arall cafodd Dr Zigs syniadau newydd a ffres o ran pecynnu eu nwyddau gyda chyfraniadau gan arbenigwyr academaidd.
Ar ôl cyflwyno eu syniadau fe wnaeth y myfyrwyr arddangos eu cynlluniau a'u taflenni hysbysebu mewn sioe debyg i un ffair fasnach.
Un o'r rhai oedd ar y panel beirniaid oedd Paola Dyboski-Bryant o Dr Zigs ac, ar ôl iddynt drafod y cynigion, meddai wrth y myfyrwyr, "fe wnaethoch chi waith rhyfeddol ... roedd eich cynigion yn destun cryn drafod i ni. Roedd yna syniadau newydd a chreadigrwydd ym mhob un o'ch dyluniadau."
Fe wnaeth y Tîm Crocws buddugol, sef Jordan Burns, Rory Robson a Bogdan Pop dderbyn gwobr o £2,500 am eu cynllun 'Bubble Towers',gyda'r ail wobr o £1,000 yn mynd i'r Tîm Tegeirian a'r drydedd wobr o £500 yn mynd i'r Tîm Blodyn Haul. Roedd y beirniadaethau wedi'u seilio ar pa becynnu oedd orau ar gyfer y nwyddau dan sylw.
Yn ogystal â'r wobr ariannol bydd y tîm buddugol hefyd yn cael cefnogaeth a chyngor i ddatblygu eu cynllun ymhellach a chyfle i weithio gyda Dr Zigs yn y dyfodol.
Meddai Rory Robson, y myfyriwr Seicoleg yn y tîm buddugol:
'Roedd Menter drwy Ddylunio'n newid dymunol o ochr academaidd bywyd prifysgol oherwydd fe gefais gyfle i ddefnyddio fy sgiliau a'm creadigrwydd mewn sefyllfa go iawn. Bob wythnos cawsom olwg ddiddorol ar amrywiaeth o wahanol agweddau'n ymwneud â'r broses ddylunio o droi syniadau'n realiti. Fe wnes i orffen y daith efo project yr oeddwn yn falch iawn ohono ac fe wnes i lawer o ffrindiau newydd yn ogystal."
Meddai Bogdan Pop, y myfyriwr Busnes o'r un tîm:
"Dwi'n meddwl mai'r ffactorau wnaeth ennill y wobr gyntaf i ni oedd ein bod wedi meddwl am holl agweddau'r cynnyrch, gwneud amser i gyfarfod â'r cleient, datblygu prototeip gweithredol a oedd yn parchu'r cysyniad busnes, a hefyd creu gwefan, cardiau busnes a chrysau T y tîm. Roedd yna lawer o ymdrech a brwdfrydedd tu ôl i'n gwaith."
Mae'n wych gweld cyn-fyfyrwyr a fu ar y rhaglen yn dychwelyd fel pobl broffesiynol lwyddiannus, yn gweithredu fel ymgynghorwyr ac yn helpu i feirniadu syniadau a gynigir. Meddai Matt Kennedy, aelod o'r panel beirniaid ond hefyd yn gyn-enillydd Menter drwy Ddylunio ac erbyn hyn yn Uwch Beiriannydd Dylunio yn Unilever, "Fe wnaeth cymryd rhan ym Menter drwy Ddylunio fel myfyriwr israddedig fy helpu i gyflawni fy ngwaith yn Unilever drwy ddangos i mi werth cydweithio rhyngddisgyblaethol a chyfathrebu'n glir. Roedd yn bleser pur cael dychwelyd fel un o'r beirniaid gyda thasg mor gyffrous i'w chyflawni."
Meddai Dr Andy Goodman, Cyfarwyddwr Canolfan Arloesi Pontio:
"Mae Menter drwy Ddylunio wedi cael ei ddatblygu dros y pum mlynedd ddiwethaf i ddangos sut y gall myfyrwyr, busnes, academyddion ac aelodau o'r gymuned leol gydweithio i greu gwerth drwy ddylunio. Mae ymroddiad a chreadigrwydd pawb a gymerodd ran wedi bod yn anhygoel."
Mae'r tîm sy'n trefnu Menter drwy Ddylunio'n gyffrous wrth feddwl y bydd sesiynau'r flwyddyn nesaf yn cael eu cynnal yn y Ganolfan Arloesi newydd sbon yn Pontio ac maent yn credu y bydd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol iawn. Bydd y lle newydd yn gartref priodol iawn i ethos y rhaglen. Gwrandewch ar Dr Andy Goodman yn egluro (yn Saesneg) sut mae Menter drwy Ddylunio'n awr yn cael ei ystyried yn weithgaredd canolog i'r ganolfan arloesi yn Pontio
Yr arbenigwyr academaidd a gyflwynodd y rhaglen oedd: Dr Iestyn Pierce o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, Dewi Rowlands, Dylunio Cynnyrch, Ysgol Addysg, Dr Andy Goodman, Cyfarwyddwr Canolfan Arloesi Pontio, Dr John Parkinson o Seicoleg a Dr Siwan Mitchelmore o'r Ysgol Busnes. Aelod arall oedd Chris Walker, mentor y Rhaglen Cefnogi Menter sy'n rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr a graddedigion Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É i ddatblygu eu syniadau, ac a fydd yn hwyluso'r sesiynau 'Hothaus'. Fe wnaeth grŵp o fyfyrwyr y gyfraith ym Mangor helpu'r myfyrwyr i lunio eu cytundebau tîm, gyda chydweithrediad Dr Pedro Telles o Ysgol y Gyfraith. Bu Lowri Owen a Ceri Jones o'r Rhaglen Byddwch Fentrus yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cydlynu'r rhaglen.
Mae'r myfyrwyr ôl-radd a weithredodd fel hwyluswyr timau yn cynnwys Abhinav Dubey, Ben Smith, Elin Holbeck, Lesley McCarthy, Louise Ainsworth, Mehran Rafiei, Oliver Raspin, Patricia Carbone, Sam James, Sebastien Combret a Sion Edwards.
Ar y panel beirniaid roedd: Dewi Hughes o Pontio, Matt Kennedy, o Uniliver, Paola Dyboski-Bryant, o Dr Zigs Extraordinary Bubbles, Dave Noddings o DMM International Ltd, Phil Nelson o Surflines a Jon Owens o GreyPixel Design. Roedd panel o feirniaid iau hefyd yn bresennol gan roi eu hymatebion i'r dyluniadau. Rhoddodd y Beirniaid Iau hefyd y wobr i'r tîm Crocws.
Mae myfyrwyr sy'n cwblhau'r rhaglen yn ennill 25 o bwyntiau .
Tynnwyd sylw at Fenter drwy Ddylunio'n ddiweddar gan y Carnegie Trust yn eu herthygl ar ‘Exchanging Evidence on Enterprise Education’ yn yr adroddiad ''.
Caiff y rhaglen Menter drwy Ddylunio ei hariannu drwy
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2014