Newyddlenni
Eisteddfod brysur arall i Brifysgol 亚洲色吧 yn Eisteddfod Llanrwst 2019
Mae Prifysgol 亚洲色吧 yn falch o fod yn cymryd rhan flaenllaw eto eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.
Yn ogystal 芒 chyfrannu at fwrlwm y Maes, bydd rhaglen lawn o weithgareddau hefyd ar stondin y brifysgol ar y Maes eto eleni.
Ddydd Llun am 11.00, cadeirir trafodaeth ddifyr 鈥Siaradwyr neu ddefnyddwyr y Gymraeg鈥 gan Ifor ap Glyn. Yn cymryd rhan yn y drafodaeth bydd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, Jeremy Griffiths, Cyfarwyddwr Gweithredol CaBan, (Partneriaeth Addysg Gychwynnol Athrawon), Prifysgol 亚洲色吧 a Gwawr Maelor Williams a鈥檙 Athro Enlli Thomas, o鈥檙 Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol.
Hefyd ddydd Llun, am 14:00, bydd Dr Catrin Hedd Jones yn cynnal sgwrs i godi ymwybyddiaeth o鈥檙 gefnogaeth sydd ar gael i bobl sy鈥檔 byw gyda dementia, eu gofalwyr a鈥檜 teuluoedd: Pontio鈥檙 bobl a鈥檙 gymuned. Yn dilyn llwyddiant rhaglenni fel Hen Blant Bach bydd y sgwrs yn rhannu canfyddiadau ymchwil diweddaraf Mirain Llwyd Roberts am y rhwystrau a鈥檙 heriau sydd ynghlwm 芒 phrojectau sy鈥檔 pontio鈥檙 cenedlaethau. Bydd Dr Catrin Hedd Jones yn trafod cynlluniau rhyngwladol a sut gall cynlluniau o鈥檙 fath gyfrannu at gymunedau hyfyw wrth daclo unigrwydd a chwrdd 芒 gofynion newydd yr Arglwydd Donaldson.
Pleser hefyd yw croesawu鈥檙 cylchgrawn Barn i鈥檙 stondin ar gyfer eu digwyddiad blynyddol am 15.00. Bydd Gareth Glyn yn trafod 'Llanrwst a fi'. Bydd y cyfansoddwr yn s么n am ei gysylltiadau teuluol 芒 Llanrwst ac am y g芒n a gafodd ei hysbrydoli gan y cysylltiadau hynny.
Ddydd Mawrth yn y stondin bydd Rhaglenni ION Leadership a 20twenty, rhaglenni a gynigir drwy Brifysgol 亚洲色吧, yn cynnal digwyddiad Arweinyddiaeth ar Waith am 11.00. Bydd cyfle i gyfarfod rhai o鈥檙 bobl sy鈥檔 dilyn y rhaglenni hyn a chlywed am eu profiadau a鈥檙 effaith arnynt hwy fel unigolion ac ar eu busnesau.
鈥Ai Brexit yw argyfwng mwyaf y ganrif?鈥 yw pwnc trafod Cymdeithas Cledwyn yn eu cyfarfod yn y stondin am 12.00. Yn cymryd rhan bydd Susan Elan Jones AS, Ann Clwyd AS a鈥檙 Athro Merfyn Jones.
Yna am 13.00 bydd myfyrwyr llengar 亚洲色吧 yn cymryd yr awenau wrth i Elis Dafydd holi Caryl Bryn, Osian Owen a Ll欧r Titus am eu hysgrifennu creadigol.
Newyddion Heddiw, Newyddion Drwg yw teitl trafodaeth ar newyddiaduraeth yn y Gymraeg am 14.00-15.00. Ceir sgwrs banel gyda rhai o leisiau mwyaf adnabyddus newyddiaduraeth yng Nghymru dan gadeiryddiaeth Bethan Rhys Roberts.
Yr Athro J Lloyd Williams, cyn-ddarlithydd botaneg yn y brifysgol, a brodor o Lanrwst, sydd yn hawlio鈥檙 sylw am 15.00 wrth i Elen Wyn Keen, myfyriwr 么l-radd yn yr Ysgol Cerddoriaeth a鈥檙 Cyfryngau, drafod ei gyfraniad i鈥檙 traddodiad cerddorol yng Nghymru yn J Lloyd Williams Y cymwynaswr Cerdd o Lanrwst. Bydd sesiwn arall ar lwyfan ENCORE am 11.00 fore Sadwrn 10ed.
Mae dydd Mercher wastad yn ddiwrnod prysur ar stondin 亚洲色吧 wrth i鈥檙 brifysgol wahodd cyn-fyfyrwyr i alw draw a chadw mewn cysylltiad, gyda鈥檙 Aduniad rhwng 14.00- 15.30 yn ganolbwynt i鈥檙 cyfan.
Hefyd yn ystod y diwrnod prysur, cawn drafodaeth am y llyfrau sydd o bwys i sawl un o staff academaidd ac ymchwil y brifysgol sydd yn ymchwilio ym maes llenyddiaeth. Cynhelir y digwyddiad hwn, 鈥楾rysor ar Ynys Anial鈥, am 10.30 ac fe鈥檌 trefnir gan Wasanaeth Llyfrgell y brifysgol.
Am 12.00 croesewir Panel Trafod: Allforio Diwylliant Llechi Cymru i'r Byd. Bydd y panelwyr, Lisa J锚n Brown, Eluned Haf, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas a鈥檙 Athro Jerry Hunter yn trafod cwestiynau gan Lysgenhadon Ifanc Llechi Cymru am dreftadaeth ddiwylliannol ac effaith bosib sicrhau dynodi鈥檙 ardal yn Safle Treftadaeth Byd.
Yn dilyn y drafodaeth, bydd Lisa J锚n o 9bach yn perfformio set acwstig i鈥檙 gynulleidfa.
Yn glo i鈥檙 diwrnod ceir perfformiad gan Aelwyd JMJ. Mae Aelwyd JMJ wedi cael blwyddyn lwyddiannus dros ben eleni, gyda鈥檙 aelwyd a鈥檌 haelodau鈥檔 cipio gwobrau prif gystadlaethau corawl Eisteddfod yr Urdd, a chyda gwylwyr ledled y wlad yn mwynhau eu perfformiad wrth i鈥檙 c么r gyrraedd rownd gyn-derfynol rhaglen a chystadleuaeth C么r Cymru ar S4C. Byddant yn diddanu yn y stondin am 15.30.
Ddydd Iau am 10.00 bydd yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-ganghellor (Iaith Gymraeg, Diwylliant a Chysylltiad 芒鈥檙 Gymuned) Prifysgol 亚洲色吧 a David Anderson OBE, Amgueddfa Cymru, yn llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth er mwyn atgyfnerthu a symud y berthynas rhwng y ddau sefydliad ymlaen.
Yna am 12.45 bydd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn lansio P-ELO, sef 鈥楶hoto-Electric Light Orchestra鈥, neu鈥檙 Gerddorfa Olau Ffotodrydanol. Bydd y project newydd hwn yn dechrau fis Medi ac yn gweithio gyda phlant 9-13 oed o ysgolion lleol y dalgylch, i beiriannu offerynnau cerddorol yn defnyddio goleuni a chodio. 鈥楶erfformiad鈥 yn Pontio fydd penllanw鈥檙 project, a chyfle i鈥檙 disgyblion sydd wedi cymryd rhan ddod ynghyd i ddangos yr hyn maent wedi ei gyflawni.
Bydd staff o鈥檙 Ysgol Gwyddorau Iechyd yn cynnal Gweithdy Iechyd ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ddydd Iau rhwng 12.00-13.00. Galwch draw i ymarfer technegau adfywio cardio pwlmonaidd, neu i brofi ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar a gweithgaredd iechyd meddwl.
Bydd myfyrwyr y brifysgol sydd wedi ffurfio Cymdeithas John Morris Jones yn cael eu croesawu i鈥檙 stondin am 14.00, cyn i Ensemble Telyn y Brifysgol (gweler #Encore uchod) ymweld 芒鈥檙 stondin am 15.00-16.00.
Ddydd Gwener am 13.00 cynhelir C芒n y G芒n - dathliad o gyhoeddi casgliad o ganeuon i godi gw锚n gan drigolion cartrefi preswyl sydd yn byw gyda dementia. Caiff yr adnodd ei ddosbarthu am ddim lle mae'r angen.
Mae'r gwaith hwn yn bartneriaeth gyda Merched y Wawr, Dydd Miwsig Cymru a Chanolfan Ymchwil a Heneiddio Cymru. Cewch gyfle i wrando ar Alistair O'Mahoney yn trafod ei ymchwil i therapi cerdd ym maes dementia a bydd Dr Catrin Hedd Jones yn rhannu datblygiadau diweddaraf y gwaith o sicrhau fod pawb yn cael mwynhau caneuon eu hieuenctid. Dewch draw i fwynhau perlau Cymru a chynorthwyo drwy ddod i gasglu CD i鈥檞 rannu. bit.ly/canyganbangor
Bydd Dr Prysor Williams o鈥檙 Ysgol Gwyddorau Naturiol yn y stondin am 14.00 yn trafod Cig Coch - yn fwy gwyrdd nag yr ydych chi鈥檔 feddwl?
Ddydd Sadwrn ar y stondin rhwng 11 a 12.30 bydd yr Ysgol Gwyddorau Meddygol yn cyflwyno rhaglen C21 ar y cyd 芒 Phrifysgol Caerdydd. Bydd hwn yn gyfle i glywed mwy am y cwrs Meddygaeth newydd ym Mhrifysgol 亚洲色吧.
Croesewir Fleur de Lys i berfformio ar y stondin am 13.00-14.00.
Prifysgol 亚洲色吧 yw un o brif noddwyr Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod. Bydd darlithwyr a myfyrwyr o Golegau Gwyddorau鈥檙 Amgylchedd a Gwyddorau Dynol, a鈥檙 Uned Technolegau Iaith, yno drwy鈥檙 wythnos yn cynnal gweithgareddau i blant.
Ymysg yr uchafbwyntiau ar y rhaglen fydd y Sioe Wyddoniaeth Wych yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg am 11:15 a 14:15 o ddydd Llun 5 Awst i ddydd Gwener 9 Awst. Bydd Dr Enlli Harper a Dr Andrew Davies o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol yn syfrdanu plant ac oedolion fel ei gilydd.
Ddydd Mawrth 6 Awst rhwng 15:30-16:30 yn stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol bydd Dr Andrew Davies o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol yn lansio鈥檙 Ap Tabl Cyfnodol cyfrwng Cymraeg cyntaf ar gyfer platfformau ioS ac Android i ddathlu canmlwyddiant a hanner ei greu. Lluniwyd yr ap mewn cydweithrediad 芒 Galactig / Rondo Media a Gwil L酶vgreen, cyfieithydd. Ariennir yr ap drwy Gronfa Strwythurol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ydych chi eisiau gwybod mwy am sut mae technoleg adnabod lleferydd Cymraeg yn gweithio? Ydych chi eisiau cyfrannu eich llais i gronfa Common Voice er mwyn gwella鈥檙 dechnoleg? Bydd stondin Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr y Brifysgol yn esbonio mwy am y datblygiadau diweddaraf a鈥檜 hymgyrch yn torfoli lleisiau Cymraeg.
Mae鈥檙 Brifysgol hefyd yn cyfrannu at lwyfan #ENCORE yr Eisteddfod.
Ddydd Sadwrn, bydd gweithiau gan Dr Guto Pryderi Puw a David Roche yn cael eu perfformio ar Organ Stryd Astrid. Nos Sul bydd Kiefer Jones, athro llais o鈥檙 Ysgol Cerddoriaeth a鈥檙 Cyfryngau, yn rhoi datganiad o unawdau amrywiol. Ceir datganiad meistr gan y pianydd Iwan Llewelyn Jones, Cyfeilydd a Darlithydd mewn Perfformio, ac yna daw cerddoriaeth draddodiadol a chanu gwerin dan y chwyddwydr am 17:00 ddydd Mawrth dan arweiniad Yr Athro Pwyll ap Si么n, un o olygyddion y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru. Ddydd Iau am 13.00 cewch fwynhau ensemble telyn gan fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol 亚洲色吧 gyda Mared Emlyn, Medi Evans, Alys Bailey Wood ac Elain Jones. Nos Iau bydd sesiwn arall o鈥檙 Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru - y tro hwn bydd Yr Athro Pwyll ap Si么n yn troi鈥檙 sylw at gerddoriaeth glasurol a chelfyddydol. Bydd Organ Stryd Astrid yn ymddangos eto ddydd Sadwrn am 13.00 a sesiwn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru yn edrych ar ddiwylliant a diwydiant cerddoriaeth Cymru gyda鈥檙 Athro Pwyll ap Si么n am 17.00.
Meddai Dr Guto Pryderi Puw o鈥檙 Ysgol Cerddoriaeth a鈥檙 Cyfryngau am gyfraniad yr Ysgol:
鈥淢ae ein harlwy amrywiol o weithgareddau, gan gynnwys eitemau ychydig bach yn anarferol, fel Organ Stryd Astrid, yn tystio i鈥檙 math o weithgareddau a geir ym Mangor, ac yn arddangos doniau ein myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr perfformio, ynghyd 芒 chyfansoddiadau gan fyfyrwyr 么l-radd a staff.鈥
Daw chwedlau Dyffryn Conwy鈥檔 fyw yn sioe wreiddiol Y Tylwyth, un o brif gyngherddau鈥檙 Eisteddfod mewn partneriaeth 芒 Pontio, Prifysgol 亚洲色吧. Mae hon yn sioe wreiddiol llawn caneuon, straeon a champau acrobatig i鈥檙 teulu cyfan gan Myrddin ap Dafydd, Gwyneth Glyn a Twm Morys, nos Wener 2 Awst a Sadwrn 3 Awst am 18.00, tocynnau: 0845 4090 800
Bydd gan Pontio bresenoldeb ar y Maes drwy鈥檙 wythnos fel rhan o rwydwaith theatrau Cymru yng Nghaffi鈥檙 Theatrau yn y Pentref Drama. Dewch draw i gael copi o鈥檙 rhaglen ar gyfer y tymor i ddod. Hefyd mae digwyddiadau Lleisiau鈥檙 Stryd: rhoi llwyfan i leisiau鈥檙 digartref ym Mangor yng Nghaffi鈥檙 Theatrau Ddydd Mawrth 6 Awst, 16.00. Gwion Hallam fydd yn cadeirio sgwrs rhwng Mared Huws o Pontio, y dramodydd Branwen Davies, Hayley Owen o Hostel y Santes Fair a disgybl o Ysgol Friars, yn trafod y profiad o fod yn rhan o broject 鈥楲lesiau鈥檙 Stryd鈥 sy鈥檔 rhan o gynllun BLAS Pontio. Bydd Gwion Aled Williams yn darllen detholiadau o鈥檙 ddrama air am air a gafodd ei llwyfannu dros yr haf.
Ym Mhentre鈥檚 Plant cewch wylio Llew a鈥檙 Crydd, Dydd Iau a Dydd Gwener, 8 a 9 Awst
am 12.00, 14.00 a 16.00 neu cewch ymuno 芒 gweithdy drama hwyliog yn edrych ar them芒u Llew a鈥檙 Crydd sy鈥檔 addas i鈥檙 teulu cyfan am 15.00! Mae dau frawd yn teithio鈥檙 byd yn casglu straeon rhag iddynt fynd ar goll. Un noson yn yr Eisteddfod, a hwythau鈥檔 methu mynd i gysgu, maen nhw鈥檔 dweud stori am fachgen o鈥檙 enw Llew, crydd cybyddlyd cas, coblyn bach hudolus a thywysoges sydd eisiau gwneud dim byd ond dawnsio鈥 Ymunwch 芒 ni ar antur hudolus, lle ceir digon o straeon a phypedau od iawn yr olwg鈥
Cynhyrchiad ar y cyd gan Theatr Clwyd a Pontio , ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Emyr John.
Mae staff Prifysgol 亚洲色吧 hefyd yn cymryd rhan flaenllaw yn nigwyddiadau鈥檙 Eisteddfod, ac mewn lleoliadau eraill ar y maes.
Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr Prifysgol 亚洲色吧, fydd y bardd lleol a fydd yn croesawu鈥檙 Orsedd a鈥檙 Eisteddfod i鈥檙 ardal yn y seremoni agoriadol ddydd Llun 5 Awst am 11:00 yng Nghylch yr Orsedd.
Hefyd bydd yn Llion yn cael ei holi gan Yr Athro Angharad Price yn Y Babell L锚n am 14:15 ddydd Sul 4 Awst. Yn 鈥楾rydar mewn Trawiadau鈥 bydd yn ymateb wrth iddo roi'r gorau i gynganeddu ar y cyfryngau cymdeithasol ar 么l degawd o drydar mewn trawiadau.
Llion Jones hefyd fydd yn traddodi鈥檙 feirniadaeth yn Seremoni鈥檙 Cadeirio, ddydd Gwener am 16.30, ar ran ei gyd-feirniaid, Yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd ac Ieuan Wyn.
Bydd Jeremy Williams-Jones, darlithydd cyswllt yn yr Ysgol Busnes, yn aelod ar banel ym Mhabell y Cymdeithasau 2 ar 6 Awst am 13:30 i drafod Heriau鈥檙 Gymru Annibynnol. Hefyd yn cymryd rhan bydd Carwyn Jones AC a Liz Saville Roberts AS dan gadeiryddiaeth Beti George.
Ddydd Mercher am 16.00 ym Mhabell y Cymdeithasau 1 bydd Dr Sarah Nason o Ysgol y Gyfraith yn cyflwyno Darlith Flynyddol Cymdeithas y Cyfreithwyr Cymru a Lloegr ar Cyfiawnder Gweinyddol Cymreig: Hawliau, Dyletswyddau, a Goblygiadau i鈥檙 Gwasanaethau Cyfreithiol.
Hefyd Ddydd Mercher am 14.00 bydd Dr Daniel Roberts o Ysgol Gwyddor Cyfrifiadurol a Pheirianneg Electronig yn traddodi ail Ddarlith Goffa Eilir Hedd ym Mhabell y Cymdeithasau 2. Am 16.00 bydd myfyrwyr a staff academaidd Prifysgol 亚洲色吧 yn derbyn tystysgrifau Sgiliau Iaith ar stondin Coleg Cymraeg Cenedlaethol,
Dydd Iau, ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd yr Ysgol Gwyddorau Iechyd yn cynnal Gweithdy Iechyd. Bydd cyfle i ymwelwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarfer technegau adfywio cardio pwlmonaidd (CPR), ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar a gweithgaredd iechyd meddwl.
Bydd Dr Aled Llion Jones o Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn cyflwyno鈥檌 feirniadaeth ar Her Gyfieithu PEN Cymru ar stondin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ddydd Iau.
Bydd Dr Daniel Roberts yn arddangos project cydweithredol Cod i Obeithion gan y Ganolfan Ehangu Mynediad y Brifysgol a鈥檙 CCC am 10.30 Ddydd Iau.
Bydd yr Athro Jerry Hunter yn aelod o banel trafod Beth i鈥檞 wneud gyda鈥檔 gwastraff? Senedd Ieuenctid Cymru ym Mhabell y Cymdeithasau 2 am 11.30 Ddydd Gwener.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2019