Newyddlenni
Dr Yue o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar restr fer am y Wobr Newton bwysig
Mae Dr Liyan Yue o Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi cael ei roi ar y am am ei broject yn adeiladu system argraffu metaddeunydd cydraniad uwch 3D.
Mae'r wobr yn gronfa flynyddol o £1 filiwm a ddyfernir i'r ymchwil neu waith arloesol gorau sy'n cefnogi datblygiad economaidd a lles cymdeithasol gwledydd sy'n datblygu. Fe all Dr Yue ennill hyd at £200,000 o'r wobr i'w ddefnyddio i hyrwyddo neu ddatblygu'r gwaith ymhellach.
Mae Gwobr Newton yn rhan o'r Gronfa Newton ehangach, sy'n meithrin ymchwil a phartneriaethau arloesi gyda 18 o wledydd partner i gefnogi eu datblygiad economaidd a'u lles cymdeithasol, a datblygu eu gallu i ymchwilio ac arloesi i sicrhau twf cynaliadwy hir dymor. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi buddsoddi £735 miliwn yn y gronfa tan 2021 ac mae pob gwlad sy'n rhan o'r bartneriaeth yn darparu cyllid ac adnoddau cyfatebol i bob rhaglen, gan ei gwneud yn bartneriaeth gyfartal.
Mae Dr Yue yn gweithio ar ddatblygu metaddeunyddiau perfformiad uchel newydd, sydd â photensial i drawsnewid isadeileddau a gwasanaethau telegyfathrebu, cyfrifiaduro optegol, ynni solar a dyfeisiadau meddygol. Mae sialensiau cynhyrchu ar hyn o bryd yn cyfyngu ar ddefnyddio hyn. Mae project Dr Yue yn galluogi i fetaddeunyddiau 3D gael eu hargraffu'n uniongyrchol o fodelau CAD 3D gyda mwy o ryddid cynllunio a chost is o'i gymharu â dulliau ffotolithograffeg confensiynol. Gellir gweld effeithiau y gwaith hwn yn y diwydiannau telegyfathrebu a ffotoneg yn Fietnam, yn ogystal ag yn y sectorau ynni, amgylchedd ac iechyd.
Meddai Dr Yue pan gafodd y newydd:
"Dwi'n teimlo'n gyffrous iawn cael fy rhoi ar y rhestr fer am y wobr yma ac mae'n gryn anrhydedd. Fe dreuliodd fy mhartner o Fietnam a minnau naw mis yn datblygu platfform argraffu micro/nano 3D ym Mangor. Gellir defnyddio'r strwythurau micro/nano printiedig hyn i gynhyrchu metaddeunydd electromagnetig artiffisial gan ddefnyddio nodweddion 'egsotig' na ellir eu cael yn natur. Mae'r platfform hwn yn gyfrwng ymchwil isel ei gost, ond pwerus, ar gyfer ymchwil i nanotechnoleg a ffotoneg yn y ddwy wlad, a gellir disgwyl i effeithiau gwyddonol enfawr ddeillio ohono yn y dyfodol."
Dywedodd Dr Iestyn Pierce, Pennaeth yr Ysgol Peirianneg Electronig:
"Dwi'n hynod falch bod gwaith Dr Yue wedi cael ei gydnabod. Mae ymchwil Dr Yue yn enghraifft wych o'r gwaith arloesol sy'n cael ei wneud yn y brifysgol. Rydym yn denu rhai o'r ymchwilwyr a'r athrawon rhyngwladol gorau i'n Hysgol ac mae hyn eto'n enghraifft ragorol o'n partneriaeth ryngwladol ar waith."
Eleni fe wnaeth dros 150 o brojectau a chymrodoriaethau a gyllidir drwy Gronfa Newton o'r gwledydd cymwys - India, Malaysia, Gwlad Thai a Fietnam - wneud cais am y Wobr Newton. Mae 25 o'r ceisiadau ar y rhestr fer a dyfernir pum gwobr o hyd at £200,000 i bob enillydd i'w defnyddio i hyrwyddo neu ddatblygu gwaith presennol a gyllidir gan gronfa Newton. Bydd dau enillydd yn India ac un yr un yn Malaysia, Gwlad Thai a Fietnam.
Cyhoeddir enillwyr Gwobr Newton mewn seremonïau gwobrwyo a gynhelir ym mhob un o'r gwledydd partner:
• India - 1 Tachwedd
• Gwlad Thai - 8 Tachwedd
• Malaysia - 14 Tachwedd
• Fietnam – 16 Tachwedd
Bydd Jo Johnson, y Gweinidog dros Brifysgolion, Gwyddoniaeth ac Ymchwil, hefyd yn cynnal digwyddiad yn Llundain ddechrau Rhagfyr i ddathlu blwyddyn gyntaf y wobr ac i gyhoeddi'r gwledydd cymwys am Wobr Newton 2018.
Nod Gwobr Newton yw ysgogi ymchwilwyr i gymryd rhan yng Nghronfa Newton fel partneriaid gyda'r DU, a gweithio ar y sialensiau pwysicaf sy'n wynebu gwledydd Newton. Datblygwyd cysyniad Gwobr Newton i ddangos sut mae partneriaethau rhwng y DU a gwledydd Newton yn datrys sialensiau byd-eang.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cronfa Newton. Dilynwch eu cyfraniadau ar Twitter i gael diweddariadau rheolaidd am Wobr Newton: @NewtonFund and #NewtonPrize.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2017