Newyddlenni
Disgyblion Ysgol lleol yn cael profiad ymarferol mewn digwyddiad CodiSTEM
Tyrrodd cannoedd o ddisgyblion o ysgolion Môn a Gwynedd i Goleg Menai, Grŵp Llandrillo Menai, i ddigwyddiad cyntaf CodiSTEM yn ddiweddar. Digwyddiad oedd hwn a oedd yn cynnig gwybodaeth a chyngor gyrfaol ym maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) ac a drefnwyd gan Gyrfa Cymru.
Yn ystod y dydd, denodd CodiSTEM, y digwyddiad cyntaf o'i fath i’w gynnal yn yr ardal, dros 450 o bobl ifanc o Ysgol Syr Thomas Jones, Ysgol Bodedern, Ysgol Uwchradd Caergybi, Ysgol Llangefni, Ysgol David Hughes ac Ysgol Dyffryn Nantlle.
Cynhaliwyd digwyddiad gyda'r nos hefyd, gyda siaradwyr gwadd, yn cynnwys Greg Evans (gynt o Centrica), Dr John Idris Jones (Ynys Ynni), Chris Blake (CITB) a Daron Hughes a Mark Salisbury (Pŵer Niwclear Horizon) yn cymryd rhan.
Yn ogystal â'r bobl ifanc, roedd cyflogwyr lleol amlwg, yn cynnwys Siemens, Babcock, IBM, Dawnus a Wynne Construction, yn bresennol. Roedd y cyflogwyr hyn ar gael i gynghori disgyblion ynghylch sut y gallent sicrhau dyfodol iddynt eu hunain yn eu diwydiannau, gan roi cyngor ar y mathau o gyfleoedd gwaith sydd ar gael.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn y Ganolfan Ynni, lle roedd nifer o sesiynau ymarferol wedi'u trefnu gan Goleg Menai. Ymhlith y rhain, roedd sesiynau ym maes ynni adnewyddadwy a pheirianneg cerbydau modur, efelychydd cylch llif, weldio rhithiol a dylunio a gweithgynhyrchu gyda chymorth cyfrifiaduron.
Cynhaliodd llawer o'r cyflogwyr sesiynau ymarferol hefyd. Ymhlith y rhain, roedd Jones Brothers, Rhuthun, a ddaeth â Safle Adeiladu Rhithwir gyda hwy er mwyn i'r bobl ifanc allu rheoli peiriannau trwm yn niogelwch y digwyddiad. Roedd gan staff y Grid Cenedlaethol robotiaid y cafodd y bobl ifanc gyfle i'w rheoli, dangosodd Ysgol Gwyddorau'r Eigion, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, anifeiliaid morol bychain i'r ymwelwyr, tra gyflwynodd Ysgol Peirianneg Electronig y Brifysgol yr ymwelwyr i’r dechnoleg tu ôl i’r Nintendo Wii a thechnoleg Occulus Rift. Heriodd Pŵer Niwclear Horizon y disgyblion i adeiladu Gorsaf Pŵer Niwclear mewn amser penodedig.
Dywedodd Dr Iestyn Pierce, Pennaeth Ysgol Peirianneg Electronig, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É:
"Roeddem wrth ein boddau gyda'r nifer a oedd yn bresennol. Cymerodd y bobl ifanc ran lawn yn y digwyddiad ac rwy'n sicr iddynt gael budd mawr ohono.
"Roeddem hefyd yn falch fod cymaint o gyflogwyr dylanwadol wedi cymryd rhan. Mae'n hanfodol fod Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a Choleg Menai, ynghyd â'n cydweithwyr yn Gyrfa Cymru, yn pwysleisio pwysigrwydd pynciau STEM ac yn rhoi gwybod i bobl ifanc bod swyddi da ar gael yn lleol gyda chyflogwyr gwych os gwnânt benderfynu dilyn trywydd STEM – naill ai drwy astudio Lefel A neu ddilyn llwybr galwedigaethol yn y coleg, neu drwy ddilyn prentisiaeth gyda chyflogwr".
Siaradodd Dr John Idris Jones, Cyfarwyddwr Rhaglen yr Ynys Ynni, yn ystod y digwyddiad a gynhaliwyd gyda'r nos. Dywedodd, "Mae gweld cannoedd o'n pobl ifanc yn cymryd rhan mor frwdfrydig yn CodiSTEM wedi bod yn ysbrydoliaeth. O gofio bod yr Ynys Ynni'n chwyldroi'r Ynys drwy ddenu buddsoddiadau sylweddol yn y sector niwclear ac ynni adnewyddadwy, mae pynciau STEM yn sicr o ddod yn fwyfwy pwysig i bobl ifanc.
"Mae hyn eisoes yn digwydd, ac mae'r momentwm yn sicr o gynyddu'n sylweddol o flwyddyn i flwyddyn. Bydd cyfleoedd gwaith mewn nifer o sectorau i'n pobl ifanc, ar bob lefel academaidd – o hyfforddwyr i brentisiaid, o raddedigion i rai sydd eisoes yn y gweithle. Bydd yn gyfle i'n pobl ifanc aros yma i weithio, ac i'r rheini sydd wedi gadael i ddychwelyd adref.
"Mae datblygiadau ynni carbon isel yr Ynys Ynni'n sicr o greu swyddi mewn amrywiol sectorau: o arlwyo i beirianneg; o adeiladu i wasanaethau tacsis; o staff meddygol i wasanaethau lletygarwch; a llawer rhagor. Mae'r cloc eisoes yn tician i'n pobl ifanc, ac mae'n hanfodol eu bod yn barod i achub ar y cyfleoedd a geir yn sgil yr Ynys Ynni ac a fydd yn trawsnewid eu bywydau. Darparodd digwyddiad CodiSTEM yr union wybodaeth hon a gobeithiwn y bydd y rhai a oedd yn bresennol yn dechrau meddwl o ddifrif am y sgiliau a'r hyfforddiant y bydd arnynt eu hangen i wneud y gorau o'r cyfle hwn a ddaw unwaith mewn cenhedlaeth."
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2015