Newyddlenni
Cytundeb niwclear rhwng Cymru a Chanada
Mae prifysgolion o Gymru a Chanada wedi ymuno i ddatblygu technolegau niwclear arloesol gyda'i gilydd.
Bydd Prifysgol 亚洲色吧, yng ngogledd Cymru, a Phrifysgol New Brunswick (UNB), yng Nghanada, yn dechrau cydweithredu ar ffynonellau ynni newydd.
Dywed y ddau sefydliad sy'n arwain y byd y bydd eu partneriaeth yn helpu datblygu gweithfeydd p诺er fforddiadwy bach: 'adweithyddion modiwlaidd bach' fel y'u gelwir.
Bydd hefyd yn caniat谩u i fyfyrwyr ac academyddion symud yn hawdd rhwng Cymru a Chanada.
Dywedodd yr Athro Bill Lee o'r Sefydliad Dyfodol Niwclear ym Mhrifysgol 亚洲色吧:
鈥淢ae鈥檙 sefydliad wedi鈥檌 ffurfio fel rhan o fenter Ser Cymru Llywodraeth Cymru i ddod 芒鈥檙 ymchwilwyr gorau un i Gymru a meithrin talent newydd yn y rhanbarth.
鈥淩oedd y dewis o ymchwil ynni niwclear fel thema yn rhan o ymgyrch y brifysgol i sicrhau ymchwil sy'n berthnasol iawn i'r economi rhanbarthol.
鈥淵n yr un modd, mae gan Brifysgol New Brunswick hanes o gefnogi technoleg niwclear yn y dalaith.
鈥淩ydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n cydweithwyr yng Nghanada i helpu datblygu ynni gl芒n, diogel a fydd yn hanfodol os yw'r byd am roi'r gorau i danwydd ffosil.鈥
鈥淗efyd, bydd y rhai sy'n astudio peirianneg ym Mangor a Phrifysgol New Brunswick ymhlith y myfyrwyr mwyaf gwybodus y byd yn y maes hwn,鈥 meddai'r Athro Lee.
Yn ddiweddar, llofnododd y ddwy brifysgol lythyr o fwriad swyddogol - a oedd yn mynegi eu hawydd i weithio gyda'i gilydd ar brojectau yn y dyfodol yn Uwchgynhadledd Ynni Niwclear Canada-Y Deyrnas Unedig.
Dywedodd yr Athro William Cook, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Ynni Niwclear UNB: 鈥淥 ystyried y tebygrwydd rhwng ein dau sefydliad, ein rhanbarthau a'n gwledydd mae cyfleoedd da i gydweithio yn y maes blaengar hwn.
鈥淒ros yr wythnosau, y misoedd a鈥檙 blynyddoedd nesaf bydd ein sefydliadau'n cydweithio, gyda chefnogaeth ein llywodraethau i ddatblygu perthynas waith gefnogol i gyflawni set o nodau cyffredin.鈥
Ychwanegodd yr Athro Paul Spencer, Deon Coleg Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg Prifysgol 亚洲色吧: 鈥淕yda鈥檔 gilydd bydd ein prifysgolion ar flaen y gad ym maes y dechnoleg niwclear - mae鈥檔 gyfnod cyffrous iawn i ni i gyd, ac i鈥檔 rhanbarthau.鈥
Mae mwy o wybodaeth am y prosiect ar gael yn www.nubu.nu.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mawrth 2020