Newyddlenni
Athro yn derbyn medaliwn Churchill
Yn ddiweddar cyflwynwyd medaliwn Churchill i'r Athro Nigel John o Prifysgol 亚洲色吧 mewn seremoni wobrwyo bwysig a gynhelir bob dwy flynedd yn Llundain, ar 么l cwblhau ei Gymrodoriaeth Teithio Winston Churchill yn llwyddiannus.
Cyflwynwyd medaliwn Churchill i Nigel gan y gwestai er anrhydedd, y Fonesig Mary Peters DBE, pentathlet a enillodd fedal aur yn y Gemau Olympaidd ac sy'n Gymrawd Churchill ers 1972. Cyflwynodd y Fonesig Mary fedaliwn i 113 o gymrodyr mewn seremoni yn Church House yng nghanol Llundain. Mae gan Church House gysylltiadau pwysig 芒 Churchill oherwydd yn ystod y bomio, atafaelwyd Church House gan Winston Churchill i'w ddefnyddio fel y Senedd ar 么l i'r adeiladau gwreiddiol gael eu difrodi gan y bomiau. Hefyd, o Church House y gwnaeth ei araith enwog yn cyhoeddi suddo'r Bismarck ar 24 Mai 1941.
Fel rhan o'i gymrodoriaeth, teithiodd Nigel i Singapore ac Awstralia i ymchwilio i glaf rhithwir a efelychir ar gyfrifiadur i hyfforddi clinigwyr gyda'r bwriad o sefydlu cysylltiadau cydweithio newydd mewn ymchwil yn y maes hwn.
Wrth siarad am y Gymrodoriaeth meddai Nigel, "Mae'r Cymrodoriaethau Teithio yn rhoi cyfleoedd i ddinasyddion o Brydain fynd dramor ar fenter gwerth chweil o'u dewis, gyda'r bwriad o gyfoethogi eu bywydau trwy brofiadau ehangach - a dod 芒'r buddion yn 么l i eraill yn eu proffesiwn neu'r gymuned yn y DU trwy rannu canlyniadau eu gwybodaeth newydd".
Rhoddodd y Fonesig Mary ganmoliaeth i bob un o'r Cymrodorion am eu cyflawniadau eithriadol gan ddweud, 鈥渕ae'r Gymrodoriaeth yn gyfle gwych i roi rhywbeth yn 么l i'r gymuned a phobl eraill yn y DU. Mae gan bob un ohonom ddoniau. Anelwch am ragoriaeth bersonol - trwy wneud pethau cyffredin mewn ffordd anhygoel". Roedd hefyd yn annog Cymrodorion i ddilyn eu breuddwydion, gan ddweud "agwedd yn hytrach na gallu sy'n bwysig".
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2014