Cydweithio rhwng Prifysgol 亚洲色吧 ac Undeb Rygbi Cymru i helpu i ddatblygu gweithlu hyfforddi Gogledd Cymru
Bydd myfyrwyr ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn cael cynnig cyfle i fod yn rhan o weithlu hyfforddi rygbi yng Ngogledd Cymru, diolch i gydweithio rhwng Prifysgol 亚洲色吧 ac Undeb Rygbi Cymru (URC).
Bydd y cynllun yn galluogi myfyrwyr i symud ymlaen i ennill cymwysterau efydd, arian ac aur wedi'i cynllunio'n arbennig i gyd-fynd 芒'u hastudiaethau. Bydd y cymwysterau, a ddatblygwyd gan URC a staff yng Nghanolfan Brailsford ac Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol 亚洲色吧, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael tystysgrifau hyfforddi, mynd i weithdai hyfforddi, a rhoi eu sgiliau newydd ar waith drwy brofiad gwaith penodol mewn ysgolion, clybiau a digwyddiadau lleol.
Meddai Tim Hoare - Rheolwr Datblygu Hyfforddwyr URC yn y Gogledd: "Drwy'r cynllun yma bydd URC yn gallu helpu i ddatblygu cyflogadwyedd myfyrwyr Prifysgol 亚洲色吧 a'r un pryd gynyddu'r gweithlu hyfforddi rygbi yn lleol. Mae hyn yn rhoi cychwyn gwirioneddol dda i fyfyrwyr wrth iddynt gymryd y camau cyntaf yn yr yrfa o'u dewis."
Meddai Dr Julian Owen, Darlithydd mewn Ffisioleg Chwaraeon ym Mhrifysgol 亚洲色吧: "Mae hon yn enghraifft ragorol o'r ffordd rydym yn ceisio darparu cyfleoedd 'byd go iawn' i'n myfyrwyr i gyd-fynd efo'r cyrsiau academaidd trylwyr rydym yn eu cynnig. Mae'r cyfleoedd yma, ar y cyd efo Gwobr Cyflogadwyedd 亚洲色吧, yn rhoi fframwaith i alluogi myfyrwyr i feithrin a chryfhau sgiliau a galluoedd trosglwyddadwy gwerthfawr sy'n hanfodol i gael llwyddiant mewn byd gwaith."
Dyma oedd gan Iona Williams, Rheolwr Datblygu Chwaraeon yng Nghanolfan Brailsford, Prifysgol 亚洲色吧, i'w ddweud: "Mae hwn yn gam cadarnhaol arall yn ein cydweithio ag Undeb Rygbi Cymru a Rhanbarth Datblygu Gogledd Cymru, pryd y gwelwyd lansio'r cynllun ysgoloriaeth rygbi mewn chwaraeon yn llwyddiannus y llynedd."
Straeon perthnasol:
/brailsford/news/bangor-university-student-selected-for-wales-u20-rugby-team-25938
/news/diweddaraf/gwobr-goffa-llew-rees-yn-cael-ei-rhoi-i-chwaraewr-rygbi-hynod-addawol-27456
/brailsford/newyddion/dyfarnu-ysgoloriaethau-chwaraeon-i-athletwyr-elit-bangor-25250
Dyddiad cyhoeddi: 26 Medi 2016