Archebu a chwestiynau sy'n codi'n aml
Gellwch archebu'n rhwydd a bydd ein staff cyfeillgar yn barod i gynnig cyngor.
- Anfonwch e-bost yn nodi'r gofynion arbennig at reservations@bangor.ac.uk
Rhywbeth Arbennig
Os ydych angen cynllunio ar gyfer digwyddiad arbennig, gofynnwch i gael siarad ag un o'n gweithwyr arlwyo proffesiynol a fydd yn barod i'ch helpu gyda chyngor am fwydlenni, lleoliadau a chostau.
Os oes gennych rywbeth mwy penodol mewn golwg nad yw ar ein bwydlenni, neu os ydych yn awyddus i drafod eich gofynion yn fwy manwl, cysylltwch yn uniongyrchol â'r Swyddfa Gynadleddau, lle bydd rhywun yn falch o'ch helpu, gan roi gwybodaeth am fwydlenni, lleoliadau a chostau.
Faint o rybudd fydd ei angen arnom?
Er mwyn sicrhau y gallwn gyflawni eich gofynion, archebwch o leiaf 48 awr cyn y digwyddiad os gwelwch yn dda. Byddwn bob amser yn gwneud pob ymdrech i ymdrin ag archebion munud olaf ond gall hyn olygu na fydd rhai bwydlenni/eitemau ar gael ac efallai y ceir oedi o ran danfon y bwyd.
A oes isafswm o ran archeb?
Codir isafswm o £18.00 ar gyfer archebion i Ysgolion ac Adrannau yn ardal campws y brifysgol, o Safle'r Normal i Stryd y Deon, ÑÇÖÞÉ«°É.
Am bob archeb arall mewnol ac allanol tu allan i’r cylch hwn, beth bynnag y lleoliad, rhaid gwario o leiaf £180.00 ar bob danfoniad ynghyd â chostau teithio o £1 y filltir ar gyfer danfon a chasglu.
Sylwch – os ydych yn archebu arlwyo yn uniongyrchol drwy e-bost, mae'n rhaid i ni gael eich manylion cyswllt LLAWN a gwybodaeth anfonebu hynny yw, cod cost, cyfeiriad anfon yr anfoneb.
Diogelwch Bwyd
Rydym yn eich cynghori i fwyta’r bwyd o fewn yr amser a nodir ar y cerdyn danfon.ich cynghori i fwyta’r bwyd o fewn yr amser a nodir ar y cerdyn danfon.
Dewisiadau iach
Mae bwyta'n iach yn faes sy'n dod yn fwyfwy pwysig i lawer o'n cwsmeriaid ac rydym yn cynnig amrywiaeth ehangach o fwyd a diod sy'n cwmpasu hyn. Yn ogystal, rydym bob amser yn hapus i drafod unrhyw ofynion dietegol arbennig sydd gennych.
Cynnyrch Masnach Deg a Lleol
Mae cynnyrch Masnach Deg a lleol yn rhan bwysig o gynllunio'n bwydlenni. Mae'r brifysgol wedi cael achrediad Masnach Deg, mae ein holl wyau yn wyau buarth ac rydym yn prynu ein pysgod o bysgodfeydd sydd wedi eu hymrwymo i arferion pysgota cynaliadwy.