Pryd alla i gofrestru ar-lein?
Rhaid i’r holl fyfyrwyr gofrestru’n ffurfiol yn ganolog gyda Chofrestr Academaidd y Brifysgol ar ddechrau eu cwrs, ac o bryd i'w gilydd bydd rhaid iddynt gadarnhau eu bod yn dal i ddilyn y cwrs. Mae’n ofynnol i’r Brifysgol gadw'r wybodaeth ddiweddaraf am fyfyrwyr, a monitro eu presenoldeb.
Mae holl fyfyrwyr newydd Prifysgol 亚洲色吧 nawr yn cofrestru ar-lein. Bydd eich llythyr neu'ch e-bost cofrestru yn cynnwys y wybodaeth angenrheidiol i greu eich cyfrif cyfrifiadur ac e-bost prifysgol. Defnyddir eich cyfrif e-bost prifysgol i gysylltu 芒 chi yngl欧n 芒 materion academaidd a gweinyddol ac un o amodau’ch cofrestriad yw eich bod yn edrych ar y cyfrif hwn o leiaf unwaith yr wythnos.
Bydd y system yn agor i chi oddeutu tair wythnos cyn dechrau'ch cwrs, a bydd ar gael am gyfnod penodedig yn unig (pythefnos, fel arfer), felly gwnewch yn si诺r eich bod yn cofrestru'n brydlon. Ni ddylai gymryd yn hir i'w lenwi os ydych chi wedi paratoi.
Mae cadarnhau presenoldeb ar gyfer yr HOLL fyfyrwyr sy’n dychwelyd i ddilyn eu cyrsiau, ac at ddibenion gweinyddol yn unig. Ni ddylech ei ddefnyddio i newid opsiynau academaidd (e.e. dewis neu newid modiwlau neu gyrsiau, etc.). Am arweiniad ar faterion academaidd, darllenwch adran y Cwestiynau a ofynnir yn aml ar ‘YMHOLIADAU YNGL哦N 脗 CHYRSIAU’. Byddwch yn cael e-bost (a anfonir i'ch cyfrif prifysgol) ddechrau Medi yn eich atgoffa i wirio eich gwybodaeth bersonol ar, ac, os oes angen, ei diweddaru. Yn dilyn yr e-bost cyntaf, byddwch yn derbyn ail e-bost, yn cadarnhau a oes gennych hawl i ddefnyddio’r system ar-lein. Mae myfyrwyr ‘anghymwys’ yn cynnwys myfyrwyr nad ydynt eisoes wedi gwneud trefniadau i dalu eu ffioedd dysgu neu ffioedd eraill, a myfyrwyr sydd, o bosibl, heb ateb gofynion academaidd a/neu weinyddol eraill. Caiff myfyrwyr na all ddefnyddio’r system wybodaeth drwy e-bost ynghylch beth y dylent ei wneud.