Sut rydw i’n cael tystysgrif gofrestru (ar gyfer Treth Cyngor, etc)
Myfyrwyr yn cael eu heithrio rhag talu Treth Cyngor
‘Treth ar gartrefi’ yw ‘Treth Cyngor’ a chaiff ei chasglu gan gynghorau lleol i helpu talu am y gwasanaethau y maent yn eu darparu. Mae myfyrwyr prifysgol llawn-amser yn cael eu heithrio rhag talu treth cyngor.
Caiff myfyriwr llawn-amser ei ddiffinio fel rhywun sy’n astudio am fwy na 21 awr yr wythnos am fwy na 24 wythnos y flwyddyn. Rhaid i’r cwrs barhau o leiaf un flwyddyn academaidd neu flwyddyn galendr.
Anfonir rhestrau o holl fyfyrwyr cofrestredig llawn-amser Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É at y cynghorau canlynol yn rheolaidd:
Cyngor Sir Gwynedd
Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Sefydlwyd y drefn hon â chynghorau lleol i arbed i fyfyrwyr orfod gofyn am ddogfennau eithrio o dreth cyngor gan y Brifysgol, gan y gellwch nawr gadarnhau eich statws fel myfyriwr drwy gysylltu’n uniongyrchol â’ch awdurdod lleol. Bydd y cynghorau’n defnyddio’r wybodaeth hon i ddibenion treth cyngor yn unig. Rhowch wybod i’ch landlord bod y system hon wedi’i sefydlu bellach, pe bai nhw’n gofyn i chi gael tystysgrif eithrio o dreth cyngor, gan na fydd angen hynny fel rheol mwyach.
Fodd bynnag, bydd angen i chi ofyn am Dystysgrif Eithrio o Dreth Cyngor gan y Swyddfa Cofnodion Myfyrwyr yn yr achosion canlynol:
Os nad ydych yn byw yn un o’r ardaloedd uchod
Efallai y bydd ar eich rhieni angen tystiolaeth eich bod wedi’ch eithrio.
Sylwer nad oes ar fyfyrwyr angen Tystysgrifau Eithrio o Dreth Cyngor ar gyfer llety sy'n eiddo i'r brifysgol.
Gwneud Cais am Dystysgrif Eithrio o Dreth Cyngor
Cyn gofyn am dystysgrif eithrio bydd angen i chi sicrhau bod eich cyfeiriad cyfredol yn ystod adegau tymor yn gywir. Gellwch wneud hyn drwy logio i’r system myfyrwyr drwy myÑÇÖÞÉ«°É, lle gellwch ddiweddaru eich manylion os oes angen
www.bangor.ac.uk/student-administration/faq/answers/tq30.php.cy
I wneud cais am dystysgrif cofrestru, mae angen i chi wneud cais drwy'r system geisiadau ar FyMangor.
FyMangor -> Gwasanaethau Ar-Lein -> Canolfan Gais -> Tystysgrif Cofrestru
Pan dderbyniwch eich Tystysgrif Eithrio, dylech naill ai ei rhoi i’ch landlord neu ei hanfon at y cyngor, yn dibynnu ar y trefniadau yn eich cartref.
Os ydych yn dymuno cael eich gadael allan o'r trefniant trosglwyddo data uchod gyda Chynghorau lleol, e-bostiwch gweinyddiaeth-myfyrwyr@bangor.ac.uk os  gwelwch yn dda, yn nodi eich rhif adnabod myfyriwr Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É.