Rhagolwg
Mae Nia yn Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Cwblhaodd ei PhD yn 2012 ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, ac roedd ei hymchwil yn canolbwyntio ar werthuso effeithiolrwydd ymyriad ar gyfer rhieni plant bach sy’n byw yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Mae gan Nia gymwysterau dysgu gan gynnwys Cymrodoriaeth Addysgu Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ac mae'n Uwch Gymrawd o'r HEA.
Ariannwyd PhD Nia yn rhannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae’n rhan o dîm o ddarlithwyr sy’n cyflwyno modiwlau, goruchwyliaeth a chymorth bugeiliol yn y Gymraeg a’r Saesneg yn yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon.
Ìý
Diddordebau Addysgu
Mae Nia yn drefnydd modiwl ac yn ddarlithydd ar nifer o’r modiwlau israddedig cyfrwng Cymraeg a Saesneg, gan gyflwyno darlithoedd ffurfiol a sesiynau grŵp bach/ymarferol yn ddwyieithog. Mae Nia yn addysgu dulliau ymchwil ac ystadegau yn yr ail flwyddyn ar gyfer ein cyrsiau achrededig BPS, yn ogystal â modiwl trydedd flwyddyn arbenigol sy’n edrych ar ddatblygiad cynnar, adfyd yn ystod plentyndod a’r rôl hollbwysig a chwaraeir gan rieni a gofalwyr yn natblygiad a lles plant. Mae Nia yn goruchwylio myfyrwyr Israddedig yn ystod eu prosiect ymchwil gan ddefnyddio dulliau ansoddol a meintiol.
Diddordebau Ymchwil
Mae diddordebau ymchwil Nia yn cynnwys archwilio profiadau plentyndod cynnar gan gynnwys cam-driniaeth ac esgeulustod, a sut mae’r rhain yn effeithio ar weithrediad oedolion yn ddiweddarach. Mae prosiectau ymchwil israddedig diweddar wedi archwilio profiadau plentyndod andwyol hunan-gofnodedig yn y boblogaeth myfyrwyr a'u perthynas â lles, pryder, iselder, ymddygiad ymosodol, diffygion gweithredu gweithredol yn ogystal â rhai ffactorau amddiffynnol megis cymorth cymdeithasol.
Mae Nia hefyd yn Ymddiriedolwr i’r Children’s Early Intervention Trust sy’n elusen gofrestredig sy’n cynhyrchu cyllid ar gyfer ymchwil i ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymyrraeth gynnar.
Dyletswyddau Gweinyddol
Mae Nia yn dal dwy swydd weinyddol yn yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon gan gynnwys Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig ar gyfer pob gradd achrededig BPS a Thiwtor Derbyn yr Ysgol ar gyfer y cyrsiau yma.
Gwybodaeth Cyswllt
Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig yr Adran Seicoleg; Ysgol Seicoleg a Gwyddorau Chwaraeon
Brignatia
Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
ÑÇÖÞÉ«°É
Gwynedd
Wales
U.K.
LL57 2UW
01248 382543
@niagriffith
Cyhoeddiadau
2017
- Cyhoeddwyd
Hutchings, J., Griffith, N., Bywater, T. J. & Williams, M., Ion 2017, Yn: Child: care, health and development. 43, 1, t. 104-113
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid - Cyhoeddwyd
Owen, D. A., Griffith, N. & Hutchings, J., 26 Ebr 2017, Yn: BMJ Open. 7, 4, e013381.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2013
- Cyhoeddwyd
Hutchings, J. M., Griffith, N., Bywater, T., Williams, M. & Baker-Henningham, H., 1 Ion 2013, Yn: Journal of Children's Services. 8, 3, t. 169-182
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid