Gwybodaeth Cyswllt
BywgraffiadÌý
Wedi graddio yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Rhydychen, rydw i wedi dilyn gyrfa sy’n pontio’r byd academaidd a’r byd darlledu, ac wedi cael cyfnodau yn gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth, BBC Cymru, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a chwmni teledu Cwmni Da. Mae gen i felly dros bymtheg mlynedd o brofiad o weithio ym myd addysg uwch a phymtheg mlynedd o brofiad yn cynhyrchu rhaglenni radio a theledu. Mae fy nghefndir yn y byd darlledu ym maes darlledu celfyddydol yn bennaf, a dyma ydy testun y ddoethuriaeth rwy’n ei chyflawni ar hyn o bryd.
DysguÌý
Rydw i’n gyfrifol am gydlynu a dysgu modiwlau ym maes ymarfer y cyfryngau ac am y diwydiannau creadigol yn fwy cyffredinol, ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, gan arbenigo ym maes Astudiaethau Radio yn bennaf. Rydw i hefyd yn arolygu astudiaethau ymchwil unigol gan israddedigion a myfyrwyr Meistr.
Ymchwil
Mae fy niddordebau ymchwil yn cydfynd i raddau helaeth â fy mhrofiadau galwedigaethol, ac yn cynnwys y canlynol:
- Darlledu celfyddydol
- Radio yng Nghymru
- Hanes Ffilm yng Nghymru
Detholiad o bapurau, cyflwyniadau cynhadledd a chyhoeddiadau
- ‘Y safonol a’r poblogaidd mewn rhaglenni dogfen celfyddydol: profiad cynhyrchydd’, papur a gyflwynwyd yn y symposiwm ‘Iaith/Llais’ (Language/Voice), Prifysgol Aberystwyth, Mehefin 2015.
- Pennod, o dan y teitl ’Twin Town, Ffilmiau’r 1990au a’r Etifeddiaeth Ffilm Gymreig’, yn ‘Ysgrifau ar Ffilm a’r Cyfryngau’, gol. E.H.G. Jones, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Awst 2012.
- Cyflwyniad ar raglenni teledu celfyddydol, cynhadledd Cyfrwng, Prifysgol Abertawe, Gorffennaf 2012.
- ‘Addysgu’r Genedl? – Cyfraniad Darlledu yng Nghymru’, cyfraniad i’r gynhadledd Ìýcyfryngau ac addysg, ‘Adrodd ein Stori’, Prifysgol Abertawe2011.
- ‘Ffilm, Ffantasi a Fformiwla’, erthygl yn Tu Chwith, 2003.
- 'Ffilmiau’r Nawdegau a’r Etifeddiaeth Ffilm Gymreig’, cynhadledd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2002.
- ‘Hanes Ffilm a’r Cyfryngau yng Nghymru’, cynhadledd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É i fyfyrwyr rhyngwladol, Gregynog, 2001.
- ‘Old Wales, New Wales and the Cinema: Issues of representation and genre in Welsh and Welsh-based feature films’, papur i’r gynhadledd Ffilmiau Tramor? Y Sinema Ewropeaidd tu hwnt i’w ffiniau, ÑÇÖÞÉ«°É, 2001.
- ‘Stereophonic Nation: The Bilingual Sounds of Cool Cymru FM’, International Journal of Communication, 2000, a phapur o’r un enw a gyflwynwyd yn y gynhadledd ryngwladol Radiocracy, Caerdydd, 1999.
- Colofnau/erthyglau rheolaidd ym maes Radio a gyhoeddwyd yn Barn 1995-1998, e.e. ‘Damcaniaeth y Big Bang’, Rhagfyr 1995; ‘Radio Cymru i Cym FM – Arolwg Iaith Radio Cymru’, Chwefror 1997; ‘Miss Wales’, Gorffennaf 1997.
Detholiad o gynyrchiadau radio a theledu
- Cynhyrchu/uwch-gynhyrchu 8 cyfres gylchgrawn o’r Sioe Gelf (2002-09).
- Un o sefydlwyr/uwch-gynhyrchydd/cynhyrchydd gwasanaeth Pethe (2010-11)
- Cynhyrchu a chyfarwyddo nifer o raglenni dogfen ym maes y celfyddydau:
Lleisiau Mewn Anialwch – Stori Brodyr y Ffin (2004), Pesda Roc (2005),Ìý Cyfrinach Merch Taliaris (2005), Rhodri Jones – Yn Ôl (2006), Tro yn yr YrfaÌý - Stori Archie Rhys Griffiths (2006), Ar Drywydd Dic Aberdaron (2007), Y Bêl Gelfydd (2008).
- Cynhyrchu a chyfarwyddo’r rhaglen ddogfen hanes Y Royal Charter (2009).
- Cynhyrchu a chyfarwyddo’r rhaglen adloniant ffeithiol 40 Uchaf Siart y Dywediadau, (2009).
- Cynhyrchu rhifynnau o’r Ìýrhaglenni trafod Croma (2003) a Sioe Gelf 'Steddfod (2006, 2007), yn ogystal â Pethe Hwyrach (2010-11), Dweud Pethe (2010-11).
- Cynhyrchu/uwch-gynhyrchu nifer o raglenni dogfen celfyddydol eraill, e.e. Dyrys Daith (2005), Galeri – Yn y Doc (2005), Theatr i’r Bobl (2007), Yr Ail FilltirÌý (2007), Lawr yn y Ddinas (2008), Man Gwyn, Man Draw (2008), Rhwng y Llygru a’r Glasu (2008), Salem (2008), Adrodd: yr Hanes (2009), Tydi a Roddaist (2009), Prosiect y Plygain (2009), Therapi Celf – Mwy na Geiriau (2009), Cymru yn Washington (2009), Fi a Mr Urdd (2010), Annette Bryn Parri - Byd o Gerdd (2011), Pobl y Ffin (2011).
- Cyd-gyfarwyddo’r rhaglen ddogfen gelfyddydol Duw a Ŵyr, a gafodd
enwebiad am y rhaglen gelfyddydol orau yn yr Å´yl Ffilm a Theledu Celtaidd.
- Cynhyrchu nifer fawr o raglenni radio i Radio Cymru rhwng 1988 a 2002, yn bennaf ym meysydd rhaglenni ffeithiol a cherddoriaeth, ee Stondin Ddyddiol, Sioe Siartiau, Gill.
- Un o sylfaenwyr y gwasanaeth cerddorol Hwyrach ar Radio Cymru yn 1989, a sefydlydd a chynhyrchydd cyntaf y rhaglen boblogaidd Ar y Marc yn 1992.
- Cyflwyno sesiynau cerddorol byw rheolaidd ar Radio Cymru am y tro cyntaf, 1990.
- Wedi cynhyrchu deunydd ffeithiol/chwaraeon i Radio Wales a Radio 5.
Ìý
Cyfrifoldebau gweinyddol presennol
- Cadeirydd Pwyllgor Dysgu ac Ymchwil Cyfrwng Cymraeg yr ysgol
- Swyddog Cyflogadwyedd yr ysgol
- Swyddog Ehangu Mynediad yr ysgol
- Aelod o bwyllgor Dysgu ac Addysgu yr ysgol.
- Aelod o bwyllgor cyfrwng Cymraeg Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau.
- Un o gynrychiolwyr y Coleg ar Grŵp Tasg Iaith Gymraeg y Brifysgol.
Arolygu ac adolygu allanol a.y.y.b.
- Arholwr allanol i Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth 2002-06.
- Arholwr allanol i adrannau Cyfryngau/Cymraeg Prifysgol Abertawe o 2012-2016.
- Darllenydd i Wasg Prifysgol Cymru, 2012.
- Beirniad, Gŵyl Ffilm a Theledu Celtaidd, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Gwobrau Radio Ffocws, Gŵyl Ffilmiau Mynydd Llanberis.
Ìý
Trefnu cynadleddau/gwyliau/digwyddiadau
- Aelod o bwyllgor gwaith Fflic Fflac – gŵyl y cyfryngau a’r ifanc 1994-97.
- Aelod o bwyllgor gwaith Gŵyl Ffuglen/Ffuglen Gwlt ÑÇÖÞÉ«°É 1997-2001, gan gyflwyno amryw o ffilmiau yn yr ŵyl bob blwyddyn.
- Un o drefnwyr cynhadledd Cyfrwng, ÑÇÖÞÉ«°É 2014.
- Un o drefnwyr y digwyddiad rhwydweithio, Tu Hwnt i’r Ffiniau ym Mangor yn Ionawr 2018.
Gweithgareddau eraill
- Cadeirio sesiynau Cwestiwn ac Ateb ym Mhontio a Galeri.
- Trefnu a chynnal gweithdai cyfryngau i ysgolion a grwpiau cymunedol yn yr ardal – cynllun TOP ac eraill.
- Sylwebydd i’r cyfryngau am faterion yn ymwneud â Radio.
Gweithgareddau
2024
End of year showcase of creative and research work by students in the School of Arts, Culture, and Language
7 Gorff 2024
Cysylltau:
2 Gorff 2024
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd (Siaradwr)Uwchgynhadledd Ieuenctid ar Dechnoleg - Hon oedd y chweched Uwchgynhadledd Ieuenctid ÑÇÖÞÉ«°É, y tro hwn rhoddwyd cyfle i ddisgyblion Ysgolion Uwchradd ddod at ei gilydd i drafod Technoleg a Phlant. Gwnaed hyn gyda gweithdai rhyngweithiol yn Hwb Gweithgareddau Myfyrwyr y Brifysgol
30 Meh 2024
Cysylltau:
Tri gweithdy cynhyrchu sain i ddisgyblion uwchradd o Ogledd Cymru, fel rhan o ddiwgyddiad a drefnwyd gan Arwyn Roberts o'r Ysgol Addysg.
27 Meh 2024
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd (Siaradwr)Dwy sesiwn ar greu syniadau a chynhyrchu sain
26 Maw 2024
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd (Siaradwr)
2023
14 Hyd 2023
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr)
2022
Aelod o fwrdd Ymddiried ers Tachwedd 2022. Mae'n gorff sydd yn dyfarnu grantiau i gyrff ac unigolion ym maes y diwydiannau creadigol.
1 Tach 2022 →
Cysylltau:
Aelod o'r grwp academaidd sydd yn cydweithio gydag Archif Ddarlledu Cymru.
1 Meh 2022 →
Cysylltau:
2018
8 Awst 2018
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd (Aelod o bwyllgor rhaglen)Sgwrs am bodlediadau
3 Gorff 2018
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)Cynhadledd 6ed Dosbarth
28 Meh 2018
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd (Siaradwr)Gweithdy hyfforddi i grwp Dyffryn Nantlle 20:20
13 Meh 2018
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd (Prif siaradwr/siaradwr mewn sesiwn lawn)Gweithdy cynhyrchu radio
27 Maw 2018
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd (Siaradwr)Un o drefnwyr y digwyddiad rhwydweithio Tu Hwnt i'r Ffiniau (prif drefnydd, Steffan Thomas)
19 Ion 2018
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Aelod o bwyllgor rhaglen)
2017
Trefnu ymweliad gan Geraint Iwan o gwmni teledu Antena, er mwyn trafod cyfleoedd i fyfyrwyr y brifysgol gyda darpariaeth teledu/digidol Hansh i S4C.
7 Rhag 2017
Gweithgaredd: Mathau o Fusnes a Chymuned - Croesawu ymwelydd allanol, anacademaidd (Cyfrannwr)Sgwrs wedi ei tahrgedu at fyfyrwyr Ffilm ol-radd yn bennaf, gyda'r cynhyrchydd ffilm Catrin Cooper
4 Rhag 2017
Gweithgaredd: Mathau o Fusnes a Chymuned - Croesawu ymwelydd allanol, anacademaidd (Cyfrannwr)Trefnu a chyflwyno sgwrs gan Richard Willis o gwmni TalentWorks, er mwyn trafod cyfleoedd i'n myfyrwyr yn y diwydiant hysbysebu digidol.
30 Tach 2017
Gweithgaredd: Mathau o Fusnes a Chymuned - Croesawu ymwelydd allanol, anacademaidd (Cyfrannwr)Sgwrs gydag Arwyn Williams am ei waith gyda Sgrin Cymru - wedi ei thargedu'n bennaf at fyfyrwyr Ffilm ol-radd
27 Tach 2017
Gweithgaredd: Mathau o Fusnes a Chymuned - Croesawu ymwelydd allanol, anacademaidd (Cyfrannwr)Trefnu ymweliad a set ffilmio Craith / Hidden, cyfres ditectif newydd Severn Screen Productions (Y Gwyll / Hinterland) a sgwrs gyda chynhyrchydd y gyfres a'r cynhyrchydd llinell.
23 Tach 2017
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Cyfrannwr)Sgwrs a sesiwn dangos offer gyda myfyrwyr Ffilm ol-radd (a myfyrwyr o'r Ysgol Gerdd)
20 Tach 2017
Gweithgaredd: Mathau o Fusnes a Chymuned - Croesawu ymwelydd allanol, anacademaidd (Cyfrannwr)Holi'r cynhyrchydd Llion Roberts yn dilyn y premier Cymreig o'r ffilm Destination Unknown
21 Meh 2017
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Cyfrannwr)Sgwrs radio ar gyfer Post Cyntaf a rhaglenni newyddion eraill Radio Cymru am eu gwasanaeth newydd arfaethedig, Radio Cymru 2.
21 Meh 2017
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr)Gwneud cyflwyniad am gyrsiau a gyrfaoedd y y diwydiannau creadigol i ddisgyblion 6ed Dosbarth
20 Meh 2017
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr)Cydlynu a chynnal cyfres o weithdai cynhyrchu ym maes y cyfryngau i ddisgyblion uwchradd o Ogledd Cymru, fel rhan o gynllun TOP y brifysgol.
16 Meh 2017 – 23 Meh 2017
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr)Cyflwyno noson o ffilmiau, a chynorthwyo'r trefniadau wrth wahodd cynrychiolwyr o'r sector diwydiannau creadigol. Golygu a phecynnu deunydd sain ar gyfer detholiad o raglenni radio gorau'r flwyddyn gan fyfyrwyr yr ysgol.
10 Mai 2017
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)Sgwrs am y gyfres newydd Craith, gyda Paul Davies o Severn Screen ac Alan Parry, pennaeth gwasanaethau corfforaethol y brifysgol (lleoliadau a chyfleoedd posib i fyfyrwyr).
2 Mai 2017
Gweithgaredd: Mathau o Fusnes a Chymuned - Croesawu ymwelydd allanol, anacademaidd (Cyfrannwr)Cynnal gweithdy radio i ddisgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Bodhyfryd Wrecsam
5 Ebr 2017
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr)Trefnu ymweliad gan yr awdur Gee Williams, er mwyn rhoi cyngor i ddarpar awduron yn YACC a'r Ysgol Llen. Saesneg
14 Maw 2017
Gweithgaredd: Mathau o Fusnes a Chymuned - Croesawu ymwelydd allanol, anacademaidd (Cyfrannwr)Cydlynu ymweliad gan wneuthurwyr ffilm ar y cyd a BAFTA Cymru, a dangosiad o ffilmiau byrion.
24 Chwef 2017
Gweithgaredd: Mathau o Fusnes a Chymuned - Croesawu ymwelydd allanol, anacademaidd (Cyfrannwr)Cyd-drefnu a chynnal sesiwn yrfaol i'r myfyrywr gyda dau o enilwyr diweddar gwobrau BAFTA Cymru
17 Chwef 2017
Gweithgaredd: Mathau o Fusnes a Chymuned - Croesawu ymwelydd allanol, anacademaidd (Cyfrannwr)Trefnu a chynnal sgwrs gyda sylfaenydd y cwmni cyfryngau SSP Media, Osian Williams, fel rhan o'r ddarpariaeth yrfaol i'n myfyrwyr
25 Ion 2017
Gweithgaredd: Mathau o Fusnes a Chymuned - Croesawu ymwelydd allanol, anacademaidd (Cyfrannwr)
Projectau
-
01/07/2014 – 31/01/2015 (Wedi gorffen)