Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yng Ngŵyl Rhif 6
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn falch o gyhoeddi y bydd staff academaidd a myfyrwyr o'r Coleg Celfyddydau a'r Dyniaethau yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau fel rhan o ddathliadau pen-blwydd yn 6 oed eleni. Mae’r ŵyl yn wledd o gerddoriaeth, celfyddydau, diwylliant a gastronomeg a gynhelir dros benwythnos 7-10 Medi ym mhentref hudolus Portmeirion ym Mhenrhyndeudraeth, cartref y gyfres deledu gwlt The Prisoner. Rhai o'r prif berfformwyr yn yr ŵyl eleni fydd Bloc Party, The Flaming Lips, a Mogwai, ynghyd â sgyrsiau arbennig gan Irvine Welsh a Maxine Peake.
6 X 6 DARLITH FER PRIFYSGOL BANGOR
Bydd chwe darlithydd Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn siarad am chwe munud yr un ar bwnc sy'n agos at eu calonnau - am bob mathau o bethau fel hiwmor menywod canoloesol, ffolantau Fictoraidd, Dylan Thomas, Bob Dylan, ysbrydion yr ail ganrif ar bymtheg, a ffuglen dosbarth gweithiol yn oes Brexit. Bydd y gynulleidfa wedyn yn cael pleidleisio am eu hoff siaradwr, sy'n cael chwe munud arall i siarad am y pwnc o'u dewis. Bydd y cyfranwyr yn cynnwys Lisa Blower, Michael Durrant, Karin Koehler, Sue Niebrzydowski, Steve Price, ac Andy Webb.
Mae 6x6 yn gyfle i glywed chwech o awduron cyhoeddedig a beirniaid yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am eich pleidlais drwy ddweud y straeon mwyaf diddorol, pryfoclyd, doniol, a rhyfedd am eu meysydd arbenigedd.
BETH DDYSGODD MR. KITE! I’R BEATLES
Does dim un albwm sy'n fwy lliwgar na'r Sgt. Pepper, ac mae un gân ar yr albwm yn arbennig o liwgar sef ‘Being for the Benefit of Mr. Kite!’ Bwriad John Lennon wrth ysgrifennu'r gân hon (fel y dywedodd wrth gynhyrchydd y Beatles, George Martin) oedd cyfleu holl effeithiau syrcas lliwgar iawn. Bydd yr Athro Chris Collins (Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É) yn dangos sut gall 'Mr Kite' roi cipolwg ar feddyliau'r Beatles yn 1967 wrth iddynt lunio a chynhyrchu eu halbwm mwyaf arloesol.
GWEITHDAI ELECTROACWSTIG
Mae electroacwstig yn cyfeirio'n fras at uno sain acwstig a thechnoleg electronig. Yn gyffredinol mae cerddoriaeth electroacwstig yn arbrofol o ran natur ac yn cwmpasu ystod eang o is-genres cerddorol cyffrous.
Bydd y gweithdai hyn dan arweiniad Alex Bailey (myfyriwr PhD, Ysgol Cerddoriaeth) yn cynnig cyfle gwych i gyfranogwyr recordio, trin, trawsnewid ac ystumio synau arferol bob-dydd i fod yn seinweddau cwadroffonig aml-sianel rhyfeddol a thrawiadol.
YSGRIFENNU CREADIGOL YN GYMRAEG
Yn y gweithdai cyfrwng Cymraeg hyn dan arweiniad awduron profiadol o Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, bydd yr Athro Angharad Price a'r nofelydd Ruth Richards yn awgrymu ffyrdd o ddechrau'r broses o ysgrifennu ffuglen: datblygu techneg a syniadau ysbrydoledig, cymeriadau a deialog.
CYFLWYNO CYNGHANEDD A BARDDONIAETH GYMRAEG YN Y MESURAU CAETH
Yn y gweithdy bywiog hwn, bydd Gruffudd Antur ac Elis Dafydd (myfyrwyr PhD yn Ysgol y Gymraeg) yn cyflwyno cynghanedd a barddoniaeth Gymraeg yn y mesurau caeth mewn ffordd ddifyr ac anffurfiol a fydd yn addas i ddechreuwyr yn ogystal â'r rhai mwy profiadol.
GWEITHDY BARDDONIAETH, TAITH FARDDONIAETH A DARLLENIADAU Mae prif ddiddordeb y bardd Dr Zoë Skoulding (Ysgol Llenyddiaeth Saesneg) mewn sain a pherfformiad, ecofarddoneg a gofod trefol, a chyfieithu fel ymarfer creadigol. Dewch i ddarganfod lleoedd iwtopaidd a grëwyd gan awduron o amgylch y byd - ac adeiladu un eich hun yn ystod y Gweithdy: pensaernïaeth ddychmygol. Dewch i finiogi eich synhwyrau gyda chyfres o ymarferion ysgrifennu mewn grwpiau o amgylch lleoliad yr ŵyl yn ystod taith farddoniaeth gydweithredol. Bydd Zoe hefyd yn darllen barddoniaeth ar thema pensaernïaeth ddychmygol a/neu fannau i freuddwydio mewn gwestai.
DYSGU CYMRAEG - SESIYNAU BLASU IAITH
Bydd Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin yn cynnig sesiynau blasu un awr am ddim yng Ngŵyl Rhif 6 - cyfle gwych i ddysgu rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol mewn ffordd llawn hwyl a chyfle i gael gwybod mwy am gyfleoedd i ddysgu Cymraeg.
Mae Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin yn gonsortiwm lleol rhwng Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a Grŵp Llandrillo Menai sy'n cyflogi staff hyfforddedig ac yn gyfrifol am ddarparu cyrsiau Cymraeg i oedolion yn y rhan hon o ogledd Cymru.
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi mynd o nerth i nerth yn ddiweddar. Mae wedi bod yn brifysgol ymchwil ragorol ar hyd yr amser, ond yn ddiweddar mae hefyd wedi ennill canmoliaeth am ei haddysgu: ÑÇÖÞÉ«°É oedd yr unig brifysgol yng Nghymru i dderbyn 'Aur' yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu llywodraeth y DU 2017, ac mae wedi llwyddo i gael canlyniadau ardderchog yn gyson yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dewch i gwrdd â staff a myfyrwyr Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn awyrgylch cyffrous Gŵyl Rhif 6, a'n helpu i ddathlu ein llwyddiannau yn un o'r lleoedd gorau a phrydferthaf yn y DU.
Eisiau gwybod mwy?
I gael rhestr o'r arlwy llawn hyd yma a rhagor o wybodaeth ewch i: http://www.festivalnumber6.com/
Os hoffech ragor o wybodaeth am gyfranogiad Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yng Ngŵyl Rhif 6, cysylltwch â: cahconferences@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2017