Myfyrwraig Prifysgol 亚洲色吧 yn ennil gwobr Prif Lenor Eisteddfod T
Mared Fflur Jones o Ddolgellau yw enillydd Prif Lenor Eisteddfod T, gyda darn o waith 鈥渓lawn cariad a gwewyr鈥 yn 么l y beirniad, Manon Steffan Ros.
Yn ferch fferm Fronalchen ar gyrion Dolgellau mynychodd Ysgol Ieuan Gwynedd, Rhydymain ac Ysgol y Gader, Dolgellau cyn symud ymlaen i鈥檙 chweched dosbarth yn Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth. Mae Mared ar fin cwblhau ei hail flwyddyn yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol 亚洲色吧.
Mae鈥檔 hen law ar ennill eisteddfodol 鈥 wedi ennill cadair Eisteddfod Ysgol y Gader ac wedi dod yn ail a thrydydd am gadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Meirionnydd. Mae鈥檔 chwarae rygbi, yn canu a pherfformio ac yn treulio鈥檙 cyfnod hwn yn helpu ar y fferm, yn darllen ac ymgymryd ag ambell brosiect 鈥楧IY鈥.
Datgelwyd mai Mared oedd yr enillydd mewn seremoni arbennig a ddarlledwyd yn fyw ar S4C a BBC Radio Cymru, gyda鈥檙 beirniad, Manon Steffan Ros, a'r tri chystadleuydd terfynol yn ymuno ar sgriniau o鈥檜 cartrefi.鈥疍aeth Osian Owen o'r Felinheli a raddiodd gyda gradd BA Cymraeg dosbarth-cyntaf o Fangor yn drydydd yn y gystadeuaeth.
Wrth gyhoeddi mai Mared oedd Prif Lenor Eisteddfod T, ac yn derbyn tlws wedi ei greu yn arbennig gan y cerflunydd Ann Catrin, roedd Manon Steffan Ros yn uchel ei chanmoliaeth: 鈥淢ae鈥檙 awdur yn gyffrous ac yn grefftus, gan ddefnyddio arddull lafar, naturiol a chynildeb clyfar i ddal sylw鈥檙 darllenydd. Mae鈥檔 plethu stori syml ond dirdynnol, ac yn creu darlun yn y meddwl sy鈥檔 gwbl real, yn gwbl glir, yn gwbl deimladwy ac yn llawn cariad a gwewyr.鈥
Mae鈥檙 Eisteddfod T arloesol, lle mai ar-lein mae鈥檙 holl gystadlu, ar y pedwerydd diwrnod o ddarlledu llwyddiannus. Bu鈥檙 ymateb gan y cyhoedd yn wych, gyda llawer yn datgan eu gwerthfawrogiad o fenter yr Urdd ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2020