Gwyddonwyr yn galw am weithredu i fynd i'r afael 芒 bygythiad rhywogaeth coed ymledol i fan pwysig mewn bioamrywiaeth byd-eang
Mae Pittosporum undulatum, a elwir yn oren ffug, (y coed tywyll ar y chwith yma) yn lledaenu yng nghoedwigoedd JamaicaYn 么l ymchwil newydd ar y cyd rhwng Landcare Research yn Seland Newydd, Prifysgolion Caergrawnt a Denver, a Phrifysgol 亚洲色吧, mae coeden ymwthiol sy'n frodorol i Awstralia yn awr yn achosi bygythiad difrifol i fan pwysig mewn bioamrywiaeth byd-eang.
Plannwyd y rhywogaeth hon, Pittosporum undulatum, a elwir yn oren ffug yn lleol, mewn gardd fotaneg yn y Blue Mountains yn Jamaica yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fel mae'r enw lleol yn ei awgrymu, mae gan y goeden hon, sy'n tyfu'n gyflym a chyda dail sgleiniog, ffrwyth oren llachar yn cynnwys llawer o hadau bychain wedi'u gorchuddio 芒 haen ludiog siwgwraidd. Mae'r rhain yn cael eu gwasgaru'n helaeth gan rywogaethau adar brodorol Jamaica ac mae'r planhigyn o ganlyniad wedi bod yn goresgyn cynefinoedd newydd yn hynod gyflym. I ddechrau, fe wnaeth y rhywogaeth gymryd drosodd dir a oedd wedi'i adael ar 么l tyfu coffi a chnydau coed eraill, ond yn fwy diweddar mae wedi ehangu i goedwigoedd naturiol y Blue and John Crow Mountains National Park. Cyflymwyd yr ymlediad hwn gan y difrod a achoswyd i'r coedwigoedd gan Gorwynt Gilbert 29 mlynedd yn 么l, ac mae'n debygol y bydd corwyntoedd mawr yn y dyfodol yn gwneud pethau'n waeth.
Mae'r parc cenedlaethol yn ganolbwynt bioamrywiaeth sydd o bwys byd-eang. Ceir yno lawer o rywogaethau prin a dan fygythiad, yn cynnwys tegeirianau, gl枚ynnod byw ac adar, ac ni cheir rhai ohonynt yn unman arall yn y byd ac eithrio coedwigoedd mynyddoedd Jamaica.
Wrth astudio'r coedwigoedd hyn am gyfnod o 40 mlynedd, daeth yr ymchwilwyr ar draws cynnydd cyson yn niferoedd y Pittosporum ymledol, fel ei fod yn awr yn fwy na 10% o'r holl foncyffion coed.
Mae adar brodorol Jamaica yn hoff o ffrwyth melys yr oren ffug, ac yn lledaenu'r hadau wrth eu bwytau.Eglurodd John Healey, Athro Gwyddorau Coedwig ym Mhrifysgol:
"Dros y 24 mlynedd ddiwethaf roedd difrifoldeb yr ymlediad hwn yn gysylltiedig 芒 gostyngiad yn amrywiaeth rhywogaethau planhigion brodorol, yn cynnwys rhywogaethau nad ydynt i'w cael ond yn Jamaica. Y rhain yw'r flaenoriaeth uchaf o ran cadwraeth. Mae'r 'oren ffug' yn tyfu'n gyflymach na'r rhan fwyaf o goed brodorol, ac mae eu deiliach trwchus yn taflu cysgod tywyll dros eginblanhigion brodorol gan gyfyngu'n ddifrifol ar eu gallu i atgynhyrchu."
Cyflwynir y canlyniadau hyn mewn papur a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn rhyngwladol Biological Conservation.
Mae'r astudiaeth hon yn rhoi tystiolaeth dda i ddarogan y bydd y bygythiad hwn i fioamrywiaeth Blue Mountains Jamaica yn cynyddu, yn arbennig ar 么l i'r corwynt nesaf achosi difrod sylweddol i ganopi'r goedwig naturiol.
Un gr诺p o rywogaethau planhigion sydd dan fygythiad yw'r 'bromeliadau', sy'n tyfu ar foncyffion coed brodorol ond na allant dyfu ar risgl llyfn yr oren ffug. Ynghanol eu rhosedau o ddail mae ganddynt bant llawn d诺r sy'n gartref i bryfetach sy'n ffynhonnell bwysig o fwyd i'r aderyn du Jamaicaidd sydd dan fygythiad. Dyma'r rhywogaeth aderyn sydd dan fygythiad mwyaf yn y Blue Mountains.
Un gr诺p o rywogaethau planhigion sydd dan fygythiad yw'r 'bromeliadau', sy'n tyfu ar foncyffion coed brodorol ond na allant dyfu ar risgl llyfn yr oren ffug. Os c芒nt eu gweithredu nawr, gall mesurau cadwraeth helpu i osgoi'r trychineb bioamrywiaeth byd-eang hwn, yn Jamaica ac mewn llawer o fannau pwysig i fioamrywiaeth ledled y byd sy'n cael eu bygwth gan rywogaethau ymledol. Fodd bynnag, maent yn cael eu dal yn 么l gan ddiffyg adnoddau.
Cafwyd yr ap锚l ganlynol gan Peter Bellingham y prif ymchwilydd:
"O ystyried cryfder ein tystiolaeth o ganlyniadau difrifol yr ymlediad hwn i fioamrywiaeth, rydym yn annog y sefydliadau perthnasol yn Jamaica, a chyrff cyllido rhyngwladol, i flaenoriaethu rhaglen o reoli'r rhywogaeth hon. Rydym yn sicr y bydd ymyriad cyflym ar hyn o bryd yn gost effeithiol iawn, gan leihau costau llawer mwy ceisio adfer y coedwigoedd brodorol os caniateir i'r ymlediad ymledu ymhellach."
Dyddiad cyhoeddi: 2 Ionawr 2018