Gwrthbrofi鈥檙 cysylltiad rhwng gwenwyn nadroedd ac ysglyfaeth
Mae'r hyn oedd yn datblygu i fod yn rhagdybiaeth gyffredin ymhlith herpetolegwyr, sef bod cyfansoddiad gwenwyn nadroedd fel rheol yn adlewyrchu amrywiaeth eu hysglyfaeth, wedi cael ei wrthbrofi mewn un rhywogaeth gyffredin o nadroedd rhuglo Gogledd America.
Roedd nifer o astudiaethau diweddar wedi nodi cysylltiadau rhwng y math o ysglyfaeth a'r math o wenwyn a oedd wedi esblygu mewn rhywogaethau o nadroedd gwenwynig ledled y byd. Credwyd bod hyn yn adlewyrchu dethol naturiol er mwyn cael y gwenwyn gorau i wahanol fathau o ysglyfaeth, ac weithiau'n 'ras-arfau' esblygiadol rhwng rhywogaethau o nadroedd ac ysglyfaeth.
Mae ymchwil newydd gan d卯m rhyngwladol dan arweiniad gwyddonwyr ym Mhrifysgol 亚洲色吧, Dr Giulia Zancolli (bellach yn y Swiss Institute of Bioinformatics) a Dr Wolfgang W眉ster o Ysgol Gwyddorau Naturiol y Brifysgol, a gyhoeddwyd heddiw (13/3/19) yn y , wedi gwrthbrofi'r dybiaeth hon mewn nadroedd rhuglo Mojave yng Ngogledd America, Crotalus scutulatus. Mae hefyd wedi ailagor y ddadl am yr hyn sy'n gyrru esblygiad gwahanol wenwynau mewn nadroedd.
Mae gwahanol boblogaethau o nadroedd rhuglo Mojave, ar draws eu hamrediad, yn arddangos dau fath penodol o wenwyn: gwenwynau niwrotocsig, a elwir yn "wenwyn A" sy'n achosi parlys, neu wenwynau haemotocsig, a elwir yn "wenwyn B", sy'n achosi niwed i feinweoedd lleol a gwaedu. Gall y gwenwynau niwrotocsig fod gymaint 芒 deg gwaith yn fwy marwol na'r gwenwynau haemotocsig, er gwaethaf y ffaith bod poblogaethau gyda mathau gwahanol o wenwynau'n byw yn eithaf agos at ei gilydd.
Wrth geisio gael gwell dealltwriaeth o鈥檙 rhesymau y tu 么l i'r amrywiad rhyfeddol rhwng gwenwynau o fewn y rhywogaeth gyffredin hon, canfu鈥檙 ymchwilwyr nad oedd cydberthynas ddisgwyliedig rhwng mathau o ddiet a gwenwyn nadroedd. Ni wnaethant chwaith ddod o hyd i gydberthynas rhwng y math o wenwyn a gwahaniaethau genetig gwahanol boblogaethau o fewn yr un rhywogaeth.
"Roeddem wedi disgwyl gweld y byddai'r dosbarthiad o'r gwahanol fathau o wenwyn yn adlewyrchu pa ysglyfaeth y mae'r nadroedd yn ei fwyta mewn gwahanol leoedd. Yn hytrach, yr hyn a welsom oedd bod yr amrywiad o wenwyn yn cyfateb yn llawer agosach i ffactorau amgylcheddol fel hinsawdd a llystyfiant," eglurodd Dr Wolfgang W眉ster o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol 亚洲色吧.
Meddai: "Mae hyn yn herio'r dybiaeth eang gyfredol mai cyfansoddiad diet yw鈥檙 prif reswm am gyfansoddiad gwenwyn. Mae'r canlyniadau hyn yn ailagor y drafodaeth gyfan am yr hyn sy'n wirioneddol yn gyrru esblygiad cyfansoddiad gwenwyn mewn nadroedd."
"Y rheswm pam ein bod yn astudio esblygiad gwenwyn nadroedd yw bod systemau gwenwyn anifeiliaid yn rhoi model da i ni gael gwell dealltwriaeth o'r hyn sy'n achosi addasiadau esblygiadol. Yn amlwg, gall yr union ffordd y mae dethol naturiol yn gweithredu ar gyfansoddiad gwenwyn fod yn llawer mwy cynnil a chymhleth nag a dybir yn aml."
Ychwanegodd Giulia Zancolli: "Yr hyn roeddwn i'n ei weld yn arbennig o ddiddorol oedd y ffordd y gall ein hastudiaeth ddangos bod rhwystrau ym myd natur sy鈥檔 gosod pwysau detholus cryf, ond nid ydynt yn amlwg i'n llygaid. Dim ond trwy samplu cynhwysfawr ac edrych ar yr un pryd ar nifer o wahanol ffactorau, fel diet, geneteg a'r amgylchedd y gallwn ddechrau eu canfod".
Ariannwyd yr ymchwil gan Grant Ymddiriedolaeth Leverhulme, Ysgoloriaeth Dechrau Gyrfa Santander a Grant Ministerio de Econom铆a y Competitividad Llywodraeth Sbaen. Roedd yn cynnwys cyfraniadau oddi wrth Brifysgol 亚洲色吧, CSIC, Valencia, Sbaen, Prifysgol San Diego State, Prifysgol Cornell, Prifysgol Loma Linda, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Arizona, Prifysgol Arizona State, Prifysgol Texas yn El Paso a Seattle Central College.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2019