Arbed miliynau trwy roi'r dechrau gorau mewn bywyd i fabanod Cymru
Gall buddsoddi mewn rhaglenni sy'n hyrwyddo'r dechrau gorau mewn bywyd i'n babanod a'n plant arwain at arbedion ariannol yng Nghymru yn y tymor byr a'r tymor hir.
Dyna yw dadl economegwyr iechyd yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau () ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn eu hadroddiad "" a lansiwyd heddiw (13 Hydref 2016).
Mae CHEME yn rhan o鈥檙 Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ac yn cyfrannu at Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol newydd 亚洲色吧 (BIHMR) sy鈥檔 dod ag ymchwil iechyd ar draws y brifysgol at ei gilydd.
Fel yr eglurodd awdur arweiniol yr adroddiad, yr Athro Rhiannon Tudor Edwards: "Mae un o bob tri o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru heddiw. Gall y rhai sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ddisgwyl byw 19 mlynedd yn llai mewn iechyd da na'r rhai a anwyd yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Mae Cymru eisoes yn gwario miliynau o bunnoedd bob blwyddyn ar ganlyniadau dechrau gwael mewn bywyd llawer o fabanod a enir heddiw. Mae'r rhain yn ffeithiau cydnabyddedig ac mae eu canlyniadau yn gostus iawn i'r economi a chymdeithas.
Mae gan Gymru eisoes gyfeiriad polisi a buddsoddiad sylweddol mewn rhaglenni ac arferion sy'n ymwneud 芒'r blynyddoedd cynnar. Er mwyn adeiladu ar hyn, b没m yn edrych ar y dystiolaeth economaidd i gefnogi buddsoddi mewn gwasanaethau a rhaglenni sydd wedi eu targedu at blant o dan 7 oed. Gwelwyd bod buddsoddi mewn iechyd a lles babanod a phlant ifanc yn rhoi cyfle i Gymru elwa yn y dyfodol o fuddiannau yn y tymor byr a'r tymor hir ym mhob rhan o gymdeithas."
Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at dystiolaeth bod y sylfeini ar gyfer ffynnu wedi'u gosod ymhell cyn genedigaeth, ac mae鈥檙 amser pwysig i fuddsoddi yw cyn cenhedlu ac yn ystod beichiogrwydd cynnar. Mae'r adroddiad yn tynnu ar dystiolaeth sy'n dangos y gall pob 拢1 a gaiff ei wario ar wasanaethau atal cenhedlu ddod ag arbedion o rhwng 拢11 ac 拢14 i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Hefyd mae darparu fitaminau hanfodol i bawb yn ystod beichiogrwydd cynnar yn debygol iawn o fod yn gost-effeithiol. Amcangyfrifir bod y gost ychwanegol a roddir ar wasanaethau mamolaeth GIG Cymru pan genir babanod 芒 phwysau geni isel oherwydd ysmygu a ffactorau risg eraill y gellir eu haddasu, yn 拢2.15 miliwn y flwyddyn. Amcangyfrifir hefyd y gall cynyddu canran y merched sy'n bwydo ar y fron yn unig ar 么l 4 mis (9% ar hyn o bryd yng Nghymru) o gymharu 芒'r nifer adeg genedigaeth (57% yng Nghymru) arbed 拢1.5 miliwn y flwyddyn i'r GIG yng Nghymru wrth drin afiechydon plentyndod cynnar cyffredin.
Mae gan oddeutu 5% o blant Cymru rhyw fath o anhwylder ymddygiad. Mae costau'r sector cyhoeddus am blant gydag anhwylderau ymddygiad, deg gwaith yn fwy nag am blant heb unrhyw anhwylderau ymddygiad. Mae'r adroddiad yn pwysleisio y gall rhaglenni rhianta, os y'u cyflwynir yn dda, fod yn effeithiol a chost-effeithiol o ran atal a lleihau effeithiau tymor hir anhwylder ymddygiad mewn plant, gydag arbedion oes posibl o oddeutu 拢150,000 yr achos.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y cyd-destun ehangach i fuddsoddi yn y blynyddoedd cynnar trwy ystyried amgylchedd plant a chymunedau. Gan gydnabod pwysigrwydd gweithgarwch corfforol a chwarae, mae'r adroddiad hefyd yn nodi y gall pob 拢1 a fuddsoddir mewn caeau chwarae antur olygu elw o 拢1.32 ar y buddsoddiad. Dylid rhoi gwerth priodol ar gaeau chwarae a mannau cyhoeddus fel asedau creu iechyd a lles a ffordd o ddelio ag allg谩u cymdeithasol.
Dywedodd yr Athro John R Ashton C.B.E., Cyn Lywydd o'r Gyfadran Iechyd Cyhoeddus, bod yr adroddiad hwn:
"yn mynd 芒 ni oddi wrth fath blinedig ond gwerthfawr o economeg gwasanaeth iechyd tuag at ddisgyblaeth newydd o economeg iechyd cyhoeddus sy'n datblygu. Y man cychwyn yw cydnabod bod plant yn yr unfed ganrif ar hugain yn ased sydd angen eu gwerthfawrogi. Y ddealltwriaeth sy'n llifo o'r wybodaeth ymarferol iawn hon yw bod buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar yn anghenraid economaidd ac nid yn rhywbeth moethus."
Daeth yr awduron i鈥檙 casgliad, yn seiliedig ar dystiolaeth ryngwladol yn cynnwys tystiolaeth gref o effeithiolrwydd rhaglenni ymyrraeth gynnar yng Nghymru, bod buddsoddiad sy'n canolbwyntio ar y ffenest gritigol yn yr ychydig flynyddoedd cyntaf o fywyd, yn debygol o roi'r defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau cyhoeddus, gan greu mwy o elw na mathau eraill o fuddsoddi ariannol a buddsoddi ar adegau eraill yn ystod cwrs bywyd.
Meddai'r Athro Judy Hutchings, OBE, Canolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth, Ysgol Seicoleg, Prifysgol 亚洲色吧:
"Mae'r Athro Edwards a'i th卯m wedi gwneud gwaith ardderchog yn adolygu'r dystiolaeth hon a thynnu sylw at y manteision dynol ac ariannol hirdymor sy'n codi o ymyrraeth gynnar. Mae'n rhaid gweithredu ar yr adroddiad hwn er mwyn unioni effaith allg谩u cymdeithasol ar ganlyniadau tymor hir plant difreintiedig."
Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2016