Ysgrifennu am 'Lawdriniaeth agored’ ar yr ymennydd
Mae ymchwilydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi ymddangos ar restr fer ar gyfer Gwobr 2011 Ysgrifennu Ymddiriedolaeth Wellcome Gwyddoniaeth a noddir gan y Guardian a'r Ymddiriedolaeth Wellcome yn ddiweddar.
Mae darn gan James Keidel am ' Cael llawdriniaeth ar yr ymennydd efo'ch llygaid ar agor' ar gael ar safle Ymddiriedolaeth Wellcome () yn disgrifio sut mae cynnal llawdriniaeth ar diwmorau ar yr ymennydd yn fwy diogel efo’r claf yn effro ac yn ymateb i asesiadau fel y gall y niwrolawfeddyg sefydlu pa rannau o'r ymennydd sydd wir angen eu harbed i gadw gweithreded yr ymennydd.
Daw James, sydd yn 36 o Philadelphia, Pennsylvania, yn wreiddiol. Cafodd ei ddenu i weithio ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É gan y cyfle i weithio yn yr Athro Guillaume Thierry yn labordy yn yr Ysgol Seicoleg, lle mae James wedi bod yn ymchwilio ers 2010. Mae’n cynnal astudiaethau delweddu cyseiniant magnetig swyddogaethol (fMRI) o sut mae'r ymennydd yn amgodio ystyr, yn ogystal ag ymchwilio i drefniadaeth yr ymennydd dwyieithog.
Meddai James: "Gwelais y gystadleuaeth wedi’i hysbysebu yn y Guardian. Roeddwn wedi gwneud ychydig o ysgrifennu "gwyddoniaeth boblogaidd" o'r blaen ac wedi rhoi sgwrs fel rhan o weithdy yn yr Ŵyl Wyddoniaeth Prydain ychydig o flynyddoedd yn ôl.
Dewisais y pwnc gan fy mod wedi gweithio mewn maes perthnasol ar y cyd â'r Adrannau Niwroseicoleg a Niwrolawdriniaeth yn Ysbyty Brenhinol Ymddiriedolaeth Sefydledig Salford cyn dod i Fangor.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2011