Ysgol y Gwyddorau Meddygol sydd 芒 Chynrychiolydd Cwrs gorau'r Flwyddyn
Yn y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr eleni, Adam Hawker, Uwch Gynrychiolydd Cwrs Gwyddorau Meddygol a enillodd Wobr Cynrychiolydd Cwrs o Ddewis y Myfyrwyr.
Yn 么l Dr Thomas Caspari, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol dros Addysgu a Dysgu: 'Roedd Adam yn uwch gynrychiolydd cwrs rhagorol a gyfrannodd yn sylweddol at ddatblygu rhaglen gref i lais y myfyrwyr yn yr Ysgol. Roedd Adam yn gyd-gadeirydd y Bartneriaeth Addysgu, gr诺p arloesol sy'n dod ag academyddion, myfyrwyr a staff cefnogi at ei gilydd i drafod yr holl faterion sydd a wnelont ag addysgu yn yr Ysgol. Roedd Adam yn llawn haeddu'r wobr wych hon.'
Ychwanegodd Adam Hawker: 'Mae'r flwyddyn a aeth heibio wedi bod yn un gyffrous i Ysgol y Gwyddorau Meddygol gyda'r ysgol ar i fyny o ran niferoedd y myfyrwyr a'r cyrsiau sydd ar gael ac mae gallu cynrychioli'r myfyrwyr yn ystod y newidiadau hyn wedi bod yn bwysig iawn. Mae bod yn Gynrychiolydd Cwrs am y tair blynedd diwethaf wedi chwarae rhan bwysig yn fy natblygiad personol i ym Mhrifysgol 亚洲色吧 ac mae'n anrhydedd cael fy nghydnabod drwy'r wobr hon.'
Mae Ysgol y Gwyddorau Meddygol yn rhoi perchnogaeth i'r holl fyfyrwyr ar eu rhaglenni gradd ac yn galluogi iddynt berfformio ar eu lefel uchaf. Mae'r Ysgol hefyd yn cynnig Rhaglen Profiad Proffesiynol, ar y cyd rhwng Gwobr Cyflogadwyedd 亚洲色吧 a Santander, i ganiat谩u i bob myfyriwr allu datblygu'u sgiliau cyflogadwyedd tra b么nt yma ym mhrifysgol 亚洲色吧.
Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio gyda ni, cysylltwch 芒 ni: medsciences@bangor.ac.uk
Ff么n: +44 (0) 1248 38 3244
Pennawd y llun: Adam Hawker yn derbyn y wobr gan yr Athro Carol Tully, y Dirprwy Is-ganghellor dros Fyfyrwyr (ar y chwith) ac Is-lywydd Undeb y Myfyrwyr dros Addysg a Lles Lydia Richardson (ar y dde).
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2016