Ysgol Seicoleg yn ennill gwobr Efydd Athena SWAN
Mae Ysgol Seicoleg Prifysgol 亚洲色吧 wedi derbyn Gwobr Efydd Athena SWAN gan yr. Mae'r Equality Challenge Unit yn cefnogi sefydliadau addysg uwch ar draws y DU i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth i holl staff a myfyrwyr. Mae siarter Athena SWAN yr Equality Challenge Unit yn cydnabod yn benodol ymrwymiad i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau o fewn addysg uwch.
Rhoddwyd gwobr adran Efydd i gydnabod bod yr Ysgol Seicoleg, yn ychwanegol at bolis茂au ar draws y Brifysgol, wedi nodi heriau penodol o ran cydraddoldeb rhywiol, yn ogystal 芒 datblygu cynllun ar gyfer y dyfodol a fydd yn adeiladu ar yr asesiad hwn ac yn gweithio tuag at gael gwared ar rwystrau i ddilyniant a llwyddiant ar gyfer holl staff a myfyrwyr. Bydd y wobr yn ddilys tan 2019 pan y gellir unai ei hadnewyddu neu ei disodli gan ddyfarniad Athena SWAN lefel uwch.
Dywedodd yr Athro John Parkinson, Pennaeth yr Ysgol:
"Rwy'n falch iawn ein bod wedi llwyddo gyda鈥檔 cais ar gyfer gwobr Efydd Athena SWAN. Mae hyn wedi bod yn ymdrech t卯m rhagorol, o dan arweiniad deinamig Emily Cross a gyda chefnogaeth gan nifer o unigolion ymroddedig. Bydd y cais llawn, gan gynnwys dadansoddiadau niferus ynghylch cydraddoldeb rhwng y rhywiau ar bob lefel (o lefel israddedig hyd at lefel athro) yn yr Ysgol, yn cael ei osod ar wefan Ysgol Seicoleg 亚洲色吧 yn y man i bawb eu gweld. Yn arwyddocaol, mae鈥檙 t卯m hunanasesu Athena SWAN wedi drafftio cynllun gweithredu a byddwn yn anelu i roi hwn ar waith dros yr ychydig flynyddoedd nesaf i gydraddoli ymhellach yr amgylchedd weithio ac astudio ar gyfer pob aelod o'r Ysgol."
Yr Ysgol Seicoleg yw'r ail ysgol yn y Brifysgol i ennill Gwobr Efydd Adrannol, yn dilyn llwyddiant yr Ysgol Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn ennill gwobr Efydd yn 2015. Mae Prifysgol 亚洲色吧 hefyd gyda statws gwobr Prifysgol Efydd Athena SWAN.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2016