Ysgol Glinigol Gogledd Cymru yn derbyn dwy wobr Rhagoriaeth mewn Addysgu
Mae dwy diwtor o Ysgol Glinigol Gogledd Cymru, Einir Mowll a Catrin Roberts wedi ennill Gwobrau Rhagoriaeth mewn Addysgu o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.
Einir Mowll yw'r tiwtor sgiliau clinigol a symbylu yn Ysgol Glinigol Gogledd Cymru, 亚洲色吧 a hi sy'n gyfrifol am ddarparu addysg sgiliau clinigol i fyfyrwyr meddygol o Gaerdydd, ynghyd 芒 meddygon iau a myfyrwyr o Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol 亚洲色吧.
Mae wedi gweithio'n galed i ddatblygu rhaglen sgiliau clinigol o'r radd flaenaf yn yr ysgol glinigol ac mae hi'n llwyr haeddu ei gwobr yn y categori Arloesedd mewn Addysgu am ei gwaith ar hyfforddiant symbylu. Mae wedi datblygu sesiynau addysgu amlddisgyblaethol sy'n cynnwys myfyrwyr nyrsio yn ogystal 芒'r myfyrwyr meddygol. Ein nod yw cael gwared ar rwystrau rhwng y ddau gr诺p proffesiynol a hyrwyddo rheoli adnoddau t卯m sy'n annog pob aelod o d卯m i fynegi eu barn os ydynt yn anghytuno ag unrhyw weithredoedd neu i ddynodi camgymeriadau. Mae hyn yn helpu i atal camgymeriadau mewn triniaeth, a gwella diogelwch cleifion yn y pen draw.
Catrin Roberts yw'r Fferyllydd Addysg Feddygol yn Ysbyty Gwynedd ac mae'n addysgu myfyrwyr meddygol a meddygon iau i sicrhau eu bod yn gallu rhagnodi'n ddiogel. Mae hefyd yn addysgu ar y cwrs BMedSci ym Mhrifysgol 亚洲色吧.
Dyfarnwyd y wobr Rhagoriaeth Addysgu iddi am ddatblygu'r rhaglen addysgu fferyllol i fyfyrwyr meddygol, y cyntaf o鈥檌 bath yng Nghymru, ac mae Prifysgol Caerdydd wedi'i alw'n arfer gorau. Mae wedi cael ei chyflwyno ledled BIPBC bellach ac mae gweddill Cymru yn cynnig rhaglenni tebyg i'w myfyrwyr.
Dywedodd Kim Thomas, Rheolwr Ysgol Glinigol Gogledd Cymru yn Ysbyty Gwynedd, "Rwy'n hynod o falch o Einir a Catrin am gael y gwobrau haeddiannol hyn. Mae'r ddwy wedi gweithio'n galed iawn i ddatblygu rhaglenni addysgu eithriadol sydd wedi cael adborth rhagorol gan fyfyrwyr, ond a fydd hefyd yn arwain at well diogelwch i gleifion. Gan fod mwyafrif y gwobrau hyn fel arfer yn cael eu dyfarnu i diwtoriaid o Gaerdydd, mae'n braf iawn gweld bod safonau addysgu yng Ngogledd Cymru yn cael eu cydnabod fel hyn."
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2015