Yr holl fyfyrwyr radiograffeg sy鈥檔 graddio eleni wedi cael swyddi
Mae myfyrwyr blwyddyn olaf sy'n graddio o Brifysgol 亚洲色吧 yr wythnos hon i gyd wedi cael swyddi mewn byrddau iechyd amrywiol yng Nghymru a Lloegr.
Roedd pob un o'r 17 o fyfyrwyr wedi cael swyddi cyn sefyll eu harholiadau terfynol, a hynny hyd at dri mis cyn graddio.
Dywedodd yr Athro Jo Rycroft-Malone, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, a oedd yn naturiol wrth ei bodd efo鈥檙 canlyniad: "Mae hyn yn gamp wych gan ein myfyrwyr, ac mae鈥檔 tystio i ansawdd arbennig y rhaglenni gofal iechyd a ddarparwn yn yr Ysgol, a rhagoriaeth ein darlithwyr. Mae'n dda gwybod ein bod yn cyfrannu鈥檔 ystyrlon at ddarparu gwasanaethau iechyd o ansawdd uchel yn rhanbarthol ac yn genedlaethol."
Dywedodd Elizabeth Carver, prif ddarlithydd a chydlynydd addysg glinigol, bod y myfyrwyr hyn wedi bod yn gr诺p blwyddyn rhagorol ac: "mae'n ymddangos bod darpar gyflogwyr yn sylweddoli y byddant yn gwneud gweithwyr iechyd proffesiynol ardderchog hefyd. Fe wnaeth un myfyriwr hyd yn oed lwyddo i gael swydd bur ddeniadol y cafodd nifer o radiograffwyr cymwysedig (a phrofiadol) gyfweliad amdani."
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2015